Mae ProMo-Cymru wedi bod yn cynyddu effeithiolrwydd ynni yn ein lleoliad cymunedol, Institiwt Glynebwy (EVI). Rydym wedi bod yn hyrwyddo cynaladwyedd yn y gymuned leol diolch i grant o £32.523. Derbyniwyd y grant gan CGGC drwy Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru.

Mae’r EVI yn lleoliad cymunedol hanesyddol. Mae’n cynnal rhaglen o weithgareddau creadigol, addysg ac yn ofod i fentrau cymdeithasol lleol. Mae dros 5000 o bobl yn ymweld â’r EVI bob mis, ac mae amryw ddefnydd a defnyddiwr. Mae lleihau defnydd ynni mewn adeilad mawr fel yr EVI yn helpu gostwng yr ôl troed carbon lleol.

Effeithiolrwydd ynni

Rydym wedi bod yn gweithio gydag arbenigwyr ynni annibynnol i adnabod unrhyw fylchau yn systemau gwresogi a goleuo’r adeilad, a chael i’r afael ar faterion gwastraff ynni. O ganlyn hydyn rydym wedi gosod golau LED, atgyweiriadau brys ar ein system pwmp gwres o’r awyr, gosod dyfeisiau i gau drysau yn awtomatig, sychwyr dwylo eco a gwresogyddion wal ynni effeithlon.

Wrth gyflawni’r mesuriadau ynni yma, rydym wedi arbed 11.26 tunnell o allyriadau tŷ gwydr. Rydym wedi lleihau ein biliau o £2,195 mewn 9 mis.

in-situ-1.jpg (640×480)

Gweithio gyda’r gymuned leol

Roeddem yn awyddus i gysylltu gyda chymuned leol Glynebwy drwy weithgareddau cynaliadwy. Llwyddodd 153 o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr adeilad a 5190 thrwy’r ymgyrch cyfathrebu.

Mewn partneriaeth â Llamau, cynhaliwyd gweithdy llygredd plastig yn yr EVI ar gyfer Diwrnod y Ddaear i godi ymwybyddiaeth o lygredd plastig. Rydym wedi creu gofod i drychfilod peillio (pollinators) gyda Eggseeds i gynyddu bioamrywiaeth yr ardal.

Yn fwy diweddar cynhaliwyd ‘Diwrnod Hwyl Nadolig Cynaliadwy i’r Teulu‘ lle cawsom ddisgo pŵer pedal, gweithdai uwchgylchu a sut i greu coed Nadolig o froc môr a paledi pren. Roedd adran ailgylchu Cyngor Sir Blaenau Gwent yn bresennol i gynnig cyngor ailgylchu. Cafwyd arddangosiad rhyngweithiol gan bobl ifanc Llamau hefyd, yn gwahodd aelodau’r gymuned i wneud addewid i helpu’r amgylchedd.

Cymryd rhan weithgar

Rhan arall o’r prosiect oedd annog pobl ifanc i gymryd rhan weithgar mewn ymgyrch cyfathrebu. Roeddant yn hyrwyddo cynaladwyedd wrth ddysgu technegau cyfathrebu a chynhyrchu cynnwys amlgyfrwng. Bu’m yn gweithio gyda gwirfoddolwr a chynhaliwyd cyfres o weithdai, gan gynnwys:

– Gweithdy creu fideo. Dysgu sgiliau cynllunio a chreu fideo i arddangos y gwaith cynaladwyedd yn yr EVI.

– Dosbarth ysgrifennu blogiau. Hyfforddiant ar sut i greu erthyglau newyddion i hyrwyddo cynaladwyedd ac effeithlonrwydd ynni. Cynhyrchwyd cyfres o erthyglau ar bynciau fel cwtogi defnydd carbon, plannu coed, te cynaliadwy a mwy.

Creuwyd fideo byr gan ein gwirfoddolwyr, a nifer o erthyglau ar gyfer yr Ymgyrch Cyfathrebu, a lwyddodd i gyrraedd 5190 o bobl. Gellir darganfod yr erthyglau yma.