Ar ôl adnabod bod yna ddiffyg sgiliau digidol ymysg trigolion a sefydliadau gwirfoddol mewn ardaloedd gwledig, penderfynodd Cyngor Bro Morgannwg chwilio am gymorth arbenigol. Gofynnwyd i ProMo-Cymru gyflwyno ‘cyfres o gyrsiau hyfforddiant neu weithdai i wella sgiliau digidol trigolion ar draws y Fro wledig’.
Mae ProMo-Cymru yn gweithio i sicrhau bod pobl ifanc a chymunedau yn wybodus, wedi cysylltu ac yn cael eu clywed, yn gweithio ar y cyd i greu cyswllt rhwng pobl a gwasanaethau gan ddefnyddio creadigedd a thechnoleg ddigidol, felly roeddem yn hyderus y gallem helpu.
Bûm yn gweithio gyda Chyngor Bro Morgannwg i adnabod yr ardaloedd ble roedd bwlch arbenigedd digidol. Cychwynnom wrth gynnig detholiad o gyrsiau, gan ymgynghori gyda’r rhai oedd yn mynychu i ddarparu hyfforddiant pellach wedi’i selio ar yr adborth a’r awgrymiadau. Cyflwynwyd dros 20 sesiwn hyfforddiant gwahanol, yn ymdrin â phynciau fel:
Cyflwynwyd sesiynau ar draws y Fro; o’r Bari i Wenfô, Sili i Sain Tathan. Derbyniwyd adborth positif gan y rhai fynychodd. Dywedodd un:
“Hyfforddwr gwych sydd yn gyfeillgar, yn helpu ac yn ddiddorol. Wedi ei gyflwyno yn dda iawn, yn cymryd amser i sicrhau ein bod yn deall y pynciau i gyd. Wedi dysgu llawer o sgiliau fydd yn ddefnyddiol yn fy ngwaith o ddydd i ddydd.”