PwyntTeulu Cymru

Trosolwg

Yn 2014, nododd Llywodraeth Cymru’r angen am lwybr mwy hygyrch i wasanaethau teulu allweddol. Er y helaeth o wybodaeth a chefnogaeth sydd ar gael, darganfuwyd trwy ymgynghoriadau gyda theuluoedd bod llawer ohonynt yn colli allan ar y gwasanaethau roeddent yn gymwys amdanynt, ac yn mynd ar goll wrth geisio chwilio’r rhyngrwyd yn aml, dim ond i ddarganfod ffynonellau o ddibynadwyedd ansicr ac mewn iaith oedd ddim yn hygyrch iddynt. Fel arbenigwyr mewn cyfathrebu sy’n canolbwyntio ar y cleient a datblygiad cymdeithasol, roeddem yn falch o dderbyn yr her ar ran Llywodraeth Cymru.

O siarad gyda rhieni a gofalwyr, roedd yn amlwg nad oedd y mwyafrif yn chwilio am gymorth nac gwybodaeth nes yr oeddent mewn angen mawr. Felly pwrpas PwyntTeulu Cymru oedd cysylltu â theuluoedd cyn hynny a’u cadw’n ymwybodol o’r gwasanaethau i’w hatal rhag cyrraedd pwynt o argyfwng.

Ein Dull

Er mwyn creu gwasanaeth i deuluoedd, y man cychwyn gorau oedd i’w hymglymu. Cyfarfûm â grwpiau rhieni ledled Cymru i ddarganfod pa gymorth oedd angen a pam nad allent gael mynediad iddo. Gallwch glywed mwy am y broses yma.

Roedd ein hymchwil yn dangos bod llawer o deuluoedd dan anfantais oherwydd allgáu digidol – bod hyn yn wasanaeth rhyngrwyd gwael a diffyg mynediad i gyfrifiadur/dyfais symudol, neu gan nad oedd ganddynt y sgiliau a’r llythrennedd i chwilio ar-lein. Gan fod gwefannau yn dyddio yn sydyn ac yn gallu bod yn anodd ei llywio, mae’n well gan lawer o deuluoedd i dderbyn gwybodaeth drwy gyfryngau cymdeithasol neu ar lafar.

Roedd hyn yn cyfarwyddo ein penderfyniad i ddatblygu gwasanaeth oedd ar gael ar-lein yn ogystal ag ar y ffôn, neges testun, neges wib a chyfryngau cymdeithasol. Rydym yn credu mewn pobl yn gyntaf, technoleg yn ail. Rydym yn cymryd popeth rydym yn ei ddysgu ac yn rhoi’n pennau creadigol at ei gilydd gyda Burning Red, ein partneriaid dylunio creadigol, i ddatblygu’r datrysiadau gorau sy’n gyfeillgar i deuluoedd ac yn arloesol yn dechnegol.

 

Canlyniad

Mae PwyntTeulu Cymru yn fan cyswllt aml sianel sy’n rhoi rhieni a gofalwyr yng nghalon y gwasanaeth. Mae’n cynnig gwefan wedi’i optimeiddio i declynnau symudol gyda pheiriant chwilio hawdd, ynghyd â chyfryngau cymdeithasol, llinell gymorth ar y ffôn, neges testun a neges wib sy’n ei wneud yn hygyrch iawn i deuluoedd ledled Cymru.

Yn ogystal â bod yn gyfeiriadur o sefydliadau a gwasanaethau dibynadwy, cynnwys PwyntTeulu Cymru sydd yn denu pobl i’r wefan ac yn gwneud iddynt ddychwelyd am fwy. Mae ein herthyglau yn gymysgedd o straeon personol a blogiau wedi’u hysgrifennu gan y teuluoedd eu hunain; esboniadau syml o newidiadau polisi – e.e. budd-daliadau, addysg, hawliau teulu; ac awgrymiadau defnyddiol ar fagu plant, arbed arian, gweithgareddau plant a diwrnodau allan rhad.

Mae popeth yn cael ei gyflwyno mewn iaith gyfeillgar i deuluoedd gyda dolenni sydyn, delweddau, cynnwys sain a fideo sydd yn ei wneud yn ddeniadol ac yn hawdd i’w ddarllen. Mae yna flwch sylwadau ar bob erthygl ac mae popeth yn cael ei rannu drwy gyfryngau cymdeithasol, yn darparu sawl ffordd i deuluoedd roi adborth, codi materion a chynnig cyngor i rieni a gofalwyr eraill.

Mae rhieni yn gallu derbyn help wedi’i bersonoli wrth ysgrifennu at ‘Rhannu’r Baich…’ neu wrth gysylltu â’r llinell gymorth gyfrinachol, sy’n cael ei staffio gan gynghorwyr proffesiynol wedi’u hyfforddi mewn eiriolaeth.

Ers lansio fis Tachwedd 2015, mae PwyntTeulu Cymru wedi parhau i ddatblygu. Mae rhieni a gofalwyr gyda ni ymhob cam o’r broses, ac rydym yn credu mai’r allwedd i’w lwyddiant ydy rhoi llais iddynt yn eu gwasanaeth.

“Hoffwn ddweud mod i newydd fod ar eich gwefan PwyntTeulu ac am dudalen we wych ydyw a byddaf yn cyfeirio llawer o’m nghleientiaid iddo” – Gavo, Blaenau Gwent

 

“Dwi’n fam o’r Bari ac wedi cael trafferth mawr darganfod gwybodaeth ar gyfer fy mab. Mae hwn yn wych.” – Rhiant

 

“Mae PwyntTeulu yn adnodd ffantastig.” – Cymunedau yn Gyntaf, Caerdydd

PwyntTeulu

17 Stryd Gorllewin Bute
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF10 5EP

Gwefan: pwyntteulu.cymru
Ffôn: 02920 450 460
E-bost: gwyb@pwyntteulu.cymru
facebook2   twitter   

Oriau agor
9:00 – 17:00 Llun – Gwener