Nid oedd y negeseuon rhannwyd  yn ystod y pandemig yn gyfeillgar i ieuenctid a ddim yn cynrychioli lleisiau pobl ifanc. Roedd y prosiect yma, yn cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol, yn creu fideos wedi’u hanimeiddio i rannu pryderon pobl ifanc am y pandemig ac yn atgyfnerthu’r neges bod cefnogaeth ar gael.

Manylion y prosiect

Pan gychwynnodd y pandemig Coronafeirws, roedd llawer o wybodaeth am COVID-19. Nid oedd y negeseuo yma yn gyfeillgar i bobl ifanc bob tro, nac yn cynrychioli ieuenctid yng Nghymru. Roedd y data casglwyd gan y llinell gymorth Meic yn awgrymu bod 35% o bobl ifanc eisiau gwybodaeth COVID-19 mewn ffordd y gallan nhw ei ddeall. Roedd eraill eisiau trafod yr effaith roedd yn pandemig yn ei gael ar eu hiechyd meddwl a pherthnasau.

Tra bod sefydliadau yn ymdrechu i drawsffurfio gwasanaethau yn ddigidol, roedd llawer o bobl ifanc yn teimlo fel nad oedd ganddynt lais. Roedd llawer yn anymwybodol o ble i gael y cymorth roeddent yn arfer ei gael wyneb i wyneb.

Bwriad y prosiect yma oedd rhoi darlun o leisiau, teimladau a phryderon pobl ifanc ledled Cymru yn ystod y pandemig. Defnyddiwyd hyn i helpu pobl ifanc eraill i ddeall nad ydynt ar ben eu hunain. Roedd ProMo-Cymru hefyd yn atgyfnerthu’r neges bod cymorth yn agored o hyd i bobl ifanc. Roedd sefydliadau yn dal i weithio, er efallai mewn ffordd wahanol i’r arfer.

Beth ddigwyddodd?

Yng nghamau cychwynnol y prosiect, ymgynghorwyd gyda grŵp ffocws o bobl ifanc gan ofyn iddynt beth oedd yn eu poeni yn ystod y pandemig. Trafodwyd hyn, gyda phryderon pobl ifanc yn cael eu categoreiddio i mewn i bynciau gwahanol. Yna gofynnwyd i’r bobl ifanc ddewis y tri phwnc oedd fwyaf pwysig iddyn nhw. Y rhai mwyaf pwysicaf oedd (1) llesiant ac iechyd meddwl, (2) addysg ar-lein a throsiant o addysg i gyflogaeth (3) gwybodaeth a diogelwch ar-lein.

Gyda’r wybodaeth yma aeth ProMo-Cymru ati i greu animeiddiadau i rannu lleisiau’r ieuenctid ar y pynciau yma. Cafodd chwe fideo ei greu, tair Cymraeg a tair Saesneg. Ar ddiwedd y fideos hyrwyddwyd sefydliadau oedd yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc. Roedd y rhain yn cynnwys Meic, Platfform a Mind Cymru. Roedd y fideos yn funud o hyd fel ei fod yn ffitio gyda hyd fwyaf post Instagram.

Gwyliwch y fideos ar dudalen YouTube ProMo-Cymru:

Fideo 1: Iechyd meddwl a llesiant

Fideo 2: Dysgu ar-lein a throsiant

Fideo 3: Gwybodaeth a diogelwch ar-lein

Canlyniadau

Defnyddiwyd cyfathrebiadau digidol organig ac wedi’u talu i gyrraedd miloedd o bobl ifanc dan 25 ledled Cymru, gan ddefnyddio’r sianeli maen nhw’n eu defnyddio, fel Instagram. Llwyddodd y fideos i gyrraedd 13,727 o argraffiadau ac wedi cael ei chwarae 12,957 hyd yn hyn.

Os oes gennych chi ddiddordeb yn gweithio gyda ni i greu fideos i gefnogi pobl ifanc, cysylltwch â Dayana ar dayana@promo.cymru