by Dayana Del Puerto | 1st Ion 2015
Mae cyfryngau cymdeithasol yn dod yn fwyfwy niweidiol i iechyd meddwl a hunanhyder pobl ifanc, gyda pheryglon yn uwch yn ystod gwyliau’r haf, rhybuddiai llinell gymorth genedlaethol.
Mae mwy o bobl yn eu harddegau yn dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl wrth ddefnyddio mwy o gyfryngau cymdeithasol, yn ôl astudiaeth ddiweddar gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol. Gyda mwy o amser i lenwi dros yr haf, mae pobl ifanc yn fwy tueddol i deimlo effaith niweidiol cyfryngau cymdeithasol rhybuddiai Meic, llinell gymorth genedlaethol i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Ynghyd â seiberfwlio, mae arolygon gan Brifysgol Glasgow a’r Gwasanaeth Dinesydd Cenedlaethol (NCS), wedi awgrymu bod pwysau cyflwyno eich hun mewn ffordd benodol ar-lein ac argaeledd cyson fel nad ydych yn colli allan, yn cael effaith mawr ar bobl ifanc.
Mae Meic yn bwriadu taclo effaith cyfryngau cymdeithasol ar bobl ifanc fel rhan o’i ymgyrch cyngor ac ymwybyddiaeth ar-lein yn erbyn pwysau cyfoedion dros yr haf, sydd yn cynnwys yr ofn o fethu allan, delwedd corff, perthnasau, yfed, a mwy.
Dywedai Stephanie Hoffman, Pennaeth Meic, “Gall fod yn anodd cofio’r gwahaniaeth rhwng beth mae pobl yn ei gyflwyno ar-lein a beth sydd yn digwydd gweddill yr amser, ac mae’r disgwyliadau mae hyn yn ei roi ar bobl ifanc yn gallu bod yn niweidiol iawn, yn enwedig dros y gwyliau, felly dyma pam rydym yn targedu’r haf gyda’n hymgyrch.”
Mae Alys, person ifanc o Gaerdydd yn dweud, “Mae cyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn niweidiol iawn gan ei fod yn cymharu bywyd eich hun i fywyd rhywun arall. Yn bersonol mae hyn yn gallu gwneud i mi deimlo’n ddrwg neu’n isel am fywyd fy hun pan fyddaf yn gweld ffrindiau yn gwneud pethau cyffrous.”
Yn ôl yr NCS mae merched yn eu harddegau, fel y canran uwch o ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol, yn fwy tebygol o fod yn anfodlon â’u hymddangosiad yn ogystal â bod yn fwy tebygol o droi at gyfryngau cymdeithasol pan fyddant yn teimlo’n bryderus neu’n poeni yn hytrach nag troi at rieni.
“Yn aml nid yw cyfryngau cymdeithasol wedi’u cyfarparu’n dda i helpu’r bobl ifanc yma,” meddai Ms Hoffman.
“Dyma pam bod Meic yma i roi cefnogaeth a chyngor sydd ei angen pan fyddant yn teimlo nad allant siarad â neb.”
Gall plant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru gysylltu â Meic o 8am i hanner nos, 365 diwrnod y flwyddyn drwy neges wib, neges testun, galwad ffôn neu e-bost.
Gallwch weld holl erthyglau cyngor ar www.meic.cymru ac mae posib dilyn yr ymgyrch gyfan ar dudalennau Facebook (@meic.cymru), Twitter (@meiccymru) acInstagram (@meic.cymru) Meic.
——————————————————-
Nodiadau Golygydd:
Staff Meic ar gael i’w cyfweld, ar gais.
Meic ydy’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0-25 oed yng Nghymru, yn agored 365 diwrnod y flwyddyn. Gall pobl ifanc gysylltu â Meic ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001), neges wib (www.meic.cymru) neu e-bost (help@meic.cymru) rhwng 8yb a hanner nos.
Mae Meic yn cael ei redeg gan ProMo-Cymru ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Am wybodaeth bellach cysylltwch â Stephanie Hoffan (Pennaeth Meic) arsteph@meic.cymru neu ar 029 2000 4787.