Ar gychwyn 2020 roedd ProMo-Cymru yn llwyddiannus yn ei gais am dendr i gyflwyno sesiynau hyfforddiant sgiliau digidol i Gymunedau Gwledig Creadigol Bro Morgannwg. Roedd rhaid newid y ffordd roeddem yn trosglwyddo’r gwaith yn sylweddol oherwydd COVID, ond roedd effaith ein hyfforddiant wedi mynd ymhell y tu hwnt i’n disgwyliadau cychwynnol.

Mae Cymunedau Gwledig Creadigol Bro Morgannwg yn gweithio gyda darparwyr hyfforddiant addysg oedolion lleol, yn cyflwyno pynciau fel paentio, crefft siwgr, iaith dramor fodern a hanes.

Y cynllun gwreiddiol oedd cyflwyno cyfres o gyrsiau hyfforddi yn yr ystafell ddosbarth yn canolbwyntio ar gyfryngau cymdeithasol, y we a fideo. Yr ymateb ar y cychwyn oedd y dylid gohirio’r cwrs hyfforddiant nes y gall pawb fod yn yr un ystafell eto, ond daeth yn amlwg yn ddigon sydyn bod yr angen i ddysgu sgiliau digidol yn fwy nac erioed o’r blaen.

Bûm yn gweithio’n gyflym i greu cynllun gwaith hollol newydd, gan gynllunio cwrs saith wythnos gynhwysfawr i redeg rhwng mis Mai a mis Mehefin.

Roedd angen i’r cwrs ddysgu popeth o hanfodion sut i ymuno a chynnal gweminar, hyd at greu fideos tiwtorial ‘Sut i’ a recordiwyd o flaen llaw a hyd yn oed hyrwyddo eich gweminar ar gyfryngau cymdeithasol.

Lluniodd y tiwtoriaid, Andrew Collins a Dayana Del Puerto, amlinelliad cwrs i roi arweiniad a map ffordd glir i’r grŵp o’r hyn a fyddai’n cael ei ddysgu gan gadw digon o hyblygrwydd i addasu pob sesiwn i anghenion y dysgwr ac unrhyw geisiadau arbennig gan gyfranogwyr.

Fodd bynnag, gyda chymaint o sgiliau newydd i’w dysgu mewn cyn lleied o amser, fe wnaethom hefyd benderfynu ychwanegu sesiwn Holi ac Ateb agored yn wythnosol, gan ganiatáu i gyfranogwyr ‘alw heibio’ gydag unrhyw gwestiynau technegol oedd ganddynt. Roedd y sesiwn ychwanegol yma yn help i gryfhau gwybodaeth y cyfranogwr gan hefyd gynnig gofod tawelach i’r rhai llai hyderus i ofyn cwestiynau.

Wrth i’r dysgwyr symud ymlaen, roeddem yn parhau i addasu ein cynllun gwaith i sicrhau ein bod yn cynnwys holl newidiadau a gwelliannau diweddaraf Zoom.

Ar ddiwedd y cwrs, rhoddodd 91% o’r cyfranogwyr sgôr 5/5 i’r hyfforddiant, a byddai 100% yn argymell y cwrs i eraill. Cawsom yr adborth canlynol hefyd:

“Dim ond eisiau dweud diolch yn FAWR i bawb, ac edrychaf ymlaen at ddefnyddio mwy o’r holl sgiliau rydych chi wedi’u dysgu i greu presenoldeb ar-lein proffesiynol, trawiadol, hwyl ac sydd yn cyrraedd cynulleidfa amrywiol eang ledled y byd.”

“Mae’r hyn meddyliais yr oeddwn i’n ei wybod cynt yn gysgod o’r wybodaeth sydd wedi cael ei amlygu gan hyfforddiant ProMo-Cymru.”

“Fe darodd yr hyfforddiant y man cywir, ac rydw i’n defnyddio’r wybodaeth newydd yma yn fy addysgu a’m busnes.”

“Tîm proffesiynol deniadol, gyda chwrs rhagorol, wedi’i gyflwyno’n dda. Rwy’n teimlo cymaint yn fwy hyderus ynghylch defnyddio technoleg yn gyffredinol a chyfryngau cymdeithasol yn benodol. Diolch.”

“Roeddwn wedi ymgysylltu’n llwyr, roedd mor ddiddorol. Mae dysgu pethau newydd mor ysgogol â phositif. Yr union beth mae rhywun ei angen ar hyn o bryd. ”

“Roedd Andrew a Dayana yn deall y pynciau yn gyfan gwbl ac yn dda iawn am egluro pob cam. Roeddent yn agos atoch ac yn sicrhau ein bod yn deall pob elfen wrth inni symud ymlaen. Roedd pob sesiwn wedi’i chynllunio’n dda, a’r cwrs yn llifo’n dda. Roeddwn i wir yn gwerthfawrogi’r sesiynau Holi ac Ateb ychwanegol rhwng y sesiynau hyfforddi, gan ei fod yn rhoi cyfle i mi roi cynnig ar yr hyn a ddysgwyd a chael help a gwybodaeth ychwanegol wrth imi fynd ymlaen. Dysgais gymaint.

Am wybodaeth bellach ar hyfforddiant e-bostiwch andrew@promo.cymru