Mae ProMo-Cymru wedi bod yn gweithio gyda TGP Cymru, a’r bobl ifanc sydd yn cael eu cefnogi ganddynt, yn hyrwyddo mynediad at wasanaethau eirioli. Gwnaethom hyn wrth greu ffilter Snapchat, gwefan ac animeiddiad dan arweiniad ieuenctid.

Mae TGP yn elusen sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd ledled Cymru i wneud gwahaniaeth positif, parhaol mewn cyfnodau heriol yn eu bywydau. Cawsom ein comisiynu gan TGP fel rhan o brosiect a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn deall eu hawliau i gael mynediad at eiriolaeth a lle i ddod o hyd i’r math yma o gefnogaeth.

Mae eiriolaeth yn fath o gefnogaeth sydd yn helpu pobl i ddeall eu hawliau, cael eu clywed a chymryd rhan mewn penderfyniadau am eu bywydau. Fodd bynnag, ar ôl siarad â phobl ifanc roedd yn amlwg bod rhai yn ansicr am ystyr y gair.

Siaradom gyda grŵp o bobl ifanc a oedd wedi derbyn cefnogaeth TGP er mwyn deall yn well beth oedd eu barn nhw am eiriolaeth a’i fuddion. Teimlai’r grŵp eu bod wedi elwa o eiriolaeth ond roedd angen ffyrdd mwy digidol a chyfeillgar i ieuenctid i ddeall y gair a ble i gael cymorth eiriolaeth. Roedd y bobl ifanc hefyd eisiau dathlu gwaith TGP mewn ffordd hwyliog a gafaelgar.

Datblygwyd gwefan i ymateb i anghenion y bobl ifanc yn egluro eiriolaeth mewn ffordd glir a chryno.

Yna bûm yn gweithio gyda’r bobl ifanc yn datblygu animeiddiad fydda’n cael ei ddefnyddio i helpu pobl ifanc eraill i ddeall lle i gael help. Lleisiwyd yr animeiddiad ‘Oes unrhyw un yn gwrando?’ gan y bobl ifanc a oedd wedi gweithio gyda TGP.

Fel rhan o’r prosiect, roedd y bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithdy dau ddiwrnod yn dysgu mwy am gynhyrchu fideo, ysgrifennu sgriptiau, bwrdd stori ac animeiddio. Helpodd iddynt droi profiadau a theimladau yn fideo gorffenedig a chymryd rhan yn y broses animeiddio, yn cynllunio cymeriadau eu hunain a chael mewnwelediad o’r hyn sydd yn ymglymedig â chreu fideo animeiddio.

Ffilm Jade a Zack ‘Oes unrhyw un yn gwrando?’

Cynlluniodd TGP ddigwyddiad yn y Senedd i arddangos effaith eiriolaeth ar blant a phobl ifanc mewn gofal. Roedd y grŵp o bobl ifanc y bûm yn gweithio â nhw eisiau adlonni’r mynychwyr felly aethom ati i greu ffilter Snapchat yn arbennig ar gyfer y digwyddiad.

Llwyddwyd creu ffilter hwyliog yn cyfateb i frandio TGP oedd yn rhoi ffordd arloesol i’r bobl ifanc ymgysylltu gydag amrywiol hapddalwyr o Aelodau Seneddol i gomisiynwyr lleol.

Unwaith i’r bobl ifanc ddangos iddynt sut i’w ddefnyddio fe welsom yr Aelodau Seneddol Julie Morgan a David Medling yn ymuno yn yr hwyl hyd yn oed.


Os hoffech i ni gyd-greu cyfryngau gyda’r bobl rydych chi’n gweithio â nhw, cysylltwch â dayana@promo.cymru