Gweithdai yn cyfarpar pobl ifanc gyda’r sgiliau i gynhyrchu ffilmiau

Mae ProMo-Cymru wedi bod yn datblygu cwrs hyfforddiant ffilm gyda chyllid derbyniwyd gan Ffilm Cymru a Chanolfan Datblygu Cymunedol De Riverside. Y bwriad oedd cysylltu gyda 25 o bobl ifanc yng Nghaerdydd ac i ddatblygu cwrs oedd yn adlewyrchu eu diddordebau o gerddoriaeth rap a hip hop. Dysgodd y bobl ifanc sut i greu fideo cerddoriaeth eu hunain dros gyfnod o bedwar mis, yn caniatáu iddynt arddangos eu talentau mewn ffordd ddeniadol.

Roedd y prosiect yn annog dysgu pellach ac yn cysylltu gyda chynulleidfa o bobl ifanc du a lleiafrif ethnig, sawl un yn disgyn o fewn y categori NEET. Cynigwyd cymhwyster achrededig Agored Cymru a chyngor wrth gyfeirio at gyfleoedd addysg bellach ac i sefydliadau eraill oedd yn gweithio i amcanion y rhaglen Cyfuno/Arloesi. “Dyma’r tro cyntaf i mi helpu gosod a chyfarwyddo ffilm.

“Dwi wedi bod yn rhan o greu fideos cerddoriaeth broffesiynol o’r blaen, ond dyma’r tro cyntaf i mi gael cyfle i ddysgu am osod pethau a’r dechnoleg y tu ôl iddo.”

SonnyDouble1