ProMo-Cymru a Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru

by Tania Russell-Owen | 17th Tach 2017

Yn ôl yn fis Hydref roedd ProMo-Cymru yn falch o fod ar restr fer Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru. Cawsom ein henwebu yn y categori Technoleg Er Budd.

Mae’r gwobrau yma yn dathlu llwyddiannau a chyflawniadau busnesau cymdeithasol ledled Cymru. Felly maent yn cydnabod y sefydliadau mwyaf deinamig, mentrus ac uchelgeisiol yn y maes.

Aeth Marco Gil-Cervantes, ein Prif Weithredwr, Arielle Tye, Swyddog Cyfathrebu a’r Cyfryngau, a Tania Russell-Owen, Swyddog Datblygu a’r Iaith Gymraeg, draw i Langollen i gynrychioli ProMo-Cymru. Dyma’u hanes o’r gwobrau.

Arielle a Tania yn Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru

Arielle a Tania o ProMo-Cymru yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru

Arddangos ein gwaith

Pafiliwn Llangollen, Sir Ddinbych, oedd lleoliad y gwobrau ar y 4ydd o Hydref, a’r Gynhadledd y diwrnod canlynol. Yn ychwanegol i fynychu’r gwobrau roedd hyn yn gyfle hefyd i ni arddangos ein Model TYC. Cawsom glywed am fentrau cymdeithasol a chydweithfeydd eraill yng Nghymru a’r gwaith maen nhw’n ei wneud.

Arielle Tye yn siarad am ein model TYC yng Nghynhadledd Busnes Cymdeithasol Cymru

Yn cyflwyno’r digwyddiad cyfan roedd y cyflwynydd teledu Morgan Jones. Roedd yr adloniant a’r arlwyaeth yn arbennig o berthnasol hefyd gan fod y ddau yn cael ei ddarparu gan fentrau cymdeithasol. Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych a’i fand pres 32 darn oedd yn darparu’r gerddoriaeth wrth i bobl gyrraedd ac yn ystod y seremoni.

Roedd yr arlwyo dros y ddau ddiwrnod yn cael ei baratoi gan CAIS. Maent yn darparu profiad gwaith a hyfforddiant i’r rhai o gefndir dan anfantais yng Nghonwy. Roedd y bwyd yn wych a byddem yn sicr o ymweld â’u caffi ym Mae Colwyn, Rhyl neu Llandudno pan fyddem yn yr ardal nesaf.

Technoleg er Budd

Marco Gil-Cervantes, Prif Weithredwr ProMo-Cymru, ar y sgrin fawr

Roedd y Wobr Technoleg er Budd yn gategori newydd i 2017. Mae’r wobr yma yn cydnabod y sefydliadau cymdeithasol sydd yn defnyddio technoleg i wella bywydau pobl yng Nghymru. Collodd ProMo-Cymru i Book of You , sydd yn fenter wych yn creu stori bywyd i helpu pobl sydd yn dioddef â dementia.


“Roedd ProMo-Cymru yn falch iawn o fod yn rownd derfynol y categori Gwobr Technoleg er Budd. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, rydym wedi canolbwyntio ar gyd-gynhyrchu ymrwymiad digidol llwyddiannus. Mae ein prosiectau cyfathrebu yn gosod dinasyddion wrth galon y broses bob tro.

Mae’r ffaith bod cydnabyddiaeth i’n gwaith arloesol yn gyflawniad gwych. Hoffwn ddiolch i banel beirniadu Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru am y cyfle yma.”

Marco Gil-Cervantes, Prif Weithredwr ProMo-Cymru


Prif siaradwyr a gweithdai

Alan Mahon o Brewgooder, Prif Siaradwr

Cawsom dau ddiwrnod ffantastig gyda llawer o enillwyr teilwng a siaradwyr. Roedd yn gyfle gwych i ni glywed am yr holl bethau da sydd yn digwydd ledled Cymru. Roedd yna siaradwyr diddorol iawn yn y gynhadledd o Gymru a thu hwnt fe Alan Mahon o Brewgooder sydd yn gwerthu cwrw crefft ac, gyda’r elw, yn cyflenwi dŵr yfed glân o gwmpas y byd.  Clywsom hefyd gan Menna Jones o Antur Waunfawr, menter gymdeithasol sydd yn datblygu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant integredig i bobl gydag anawsterau dysgu.

Hefyd, roedd yna amrywiaeth o weithdai diddorol ac addysgiadol fel ‘Cyfleoedd ar gyfer twf busnes yng Ngogledd Cymru’, ‘Sut i ddefnyddio technoleg ddigidol ar gyfer llwyddiant busnesau cymdeithasol’ ac ‘Arweinyddiaeth gynaliadwy’.

Yr enillwyr

Cawsom dau ddiwrnod gwych yn Llangollen ac rydym yn edrych ymlaen at wobrau a chynhadledd 2018 yn barod. I gloi, dyma enillwyr gwobrau 2017:

Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Spice

Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant – Creating Enterprise CIC

Amgylcheddol – The Furniture Revival

Yn Delio â Defnyddwyr – Valleys Gymnastics

Technoleg er Budd – Book of You

Busnes y Mae’r Gweithwyr yn Berchen Arno – Aber Instruments

Un i’w Wylio – Cerdd Gydweithredol Sir Ddinbych

Menter Gymdeithasol y Flwyddyn 2017 – Creating Enterprise CIC

Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs


Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru