Gwybodaeth Ieuenctid Cenedlaethol i Bobl Ifanc yng Nghymru

Roedd ProMo-Cymru yn llwyddiannus yn tendro i Lywodraeth Cymru i redeg y gwasanaeth gwybodaeth a chyngor cenedlaethol i blant a phobl ifanc yng Nghymru ar ddiwedd 2008. Newidiodd CLIC o fod yn wefan gwybodaeth statig yn unig i gylchgrawn ar-lein deinamig a chyfoes gyda phobl ifanc yn rhan o’i redeg.

Sefydlwyd grwpiau golygyddol ieuenctid oedd yn creu cynnwys i’r wefan yn rheolaidd. Y cam nesaf oedd datblygu gwefannau ‘CLIC’ ymhob sir yng Nghymru, pob un gyda grŵp golygyddol o bobl ifanc eu hunain yn penderfynu ar ddyluniad a chynnwys. Yn ogystal â darparu gwybodaeth a chyngor o ansawdd i bobl ifanc, daeth yn le prysur a chreadigol oedd yn boblogaidd gyda phobl ifanc Cymru.

Cynhaliwyd penwythnosau preswyl rheolaidd, lle’r oedd pobl ifanc o’r holl grwpiau golygyddol lleol yn dod at ei gilydd ac yn cymryd rhan mewn gweithdai a hyfforddiant yn ogystal â llawer o weithgareddau hwyl. Cyhoeddwyd y CLICzine chwarterol hefyd oedd yn mynd i bob ysgol uwchradd, meddygfeydd, canolfannau ieuenctid ayb, yn rhoi blas o’r hyn oedd gan y wefan i’w gynnig.

Daeth y prosiect i ben yn 2015, gyda miloedd o erthyglau wedi’u cyflwyno gan bobl ifanc a sefydliadau. Yn anffodus penderfynwyd torri cyllideb y gwasanaeth ac nid oedd posib diogelu’r hawliau i gadw’r brand CLIC a pharhau gyda ffrydiau cyllido gwahanol. Ond dysgwyd sawl gwers o CLIC fu’n help i ni wrth ddatblygu prosiectau pellach fel y gwasanaeth PwyntTeulu.