Pwyllgor Rheoli
Ymunodd Louise â ProMo-Cymru fel Ymddiriedolwr yn 2017, gyda deg mlynedd o brofiad yn gweithio yn y maes tai cymdeithasol yng Nghymru. Roedd ei gwaith yn cynnwys adfywio cymunedol, diwygiad lles, cyfranogiad tenantiaid a chynhwysiant ac arloesiad digidol. Yn y cyfnod yma roedd yn aelod rhagweithiol o sawl partneriaeth, fel CIH Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru, a Cymunedau 2.0 Llywodraeth Cymru. Bellach yn rheolwr prosiect yn y gwasanaeth sifil, mae Louise yn gyfrifol am reoli ac ennill cytundebau cyhoeddus o werth uchel, a hefyd yn cynyddu ei phrofiad i ddod yn Rheolwr Prosiect Siartredig.
Twitter: @louisekingdon