ProMo-Cymru yn Sgwrsio gyda… Garej Google

by Tania Russell-Owen | 13th Ebr 2017

Yn ddiweddar, fe gafodd Andrew Collins (Swyddog Cyfathrebu a Phartneriaethau ProMo-Cymru) gyfle i gael paned o goffi gydag Aled Nelmes, Ymgynghorydd Marchnata Digidol gyda Garej Google (a pherson neis iawn hefyd).

Gofynnodd ychydig o gwestiynau iddo am Garej Google, a’r pethau gallent eu gwneud i ddarpar athrylith marchnata.

Mae Garej Google yn wasanaeth am ddim yn Tramshed ,Caerdydd tan ddiwedd mis Ebrill 2017. Gellir galw heibio dydd Llun i ddydd Gwener, unrhyw amser rhwng 9am a 6pm.

 

Yn gryno, sut fyddech chi’n disgrifio Garej Ddigidol Google i unrhyw un sydd heb glywed amdano yn barod?

Byddwn yn ei egluro fel ymgorfforiad corfforol o’r Garej Ddigidol ar-lein. Mae’r Garej Ddigidol ar-lein yn gwrs marchnata digidol sydd wedi cael ei gynnal gan Google ers cwpl o flynyddoedd. Rydych chi’n derbyn cyfleuster ffurfiol ar y diwedd, sy’n cael ei adnabod gan gyflogwyr a sefydliadau eraill.

Oss nad ydych chi’n hoff o bethau ar-lein neu os nad yw’n llwyddo eich ysgogi, yna gallech chi ddod i mewn i’r Garej. Rydym yn cynnal seminarau ddwywaith yr wythnos a sesiynau mentora un-i-un yn ddyddiol ble gellir derbyn atebion i gwestiynau mwy penodol.

Pwy fydda’n mynd yno a pa fath o bethau gellir eu dysgu yno?

Unrhyw un sydd eisiau cynyddu neu wella’u sgiliau digidol. Rydym wedi cael rhywun yma eisiau dysgu sut i e-bostio’i wyres yn Singapore. A phobl gyda chyllideb o sawl mil ac eisiau gwybod y ffordd gorau i’w wario.

Nid oes yr un cwestiwn yn rhy fach, nac yn rhy fawr – er efallai byddem yn ofni tipyn os yw’n fawr iawn!

Beth yw’r gost? Mae’n swnio’n dda iawn, ond mae’n rhaid bod yna gost yn rhywle?

Dyna fy hoff gwestiwn! Dim byd o gwbl!

I fod yn deg mae yna lawer yn gofyn, “Mae’n rhaid bod yna gost yn rhywle?” Ond mae pobl yn dod i mewn gyda chwestiynau am eu busnes, neu am eu hangerdd, ac yn gadael gyda chyffro newydd i ddilyn y busnes neu’r angerdd yna.

Hoffem feddwl bod pawb sydd yn dod yn gadael yn hapus – maent yn gwenu’r fel arfer beth bynnag!

Os yw rhywun yn dod i mewn, pa fath o brofiad dylent ei ddisgwyl? Fedrwch chi esbonio sut byddant yn treulio prynhawn neu ddiwrnod yn Garej Google, sut brofiad fyddai?

Os ydych chi’n cerdded i mewn, mae pawb yn gwenu arnoch chi! Rydym yn dîm o bedwar. Byddech yn cael cynnig rhywbeth bach i fwyta, WiFi, te a choffi am ddim, y cyfan. Felly os ydych chi ychydig yn llwglyd ac yn defnyddio Google weithiau, mae popeth yn grêt!

