WCVA yn comisiynu ProMo-Cymru i greu cynnwys digidol deniadol gyda phobl ifanc a sefydliadau yng Nghymru.

Yn dilyn adborth negyddol am gynnwys cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein y WCVA, yn beirniadu nad oedd yn ddeniadol i bobl ifanc, penderfynwyd ei bod yn hen bryd newid. Y bwriad oedd bod mwy o bobl ifanc yn dysgu am fuddion gwirfoddoli, yn ogystal â uwchsgilio staff y Cyngor Gwirfoddol Sirol i gysylltu’n well gyda phobl ifanc ar-lein.

Bu ProMo-Cymru yn gweithio gyda phobl ifanc ac amrywiaeth o elusennau yng Nghymru i greu cynnwys mwy deniadol, gan sicrhau ei fod yn adlewyrchu llais y bobl ifanc ac yn eu cynnwys yn y broses. Bûm yn creu fideos, astudiaethau achos ac animeiddiadau, hyfforddwyd y staff ac ysgrifennwyd canllawiau ar sut i gysylltu gyda phobl ifanc ar gyfryngau cymdeithasol.

Roedd pobl ifanc oedd eisoes wedi newid eu bywydau wrth wirfoddoli yn mynegi pam dylai eraill wneud hefyd. Mynegodd pob person ifanc fu’n rhan o’r prosiect eu hapusrwydd gyda’r cynnwys gorffenedig. Llwyddodd y WCVA wneud cysylltiad â’r National Rail, ar ôl i ProMo-Cymru eu cynnwys yn y prosiect fel esiampl o wirfoddoli gwirfoddol trwy gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

Mae’r cynnwys digidol cynhyrchwyd yn cael ei ddefnyddio ledled Cymru ac wedi cael ei wylio gan filoedd o bobl ifanc. Mynegodd staff y Cyngor Gwirfoddol Sirol bod ansawdd yr hyfforddiant derbyniwyd yn wych.