Rydym Yn Mynd i Digital 2017 – Ydych Chi?

by Tania Russell-Owen | 8th Medi 2017

Digital 2017 ydy digwyddiad Digidol, Arloesol a Thechnegol arweiniol Cymru. Mae ProMo-Cymru yn mynd, dyma pam y dylech chi hefyd.

Ble?

Tramshed Tech, Pendyris St, Caerdydd, CF11 6BH.

Pryd?

Dydd Llun, 18fed a dydd Mawrth 19eg Medi 2017.

Faint?

Mae cofrestru’n rhad ac am ddim.

Pam?

Gweler uchod. Mae’n ddigwyddiad am ddim yn ymwneud ag arloesiad a thechnoleg yng Nghymru. Daw ysgogwyr a chynhyrfwyr y trydydd sector, y sector cyhoeddus a’r sector breifat, at ei gilydd i rannu syniadau. Gallech chi edrych ar agenda llawn y ddau ddiwrnod yma. Dyma rai o’r gweithdai rydym ni’n edrych ymlaen atynt fwyaf:

Rhestr cyflwyniadau erthygl Digital 2017

Bydd yna ddigonedd o gyfleodd i rwydweithio a gwneud cysylltiadau. Ond, nid oes rhaid i chi ddisgwyl tan y diwrnod ei hun i fanteisio ar y cyfle. Pan fyddech chi’n cofrestru mae yna ddatblygiad bach cyffrous sydd yn gadael i chi weld y mynychwyr eraill i gyd, a gallech chi ofyn i gyfarfod cyn y diwrnod ei hun. Gyda phobl yn mynychu o amrywiaeth eang o sefydliadau, fel Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru, Mind, Chwaraeon Cymru, United Welsh, Trenau Arriva Cymru, yn ogystal â busnesau newydd eu sefydlu ac entrepreneuriaid, bydd yna amrywiaeth eang o sgiliau, dulliau ac arloeswyr yn Digital 2017.

Mae’n debyg bod y teitl wedi datgelu pethau, ond i gadarnhau, bydd ProMo-Cymru yno ar y ddau ddiwrnod. Mae gennym stondin a byddem yn mynychu’r cyflwyniadau, gweithdai a thrafodaethau. Dewch i ddweud helo a dysgu mwy am ein Model TYC.

“Nid mater tueddiadau technoleg ddiweddaraf yn unig yw Digital, ond am ddysgu bod posib gweithredu cyn gynted ag yr ydych yn ôl wrth eich desg. Diolch i Promo-Cymru, gall cyrff dielw fuddio o awgrymiadau cynllunio cyfathrebu am ddim fydd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i’r sefydliad.”

 

Katrina Cinus, Rheolwr Digwyddiad, Digital

 Cofrestrwch am ymgynghoriad TYC am ddim

Ydych chi’n gorff dielw sydd yn ymwneud â’r gymuned? Yna rhowch 20 munud o’ch amser i ni a gallem roi ychydig o awgrymiadau a thriciau gall helpu chi i wella’ch cynllun cyfathrebu, cael trefn ar eich gwefan, a thanio’ch cyfryngau cymdeithasol.

Model TYC ar gyfer Digital 2017

Edrychwn ymlaen at eich cyfarfod yn Digital 2017, cofiwch gofrestru, dilynwch @TheDigitalFest a threfnu cyfarfod gydag un ohonom yn ProMo-Cymru.

Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs…

029 2046 2222

info@promo.cymru

@ProMoCymru