by Tania Russell-Owen | 18th Ebr 2018
Yn ôl ym mis Chwefror cawsom ymgyrch perthnasau iach arbennig ar wefan Meic. Roeddem yn ffodus iawn i gael gweithio gyda Sarah McCreadie, perfformiwr gair llafar. Ysgrifennodd a recordiodd ddarn arbennig iawn ar gyfer yr ymgyrch.
Meic ydy’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth genedlaethol i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae yna adran erthyglau ar wefan Meic sydd yn delio â phob math o faterion sydd yn cael effaith ar blant a phobl ifanc. Bob chwarter bydd Meic yn cynnal ymgyrch arbennig, gyda rhai cynt yn cynnwys Hawliau Plant a Bwlio.
Bwriad yr ymgyrch diweddaraf oedd codi ymwybyddiaeth o berthnasau iach. I rymuso pobl ifanc i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn hapus mewn perthynas. Roeddem am greu fideo deniadol fydda bobl eisiau ei rannu yn ogystal â chyhoeddi erthyglau cyngor perthnasau bob dydd ar y wefan.
Creu’r gair llafar
Clywsom am Sarah McCreadie, bardd gair llafar 25 oed. Gofynnom iddi a byddai’n gallu creu darn gair llafar am sut deimlad ydy bod mewn perthynas sydd ddim yn iach. Roeddem am iddi gyfleu’r teimlad o ddolur, dryswch ac ansicrwydd y gall pobl ifanc ei deimlo yn y fath sefyllfa. Derbyniodd yr her a chreu Pili-pala, darn gwych sydd yn cyfleu geiriau pobl ifanc yn berffaith, ac sydd ddim yn teimlo fel ei fod yn pregethu, yn ormesol nac yn afrealistig.
“Cysylltodd ProMo-Cymru yn gofyn i mi ysgrifennu darn ar gyfer y prosiect ac atebais y gwnaf yn syth. Mae’n achos mor bwysig ac roeddwn yn falch iawn eu bod wedi gofyn,” meddai Sarah.
“Wrth ysgrifennu’r gerdd dechreuais drwy ateb cwestiwn o safbwynt person ifanc sy’n poeni: Ydy fy mherthynas yn normal?
“Roeddwn eisiau cyflwyno amwysedd perthnasau sydd ddim yn iach. Yn hytrach nag dweud wrth rywun ‘mae hyn yn ddrwg, mae hyn yn dda’ gan nad dyma’r gwirionedd. Dwi’n meddwl byddai hynny’n anodd iawn i rywun gysylltu ag ef,” esboniai.
Creu Pili-pala
Cafodd y gerdd ei chyfieithu a gofynnwyd i Mari Gil-Cervantes i recordio’r llais Cymraeg. Gyda’r ddau lais wedi’i recordio, cafodd y gerdd ei hanimeiddio i greu fideo, oedd yn canolbwyntio ar y thema o bili-pala.
“Roeddwn yn hapus iawn â’r canlyniad terfynol a’r ymateb iddo,” meddai Sarah yn falch.
“Roedd yn golygu cymaint i mi fod y gerdd wedi’i chyfieithu i’r Gymraeg. Roeddwn yn ymwybodol iawn o’r cyfrifoldeb o’i ysgrifennu ac eisiau ei wneud yn berffaith. Gobeithiaf ei fod wedi gwneud gwahaniaeth i rywun.”
Gan gofio’r Gymraeg
Roedd Mari yn falch iawn hefyd o gael ei gwadd i recordio’r cyfieithiad Cymraeg o’r gerdd.
“Fel rhywun sydd wedi mynychu ysgol iaith Gymraeg, mae’n hyfryd gweld adnoddau gan bobl ifanc, i bobl ifanc, yn cael ei gynhyrchu’n ddwyieithog. Pan ddarllenais y gerdd am y tro cyntaf, diflannodd fy mhryder nad fyddwn yn gallu perthnasu ag ef,” disgrifiodd Mari.
“Ar ôl trafod gyda Sarah am y ffordd roeddwn i wedi dehongli’r cyfieithiad teimlais yn hyderus iawn. Er bod gen i berthynas fy hun gyda’r gerdd, roedd y neges a’r teimlad craidd yn disgleirio drwodd hyd yn oed mewn iaith wahanol.
“Roedd yn brofiad gwobrwyol iawn ac rwyf yn falch bod neges mor bwysig yn gallu cael ei gyfleu yn yr iaith Gymraeg,” ychwanegodd Mari.
Ystadegau calonogol
Llwythwyd y fideo gorffenedig i Twitter a Facebook ar Chwefror 14eg. Cafodd y fideo (y ddau fersiwn) ei wylio dros 45,000 o weithiau gyda 2,437 yn rhannu, hoffi, ail-drydar neu’n gadael sylwadau. Cafodd ei ail-drydar a’i hoffi gan sawl cyfrif dylanwadol fel y Comisiynydd Plant, Spectrum a Kaleidoscope a chafodd ei rannu gan seleb hefyd, gyda Charlotte Coleman (gwraig cyn rheolwr Cymru Chris Coleman) yn ei rannu ar Twitter. Roedd hyn i gyd yn cyfrannu at ymweliadau gwefan uchel am y chwarter.
Bydd yr ymgyrch Meic nesaf yn canolbwyntio ar amryw faterion iechyd meddwl sydd yn effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru ac yn cael ei gynnal yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl o 14-20 Mai. Ymwelwch â’r wefan Meic i weld ein holl erthyglau.
Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs
Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.