Thema’r prosiect yma ydy ‘Gwneud mwy o wahaniaeth gyda’n gilydd’, felly bydd pobl ifanc yn cael eu hannog i ddangos sut gellir gwneud gwahaniaeth er mwyn ysbrydoli eraill.
Yn ystod ein Hyfforddiant Cynhyrchu Fideo, bydd y bobl ifanc yn dysgu sut i greu cofnod o ddigwyddiadau a phrofiadau. Bydd y dysgwyr yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gan gynnwys naratif, gallu ffilm ac arddull. Byddant hefyd yn dysgu sgiliau ehangach fel gwaith tîm, a datrys problemau.
Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys:
– Theori Ffilm: Mathau o ffilm, saethiadau, onglau, rheolau, cyfansoddiad, goleuadau a sain
– Gweithdy cyn-gynhyrchiad: Meddwl am syniadau a thrafod prosiect gyda phobl ifanc, gan gynnwys ysgrifennu sgript a chreu bwrdd stori ar gyfer fideo eu hunain
– Sesiwn creu ffilm: Bydd y bobl ifanc yn saethu darn o ffilm yn dilyn y bwrdd stori
– Gweithdy ôl-gynhyrchiad: Bydd pobl ifanc yn golygu’r ffilm ac yn ychwanegu elfennau fel cerddoriaeth, testun a logos
Mae sawl sesiwn hyfforddiant yn cael ei drefnu dros y wlad, gan sicrhau bod sesiynau yn digwydd yn y De Ddwyrain, Y De Orllewin, Canolbarth a Gogledd Cymru. Mae croesawu pobl o gefndiroedd a phrofiadau gwahanol yn bwysig iawn i ni roi llais i bawb.
Yn dilyn yr hyfforddiant byddem yn cynorthwyo grŵp o bobl ifanc i lunio a chynnal Gŵyl Ffilm Ar-lein, mewn gofod3. Bydd y fideos sydd yn cael eu creu yn ystod yr hyfforddiant yn cael eu henwebu yn yr Ŵyl Ffilm Ar-lein, yn ogystal â phrosiectau ffilm a chyflwynir gan y cyhoedd.
Bydd panel o unigolion sy’n cynrychioli sector gwirfoddol Cymru yn dewis y ffilmiau gorau i’w harddangos yng Ngŵyl gofod3 yn fis Mawrth 2020 ac yn enwi’r enillwyr mewn sesiwn arbennig yna. Bydd unigolion a sefydliadau yn gallu dilyn y digwyddiad trwy ddilyn sylw cyfryngau cymdeithasol ledled y wlad.
Bydd sesiynau hyfforddi yn para naill ai 1 ddiwrnod llawn, neu 2 hanner ddiwrnod, a’u cynhelir ar draws Gymru o Ionawr i fis Mawrth. Llenwch y ffurflen i gadw’ch lle
Os oes gennych chi ddiddordeb yn yr hyfforddiant yma, neu unrhyw Gyrsiau Hyfforddiant Cyfryngau eraill cysylltwch â dayana@promo.cymru am fanylion pellach.
Mae ProMo-Cymru yn cynnig amrywiaeth eang o waith, ymwelwch â’n hadran Ein Gwaith i weld rhestr o’r gwasanaethau rydym yn ei gynnig a chymerwch olwg ar ein tudalen Prosiectau i weld rhai o’r prosiectau rydym eisoes wedi gweithio arnynt.