Rheolwr Canolfan EVI

by Andrew Collins | 10th Rhag 2021

Rheolwr Canolfan EVI

Cyflog £30,511 – £33,000 
Blwyddyn o gytundeb (yn gweithio tuag at swydd barhaol) 

Mae ProMo-Cymru yn elusen ac yn sefydliad dielw sydd yn darparu datrysiadau datblygu arloesol yn y sector cymdeithasol. Rydym yn arbenigo hefyd mewn cyfathrebu digidol ieuenctid a theulu, eiriolaeth plant ac adfywio adeiladau cymunedol.

Mae ProMo-Cymru wedi gweld cryn arloesi a thyfiant yn y 30 mlynedd diwethaf. Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd cymwysterau a phrofiad ond mae ProMo hefyd yn chwilio am yr unigolion cywir sydd yn gallu cynnig rhywbeth newydd a gwahanol i’n sefydliad.

Rydym yn cydbwyso gwaith tîm, annibyniaeth ac ymdeimlad o gyfrifoldeb i wella ein gwasanaethau a’n cynnyrch. Rydym yn gweithio’n galed ar ran ein cleientiaid a’n partneriaid ac yn mwynhau rhannu’r gwobrwyon gyda nhw. Anogir gweithwyr i fod yn rhan o’r broses arwain a gwneud penderfyniadau, gan roi sylw personol i eraill a gwneud i bob unigolyn deimlo fel ei fod yn cael ei werthfawrogi.

Rydym yn chwilio am gydweithwyr sydd yn gallu gweithio yn ôl y gwerthoedd yma. Rydym angen pobl ragweithiol sydd â brwdfrydedd, eglurder a gweledigaeth. Os ydych chi’n teimlo fel eich bod chi yn cyrraedd yr uchod, rydym yn recriwtio a byddem wrth ein boddau yn clywed gennych chi!

Rheolwr Canolfan EVI  

Rydym yn chwilio am Reolwr Canolfan ar gyfer Institiwt Glynebwy (EVI), adeilad rhestredig Gradd II a’r institiwt hynaf yng Nghymru. Bydd rôl Rheolwr y Ganolfan yn cynnwys yr holl ddyletswyddau sydd ynghlwm â rheoli Canolfan Diwylliannol a Chelfyddydol, yn ogystal â chyfrifoldebau mwy penodol o ddarparu gwasanaeth sydd yn briodol ar gyfer y gymuned a’r rhanddeiliaid. 

Bydd Rheolwr Canolfan yr EVI yn chwarae rhan allweddol yn sicrhau rheolaeth broffesiynol yr EVI a sicrhau bod popeth yn rhedeg yn dda. Yn gweithio’n agos gyda’r Prif Weithredwr a’r Dirprwy Prif Weithredwr a’r bwrdd rheoli yn ogystal â phartneriaid lleol a phartneriaid sector, bydd Rheolwr Canolfan yr EVI yn gweithio i sicrhau bod yr EVI yn gyfleuster bywiog, hunangynhaliol, sydd yn cael ei reoli’n llwyddiannus. 

Bydd angen i’r person yn y swydd fod ag ymrwymiad cryf i helpu aelodau’r gymuned i gymryd rhan a helpu rheoli digwyddiadau yn y Ganolfan. Bydd angen bod yn hunan dibynnol, egnïol, gallu adnabod a datblygu cyfleoedd a gallu blaenoriaethu gwaith. 

Bydd gan y person yn y swydd brofiad o ymgysylltu, rheoli ac arwain staff a rheoli cyllid. 

Lawr lwythwch y disgrifiad swydd.

Lawr lwythwch y pecyn cais yma. 

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: pat@promo.cymru 

ProMo-Cymru,
17 Stryd Bute y Gorllewin,
Bae Caerdydd,
CF10 5EP 

www.promo.cymru 

(029) 2046 2222 

Dyddiad Cau: Dydd Llun 31ain Ionawr 2022, 12 y prynhawn 

Dyddiadau Cyfweld (ar Zoom): Dydd Mercher 9fed a Dydd Gwener 11eg Chwefror