Mae Tania yn siaradwr Cymraeg sydd wedi ennill gradd mewn Cyfryngau a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Bangor ac mae ganddi gymhwyster hyfforddiant PTLLS. Dechreuodd ei gyrfa fel newyddiadurwr y wasg a bu hefyd yn gweithio fel Arweinydd Clwb Ieuenctid ble datblygodd ei sgiliau yn gweithio ac yn ysgogi pobl ifanc. Symudodd ymlaen i weithio fel Cydlynydd y Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Cenedlaethol i Bobl Ifanc yng Nghymru, CLICarlein, gyda Gyrfa Cymru i gychwyn ac yna i ProMo-Cymru. Bellach mae Tania yn olygydd cynnwys ar amryw wefannau darparir gan ProMo-Cymru ac mae’n gyfrifol am gyfieithu ar ran y sefydliad.
Manylion Cyswllt
07896 956839
tania@promo.cymru