Gallech chi ddod i mewn a byddem yn trafod y wahanol wasanaethau gellir eu cynnig. Os ydych chi angen sesiwn mentora un-i-un byddem yn eich gosod gyda’r person sydd fwyaf profiadol, neu gyda’r sgiliau gorau, yn y pethau perthnasol i chi. Er esiampl, dwi’n arbenigo mewn adeiladu gwe o safbwynt adeiladu am ddim a ‘DIY’. Ond mae rhai o’r bobl eraill yn arbenigo mewn Analytics neu AdWords. Byddem yn eich gosod gyda’r opsiwn gorau i chi, i gyd am ddim wrth gwrs!

Aled â’r tîm

Beth fyddech chi’n dweud ydy’r anawsterau cyffredin mae sefydliadau yn ei wynebu ar-lein? Sut gellir datrys hyn?

Mae yna ddau fater mawr yma. Un ydy bod llawer o fusnesau neu elusennau yn meddwl bod rhaid cael llawer o arian i gyflawni dilyniant ar-lein cryf. Ond y realiti ydy, am fod y gwasanaethau digidol yma eisiau i chi eu defnyddio – fel Twitter, Facebook a Google. Byddant yn ceisio gwneud popeth mor gost-effeithiol â phosib i chi.

Er esiampl, mae yna lot o bobl yn dod yma ac yn dweud “Dwi eisiau hysbysebu”, felly rydym yn dweud, “Ydych chi wedi rhoi tro ar farchnata Facebook?” gan eich bod yn gallu gyrru neu dargedu hysbyseb neu bost i fath penodol o berson fydd â diddordeb yn eich cynnyrch neu wasanaeth.

Felly ydych chi’n gallu ei hidlo i bethau fel oedran neu leoliad?

Yn bendant. Oedran, rhyw, lleoliad, diddordebau hyd yn oed! Felly rydych chi’n gwybod bod posib targedu a pheidio gwario dim mwy na £10 ac yn gallu cael eich neges allan i gynulleidfa botensial o gwpl o gannoedd o bobl berthnasol.

Felly, beth os yw rhywun yn dod i’ch gweld, mae ganddynt grŵp teulu lleol ac eisiau hysbysebu eu canolfan cymunedol. Teuluoedd yw’r math o bobl sy’n ei ddefnyddio. Beth yw eich awgrymiad chi wrth ddefnyddio marchnata Facebook?

Y cam cyntaf fydda adnabod y farchnad. Byddem yn defnyddio teclynnau ar-lein, rhai am ddim fel Trends ac Analytics, i ddarganfod pa fath o bobl sy’n chwilio am eich gwasanaeth a pa fath o bobl sydd yn darganfod eich gwasanaeth yn barod ac yn cael y mwyaf o foddhad allan ohono. Yna gallem hidlo hyn i lawr i ddemograffeg bendant, math o berson, ac yna eu cerdded trwy gamau hawdd iawn i greu templed er mwyn targedu hysbysebion at eu cymuned am ychydig iawn o arian.

Dwi wedi gweld busnesau yn adeiladu proffil ar-lein, yna’n adeiladu’r cynnwys yn iawn, ac yn marchnata’r farchnad mor dda fel nad ydynt wedi gwario ceiniog. Maent yn cychwyn tudalen Facebook gyda llawer o ryngweithiad, yn gofyn cwestiynau yn hytrach nag rhoi gwybodaeth yn unig i bobl, yn ennyn diddordeb pobl yn y pethau maent yn ei wneud, yn cael eu hysgogi gan y pethau maent yn ei wneud. Yn aml, unwaith i chi ddatblygu’r gymuned ar-lein yma, rydych chi’n darganfod bod hynny’n ddigon.

Felly siaradais am yr angen am gyllid bach, ond i gychwyn, nid oes angen i chi wario ceiniog mewn gwirionedd. Rydym yn cael lot o fusnes sydd yn dod i mewn ac yn sylweddoli hynny, sydd yn braf iawn, yn dda iawn i’w weld.

Os gallech chi gynnig tri awgrym gorau gall pobl ei ddefnyddio i wella’u presenoldeb ar-lein, beth fydda’r rhain?

