Mae ProMo-Cymru yn credu mewn rhoi grym i lais ieuenctid. Bûm yn gweithio gyda Bwrdd Ieuenctid Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a’r Fro – yn defnyddio creadigedd a digidol i greu newid.

Cefnogwyd y bobl ifanc i rannu eu profiadau a chynhyrchu fideo ar bwysigrwydd Hawliau Plant. Bydd BIP Caerdydd a’r Fro yn ei ddefnyddio fel adnodd hyfforddi staff.

Ein Dull

Mae ProMo-Cymru wedi bod yn cyd-gynllunio animeiddiad dwyieithog i osod lleisiau pobl ifanc yn y canol.

I gychwyn, trafodwyd bwriad y fideo a gweithio ar y sgript gyda strwythur cwestiwn ac ateb syml. Roedd yn bwysig i selio’r darn ar brofiadau go iawn y bobl ifanc, ac roedd y dull yma yn rhoi mewnwelediad i’r sefyllfaoedd pan nad oedd hawliau pobl ifanc yn cael eu cyfarfod a sut roedd pobl ifanc yn teimlo am hyn. Dysgwyd mai’r emosiynau mwyaf cyffredin gan bobl ifanc oedd gofid, dig, siom ac wedi’u diystyru.

O’r dysgu yma roedd yn amlwg mai’r broblem fwyaf oedd pan oedd gweithwyr gofal iechyd yn cyfeirio at rieni yn hytrach na’r bobl ifanc. Roedd problemau hefyd yn ymwneud â’r defnydd o iaith gymhleth a chamrywedd. Canlyniad hyn oedd pobl ifanc ddim yn teimlo fel eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, clywed a’u parchu, nac yn cael eu cynnwys wrth wneud penderfyniadau oedd yn effeithio arnyn nhw.

Roedd y mewnwelediadau yma gan y bobl ifanc yn fframio prif neges y fideo: mae hawliau plant yn gyfrifoldeb ar bawb. Penderfynwyd ar y cyd â’r bobl ifanc y byddai naratif y fideo yn dilyn dau o bobl ifanc yn cymharu eu profiadau o’u hawliau ddim yn cael ei gyrraedd. Cytunwyd ar arddull animeiddiad cartŵn oedd yn addas at bwrpas proffesiynol tra hefyd yn hwyl.

Roedd y sgript yn cynnwys profiadau go iawn i gynrychioli llais dilys pobl ifanc. Yn dilyn sesiynau cyd-gynllunio ac adborth pellach gyda phobl ifanc, roedd y sgript wedi’i orffen. Aeth rhai o’r bobl ifanc ati i berfformio’r sgript yng Nghymraeg a Saesneg, gan ddysgu am gynhyrchu sain a recordio troslais. Canlyniad hyn oedd fideo sydd yn rhoi llais dilys i bobl ifanc tra hefyd yn cefnogi gweithwyr proffesiynol i wella’r ffordd maent yn siarad gyda phobl ifanc.

Cysylltwch os oes gennych chi ddiddordeb mewn cyd-gynhyrchu cynnwys digidol.