ProMo Yn Helsinki: #Eryica30 & #Digiera16

by promocymru_admin | 29th Ebr 2016

Os ydych wedi bod yn dilyn ein cyfrifau Twitter ac Instagram yn ddiweddar, mae’n debygol eich bod chi wedi sylwi bod lot o’r postiadau wdi cynnwys yr hashnod #Eryica30 a #digiera30.

Y rheswm am hyn oedd taith Marco, Arielle, a Sam i Helsinki, Y Ffindir, am gynhadledd am Heriau a Chyfleoedd Gwybodaeth ac Chynghori Ieuenctid Mewn Oes Ddigidol. Roedd hefyd yn ben-blwydd ar Eryica yn 30.

Roedd llwyth o weithdai, rhyngweithio gwych, yn ogystal â bwyd blasus, felly dyma cwpl o luniau yn esbonio beth wnaethom ni…

Dydd Mawrth 19eg Ebrill 2016

Bore cynnar i ni gyd.

#happycampers

A photo posted by ProMo-Cymru (@promocymru) on

Ar ôl taith bws 3 awr, a 3 awr arall ar awyren, cyrhaeddom ni’r gwesty yn Helsinki. Beth ddylem ni wneud? Dadpacio? Rhedeg bath? Mae ProMo’n gweithio’n galed, a chwarae’n galed… felly yn syth i’r sesiwn gyntaf â ni!

Ia, wir, mae Mika o Koordinaatti mor fawr â hynny. Fel rhan o’r sesiwn “Datblygiad mewn gwybodaeth a chynghori ieuenctid o’r 80au hyd heddiw”, roedd cwis am 1986 yn defnyddio’r teclyn grwfi yma, sef Kahoot, rhywbeth byddwn bendant yn defnyddio rhywbryd. Daeth Sam yn gyntaf yn y cwis, a daeth Helen o CWVYS yn drydydd, aur ac efydd i Gymru…

Editor Sam sure loves a #pubquiz #DigiEra16 #Eryica30

A photo posted by FeedTheSprout (@feedthesprout) on

Wedyn, cawsom ni eog i ginio.

Dydd Mercher 20fed Ebrill 2016

Dydd Mercher oedd diwrnod swyddogol cyntaf y gynhadledd, ac yn bwysicaf, pryd gafodd Sam ei wobr…

#Repost @feedthesprout with @repostapp ・・・ Sam the editor’s prize swag from yesterday’s #DigiEra16 quiz

A photo posted by ProMo-Cymru (@promocymru) on

Het ydyw ac un o’r banciau sy’n gwefru ffôn symudol (defnyddiol iawn wrth ystyried bod Sam yn postio ar Instagram ar ran ProMo a theSprout). Er gwybodaeth, Nuortenelämä yw gwasanaeth gwybodaeth, cyngor, a chefnogaeth ar gyfer pobl ifanc Y Ffindir.

Treuliwyd gweddill y bore yn trafod gwybodaeth ddigidol ar gyfer pobl ifanc, sydd i’w gweld yn y graffeg gwych yma (a ddyluniwyd yn fyw ar y dydd!)…

Cafodd Sam, gyda rhai o’r mynychwyr eraill, y dasg o ateb y cwesitwn: “Sut gall Gwasnaeth Gwybodaeth Pobl Ifanc fod yn “fideo cath” cyfryngau cymdeithasol?” Felly, fe dynodd Sam y llun yma:

We went with #dynamic #shareable #friendly and questioned #capacity. #catselfie #DigiEra16

A photo posted by ProMo-Cymru (@promocymru) on

Yna, chwaraeon ni gemau, diolch i Joost o De Aanstokerij in Belgium, sy’n datblygu gemau addysgol ar gyfer pobl ifanc, a wedyn cawsom ni eog i ginio.

Dydd Iau 21ain Ebrill 2016

Roedd Dydd Iau wedi’i seilio ar “Ymarfer Gorau”, ysbrydolaethau, rhyngweithio, a chynllunio’r dyfodol. Cafodd pawb 10 munud i gyflwyno’u prosiect: Meic, y llinell gymorth gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru, a theSprout, y cylchgrawn barnau a gwybodaeth ar-lein ar gyfer pobl ifanc yng Nghaerdydd.

A chyflwynodd Arielle KLU, prosiect newydd fydd yn rhannu barnau pobl ifanc o wledydd Ewrop…

Arielle explains #KLU at #digiera16

A photo posted by ProMo-Cymru (@promocymru) on

Yn sôn am KLU, cawsom ni sesiwn lle bu sefydliadau o 8 gwlad â ddiddordeb mewn cymryd rhan…

International meeting of minds on #KLU #digiera16

A photo posted by ProMo-Cymru (@promocymru) on


Cafodd Marco gyfle i siarad ar banel i adrodd pa bethau byddem yn cymryd yn ôl gyda ni.

Nesaf ar yr agenda oedd ymweliadau i wasanaethau gwybodaeth a chynghori lleol i bobl ifanc. Aeth Marco a Sam i weld Ohjaamo Helsinki, canolfan gwybodaeth swish sy’n canolbwyntio ar gyrfaoedd ar gyfer pobl ifanc.

Ohjaamo auttaa sinua mietityttävissä asioissa! #digiera16 #ohjaamohelsinki

A photo posted by Heta Malinen (@aluekoordinaattoriheta) on

Yna, roedd bach o amser i ni rhyngweithio ac i baratoi am barti mawr ERIYCA ar ynys preifat ein hun (am y noson). Ynys preifat!…Wel, 20 metr o’r lan…

Our ride home from the #Eryica30 80s party #imonaboat #lonelyisland

A photo posted by FeedTheSprout (@feedthesprout) on

Gan bod ERYICA yn 30 oed, roedd thema 80au i’r parti…ond mi aeth rhai â’r thema braidd yn rhy bell…

Fe dychwelodd Arielle a Sam, (prif ffotograffydd ProMo ar y trip) ar y dydd Gwener, ond fe gawsant amser grêt. Hoffwn ddiolch i Koordinaatti am drefnu’r gynhadledd!

A phen-blwydd hapus ERYICA!