Yr awgrym mwyaf ydy i beidio gorwneud pethau. Dwi’n meddwl bod llawer o fusnesau yn dod i mewn ac yn dweud, “reit, mae gen i dudalen Facebook, tudalen Twitter, tudalen Pinterest, tudalen Instagram, tudalen LinkedIn, a gwefan hefyd, a chylchlythyr”.

… ac mae’n cymryd oriau ac oriau i wneud pob un…

Yn union! Ac rydym yn edrych arno ac yn dweud, wel oes rhywun yn rhyngweithio gyda nhw? Ydych chi wedi edrych ar eich Analytics i weld faint o bobl sydd yn dod o’r tudalennau cyfryngau cymdeithasol yma i’ch gwefan? Yna byddem yn gweld pa rai sy’n gweithio, pa rai sydd yn ddiangen. Felly mae hynny’n beth mawr, peidiwch orwneud pethau. Byddwch yn sicr o ble mae’ch pobl a chanolbwyntio ar hynny.

Yna mae hynny’n arwain at yr un nesaf, sef adlewyrchu’ch brand. Felly os oes brand cryf gan eich sefydliad, yn enwedig os oes gennych chi bwynt moesol cryf, sicrhewch fod eich presenoldeb ar-lein yn adlewyrchu hynny. Felly gallech chi gadw’r ddelwedd honno, cadw’r feib yna, cadw hynny’n gyson.

Y peth pwysig ydy i wneud y mwyaf o’r teclynnau am ddim. Gallem ffurfio cynllun marchnata ar-lein am ddim. Gwnewch y mwyaf o’r teclynnau am ddim yma, peidiwch neidio’n syth i mewn i’r llwyfannau talu am bob clic nes i chi gael cymuned, cyfryngau cymdeithasol a gwefan cadarn. Sicrhewch fod gennych chi lwyfannau cryf cyn gwario arian mawr.

Yn wreiddiol roedd i fod i ddod i ben ar 31 Mawrth 2017, ond rydych chi wedi cael mis arall. Sut gall rhywun gymryd rhan neu drefnu ymweliad?

Gall pobl alw draw ar ddydd Llun i ddydd Gwener unrhyw amser rhwng 9am a 6pm. Os ydych chi’n cerdded heibio’r Tramshed ar Stryd Pendyris yng Nghaerdydd (ochr arall i’r afon o orsaf drenau Canolog Caerdydd), gallech chi alw draw unrhyw dro.

Os ydych chi am gofrestru ar gyfer sesiwn, seminar neu sesiwn un-i-un sicrhewch fod lle yn cael ei gadw i chi. Gellir gwneud hyn wrth fynd ar ein gwefan g.co/cardiffgarage ble gellir darganfod popeth. Mae yna dudalen i gofrestru am y seminarau. Weithiau mae gennym ddigwyddiadau arbennig, ble rydym yn cael ‘Googlydd’ arbenigol o Lundain neu Ddulyn (Prif Swyddfeydd Google). Byddant yn dod i mewn i roi sgwrs arbenigol ar sut i symud eich busnes ymlaen. Maent wedi bod yn anhygoel, y lle wedi bod yn orlawn, felly os oes gennych chi ddiddordeb mewn symud eich sefydliad i’r lefel nesaf, cadwch le ar y rhain nawr gan eu bod yn llenwi’n sydyn iawn.

Neu fel arall galwch draw. Fel dywedais gynt, mae yna wyneb cyfeillgar yno bob tro. Mae’r drysau yn agored o 9am i 6pm felly dewch draw i ddweud helo.

Gwych! Diolch Aled, diolch yn fawr am eich amser.

Gallwch ddysgu mwy am waith Aled trwy ei dudalen LinkedIn yma.


Blogiau eraill:

Ydych chi eisiau bod mor effeithlon â NASA?

Cerddoriaeth yn y Gweithle: Cyngor Doeth