ProMo-Cymru yn addysgu sgiliau cyfathrebu a marchnata yn dilyn tendr llwyddiannus i Gyngor Sir Fynwy

ProMo-Cymru yn addysgu sgiliau cyfathrebu a marchnata yn dilyn tendr llwyddiannus i Gyngor Sir Fynwy Roedd Sir Fynwy yn chwilio am rywun i ddarparu hyfforddiant i grwpiau cymunedol lleol a gwirfoddolwyr, ac roedd ProMo-Cymru yn ffitio’r brîff gyda’n hethos o weithio’n gydweithredol a defnyddio sgiliau i gefnogi ac i fuddio grwpiau.

Dyluniwyd dau gwrs hyfforddi pwrpasol:

Cyfryngau Cymdeithasol Effeithiol – Cyflwyniad i rai sydd yn dechrau cysylltu gyda chynulleidfaoedd ar gyfryngau cymdeithasol. Yn canolbwyntio ar ddau brif lwyfan, Facebook a Twitter, i ddeall y buddion, egluro ychydig o’r jargon ac i ddysgu sut i sefyll allan.

Marchnata Gyda Chyfryngau Cymdeithasol – Ar gyfer grwpiau sydd eisoes wedi sefydlu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac yn edrych i gynyddu a chysylltu gyda chynulleidfa ehangach. Dysgu am yr offer am ddim gorau i reoli eich cyfrifon yn haws a chreu cynnwys proffesiynol a deniadol. Ymchwilio’r byd analytig i adnabod cynulleidfaoedd, dysgu am bethau sydd yn gweithio neu ddim yn gweithio, a sut i ddefnyddio’r data yma i greu ceisiadau grantiau a chyllid gwell.

“Roedd y ddau diwtor, yn ogystal â bod yn brofiadol iawn, yn arddangos amrywiaeth o ddulliau dysgu eang sydd yn addas ar gyfer gwahanol arddulliau dysgu. Gwnaethant argraff arbennig am y gwahaniaethiad cyflawnwyd i ddysgwyr o gefndiroedd gwahanol yn y pwnc. Mae’r cyrsiau wedi’u cynllunio’n dda, yn cael eu cyflwyno’n arbenigol ac maent yn cyfathrebu’n wych.” – Owen Wilce, Cyngor Sir Fynwy