Bûm yn gweithio gyda phobl ifanc ym Mlaenau Gwent i ddilyn eu hangerdd cerddorol a dysgu sgiliau digidol i ysbrydoli ac ehangu eu dyfodol.

Ar ôl derbyn arian trwy CWVYS i gyflwyno’r Cynllun Haf o Hwyl i’n Canolfan Cymunedol a Diwylliannol, Institiwt Glynebwy (EVI). Aethom ati i gyflwyno gweithdai cynhyrchu cerddoriaeth broffesiynol, hyfforddiant achrededig cynhyrchu fideo, a sesiynau dylunio graffeg Canva a chreawdwyr TikTok, pob un yn rhad ac am ddim i bobl ifanc ym Mlaenau Gwent.

Cerddorion Nesaf De Cymru

Wrth gydweithio gyda’r cynhyrchydd cerddoriaeth Nick Brine, tenant hirdymor EVI sydd yn cynnal y stiwdio recordio o’r radd flaenaf yn y ganolfan, rhoddwyd cyfle i grŵp lleol o bobl ifanc i ysgrifennu, recordio, cynhyrchu a hyrwyddo sengl eu hunain. Yn ogystal â’r profiad o recordio mewn stiwdio broffesiynol am y tro cyntaf, cawsant ddatblygu eu gwybodaeth ymhellach mewn gweithdai cynhyrchu a hyrwyddo cerddoriaeth gyda Nick, sydd wedi gweithio gyda bandiau fel Oasis, Stone Roses a llawer mwy.

Mae’r sengl ‘Summer of Love’ wedi cael ei wylio ar YouTube dros 6 mil gwaith yn barod a’i ffrydio dros 3500 gwaith ar Spotify. Ymunwyd â nhw yn y stiwdio i gadw cofnod o’u siwrne.

“Mae wedi bod yn brofiad anhygoel o’r cychwyn cyntaf. Rydym wedi cael llawer iawn o hwyl ac wedi dysgu cymaint!”aelod KRU

Cân siriol sydd yn codi’r galon i’ch tywys trwy’r misoedd oerach – treuliwch amser yn gwrando a chefnogi wrth wylio ar YouTube a gwrando ar Spotify.

Ysbrydoli’r Dyfodol

Defnyddiwyd ein harbenigedd digidol hefyd i roi cyfle i bobl ifanc 16-25 Blaenau Gwent i ysbrydoli a gwella eu gwaith, yn ogystal ag ychwanegu sgiliau defnyddiol i’r CV. Dysgwyd sut i gynhyrchu cynnwys dylunio graffeg i safon broffesiynol ar Canva, ennill achrediad Cynhyrchu Fideo mewn cwrs deuddydd, ac archwilio ffyrdd i greu cynnwys deniadol gan ddefnyddio TikTok mewn cyfres o weithdai yn EVI gyda hyfforddwyr arbenigol ProMo.

“Rwyf newydd orffen yn y brifysgol ac yn awyddus i ychwanegu mwy o sgiliau i’m CV wrth i mi chwilio am waith. Roedd yr hyfforddwr yn egluro popeth yn dda iawn, roeddwn yn deall popeth! Roedd y sesiynau yn ddefnyddiol iawn.”

 

“Dysgais sgiliau dylunio graffeg fydd yn help i mi ar fy llwybr gyrfa ac yn gwella’r fideos YouTube a TikTok rwyf eisoes yn eu creu!”

Canlyniad

Roedd 25 o bobl ifanc yn rhan o brosiect Haf o Hwyl EVI, yn ennill sgiliau a phrofiadau gwerthfawr i ysbrydoli ac ehangu eu dyfodol. Llwyddodd pedwar o bobl ifanc gyflawni cymwysterau am oes.

Rydym yn arbenigo yn rhannu ein harbenigedd digidol a chysylltu gyda phobl ifanc. Os hoffech drefnu hyfforddiant ar gyfer grŵp neu gyd-weithio ar brosiect, e-bostiwch andrew@promo.cymru.