Pawb Yn Wahanol, Pawb Yn Gyfartal – Ymgyrch Gwrth Fwlio Diweddaraf Meic

by Dayana Del Puerto | 6th Hyd 2017

Mae’n Wythnos Gwrth Fwlio cyn hir (13-17 Tachwedd), ac mae Meic wedi ffilmio ei ymgyrch diweddaraf – Pawb Yn Wahanol, Pawb Yn Gyfartal.

Pawb Yn Wahanol, Pawb yn Gyfartal - Ymgyrch gwrth fwlio diweddaraf Meic

Rhagolwg o’r brif olygfa o ‘Pawb Yn Wahanol, Pawb yn Gyfartal’, ymgyrch gwrth fwlio diweddaraf Meic.

Mae Pawb yn Wahanol, Pawb yn Gyfartal yn becyn adnodd sydd yn cael ei ddosbarthu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ymhob sir yng Nghymru. Mae’r fideo gwrth fwlio yn dangos un senario o dri gwahanol safbwynt.

Mae’r stori yn cael ei hadrodd o safbwynt dioddefwr, bwli a’r person yn y canol. Mae’n annog trafodaeth ar y pwnc o fwlio. Bydd rhestr o gwestiynau awgrymedig yn cael eu cynnwys yn y pecyn hefyd.

Ydy’r person ifanc yn fwli?

Ydy hyn wedi digwydd o’r blaen?

Sut mae’r dioddefwr yn teimlo?

I bwy ddylai ofyn am gymorth?

Beth welodd y person yn y canol? A yw’n ddigon i wneud cwyn? A ddylai ddweud wrth athro?

Beth allan nhw fod wedi gwneud yn wahanol?

Pawb yn Wahanol, Pawb yn Gyfartal - Ymgyrch gwrth fwlio diweddaraf Meic

Megan Pudney, Cynorthwyydd Cyfathrebu ProMo, yn ymarfer y llinellau Cymraeg gyda’r actorion ifanc.

Gwahoddwyd actorion ifanc i ymuno â chriw ProMo a bod yn rhan o’r ffilm. Fel hyn rydym ni’n gweithio o hyd, yn rhannu cyfleoedd a hyfforddiant. Teithiodd wyth o bobl ifanc o wahanol rannau o De Cymru i Fae Caerdydd i gymryd rhan yn y ffilmio. Rydym yn ddiolchgar iawn i bawb fu’n cymryd rhan.

Bydd y pecyn adnodd yn barod cyn hir ac yn gallu cael ei lawr lwytho o wefan Meic. Cadwch lygaid yma i ddarganfod pryd. Cadwch lygaid hefyd ar Facebook a Twitter ProMo-Cymru am ragflas.

Pawn yn Wahanol, Pawb yn Gyfartal - Ymgyrch gwrth fwlio diweddaraf Meic

Tynnwyd lluniau gan Cerys, un o’r rhieni, ar ddiwrnod y ffilmio.

Mae ProMo-Cymru yn rhedeg y prosiect Meic ar ran Llywodraeth Cymru.

Meic ydy’r llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i bobl ifanc yng Nghymru. Mae’n agored o 8am i hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Cysylltwch â Meic ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001) a negeseuo sydyn.

Pawb yn Wahanol, Pawb yn Gyfartal - Ymgyrch gwrth fwlio diweddaraf MeicTynnwyd lluniau gan Cerys, un o’r rhieni, ar ddiwrnod y ffilmio.


Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru