Bu ProMo-Cymru yn gweithio gyda phrosiect Think Again! YMCA Caerdydd yn cynhyrchu fideo am Ecsploetiaeth Rywiol Plant. Roedd y bobl ifanc oedd yn rhan o’r prosiect Think Again! wedi profi Ecsploetiaeth Rywiol Plant (CSE).

Roedd y fideo wedi’i greu gyda’r bobl ifanc ac yn caniatáu iddynt rannu eu barn ar y gwasanaethau oedd yn cynnig cefnogaeth iddynt er mwyn gwella’r gwasanaethau yma i bobl ifanc eraill.

Bwriad y fideo oedd gwella hyfforddiant staff ar gyfer gwasanaethau sydd yn rhan o CSE, fel yr heddlu, gwasanaethau plant, prosiectau ieuenctid, ysgolion a’r GIG. Cyflawnwyd hyn wrth egluro’r gwahanol ffurfiau gall CSE ei gymryd a sut mae rhyngweithio gyda gweithiwr proffesiynol yn gallu gwneud i berson ifanc deimlo.

Roedd y prosiect yn darparu gofod diogel i bobl ifanc i gael siarad yn agored am eu profiadau, yn caniatáu iddynt gael llais i newid y systemau presennol. Siaradwyd yn agored am yr hyn oedd yn gweithio, yr hyn oedd ddim yn gweithio, a’r hyn dylai wedi cael ei gynnig ond heb.

Gwrandawodd ProMo-Cymru ar straeon y bobl ifanc, a’u helpu i gyfleu eu profiad i naratif ac animeiddiad fydda’n dylanwadu ar y ffordd mae gweithwyr proffesiynol yn ymddwyn tuag at ddioddefwyr CSE y dyfodol.

Ar ôl ysgrifennu’r sgript, gwahoddwyd y bobl ifanc i ymweld â Radio Platfform, yr orsaf radio sydd yn cael ei arwain gan bobl ifanc yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, i recordio’r sgript yn Saesneg. Helpodd y bobl ifanc yn Radio Platfform i recordio’r sgript yng Nghymraeg hefyd.

Wrth wrando ar leisiau’r bobl ifanc yn y fideo, gall darparwyr gwasanaethau ddysgu am yr hyn sy’n llwyddiannus, beth sydd yn gwaethygu pethau a pa fesuriadau sydd angen eu rhoi ar waith. Bydd hyn yn sicrhau bod unrhyw bobl ifanc eraill sydd wedi profi ecsploetiaeth yn teimlo eu bod yn derbyn cefnogaeth lawn yn eu profiadau unigol yn y dyfodol.

Lansiwyd y fideo mewn digwyddiad Taclo Ecsploetiaeth Think Again! yn Neuadd y Sir, gyda phobl ifanc o ysgolion ledled Caerdydd yn dod at ei gilydd i arddangos eu cyflwyniad ar CSE. Roedd ymateb da iawn i’r fideo, gyda dros 900 yn ail-drydar ar y diwrnod a dros 110,000 yn gwylio’r fideo.

Roedd y prosiect Think Again! yn llwyddiannus yn yr adran ‘Hyrwyddo Hawliau Pobl Ifanc‘ yng ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2019. Dywedodd cynrychiolwr o Lywodraeth Cymru:

“Roedd y beirniaid yn teimlo bod hwn yn gyfraniad arbennig ac unigryw i hyrwyddiad hawliau pobl ifanc bregus. Roedd y prosiect yn arddangos ymrwymiad i fecanweithiau newid creadigol ac effeithiol i wella bywydau pobl ifanc nawr, ac yn y dyfodol.”

Llongyfarchiadau i bawb fu’n cymryd rhan yn y prosiect pwysig a phersonol iawn yma. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl bobl ifanc am rannu eu stori ac i YMCA Caerdydd am ein gwahodd i gymryd rhan yn y prosiect unigryw yma.

Os oes gennych chi ddiddordeb yn ein gwasanaethau Cynhyrchiad Cyfryngol cysylltwch â info@promo.cymru am wybodaeth bellach.