Roedd y prosiect yn ymchwilio blaenoriaethau, gwytnwch a gweledigaethau pobl ifanc y tu hwnt i’r pandemig Covid-19. Ei fwriad oedd adnabod sut gall cyllid y Loteri Genedlaethol gael yr effaith mwyaf positif ar bobl ifanc yng Nghymru.
Llwyddodd y tîm PIYA gynnal 60 o gyfweliadau strwythuredig, 51 arolwg digidol ac 11 cyfweliad lled-strwythuredig / grwpiau ffocws.
Llwyddodd yr ymchwil amlygu prif flaenoriaethau pobl ifanc. Mae ciplun o’r rhain yn cynnwys:
“Mae iechyd meddwl yn chwarae rhan fawr ym mywydau pobl ifanc ac mae’n cael effaith ar bopeth arall.”
“Mae pobl ifanc yn aml yn cael eu rhoi o’r neilltu fel rhai sydd ddim yn cymryd rhan.”
“Mae bron yn amhosib gadael cartref, ac yn anoddach fyth i beidio gorfod rhentu am weddill dy oes.”
“Mae wedi newid o bopeth ar gael am ddim i orfod talu am wersi ac offerynnau.”
Yn ogystal â’r themâu yma, roedd sawl mater arall oedd yn bwysig i bobl ifanc fu’n rhan o’r ymgynghoriad. Mae’r rhain wedi cael eu cynnwys isod yn y model cysyniadol.
Mae’r ymchwil yma sydd wedi ei chyd-gynhyrchu wedi arwain at fewnwelediadau pwysig gan bobl ifanc ledled Cymru, yn ymwneud â blaenoriaethau, gwytnwch a gweledigaethau pobl ifanc y tu hwnt i’r pandemig Covid-19. Gellir darllen yr adroddiad lawn yma.
Mae’r ymchwil yma wedi arwain at raglen grant £10 miliwn Meddwl Ymlaen yn agor ar 26ain Mai 2021. Manylion pellach y grant Meddwl Ymlaen yma.
Mae ProMo-Cymru yn arbenigo mewn cefnogi sefydliadau i roi lleisiau ac anghenion pobl ifanc wrth galon prosiectau a gwasanaethau.
Am wybodaeth bellach ar Wybodaeth Ieuenctid Digidol cysylltwch â Cindy ar cindy@promo.cymru