Pam Bod Hygyrchedd Yn Bwysig i Bawb

by Tania Russell-Owen | 21st Medi 2017

Mae ProMo-Cymru yn helpu elusennau i ddarganfod datrysiadau digidol i gyfathrebu yn well gyda defnyddwyr.

Rydym yn gweithio gyda dau o elusennau ar hyn o bryd, gyda’r bwriad o gynyddu hygyrchedd eu gwasanaethau digidol ac adlewyrchu angen a llais pobl anabl. Byddem yn arddangos y gwaith yma yn fuan.

Yn y darn hwn, hoffwn rannu’r pethau dysgais wrth weithio gyda’r elusennau yma a’u defnyddwyr. Y prif beth ydy pa mor bwysig ydy dyluniad da i bawb, a sut mae hyn wedi fy helpu i.

Gwybodaeth ar gyfer Pam Bod Hygyrchedd Yn Bwysig i Bawb

Fel rhan o ddatblygu sgiliau digidol newydd i’r sefydliadau yma, siaradom gyda rhai o’r defnyddwyr i ddod i ddeall sut roeddent yn defnyddio llwyfannau digidol. Roedd y brif rwystredigaeth yr un peth ag yr oedd i mi, hynny yw gwasanaethau wedi’u dylunio’n wael.

Ond er hyn, yn aml roedd rhaid i’r grŵp yma weithio’n galetach i gael mynediad i wasanaethau. Roedd hyn yn arbennig o wir pan roedd pwyntiau mynediad ar-lein yn wael. Gall hyn olygu gorfod gwneud trefniadau teithio cymhleth i gyfarfod cynrychiolydd gwasanaeth wyneb i wyneb. Weithiau golygai hyn gorfod disgwyl am gyfnodau hir o amser fel bod trefniadau yn gallu cael ei wneud i gyfarfod eu hanghenion.

Darllenwyr sgrin a rhaglenni testun i lafar

Un peth ddaeth yn glir oedd sut mae gwasanaethau, sydd ddim yn rai Llywodraeth na’r trydydd sector, yn arloesi i sicrhau hygyrchedd ar-lein. Cefais diwtorial sydyn gan un person am sut roedd yn defnyddio’r gosodiadau hygyrchedd ar ei iPhone. Dangosodd sut roedd yr iPhone yn gallu darllen bron popeth ar y sgrin i chi, yn ogystal â phethau eraill. Roedd hwn yn un o’r arddangosiadau mwyaf effeithiol i mi ei weld. Dim ond tair munud ac mae wedi gwella fy ansawdd bywyd.

Roedd yr arddangosiad yn wych i mi, gan fy mod yn dioddef gyda chyflwr llygaid. Golygai hyn bod rhaid i mi wisgo lensys cyffwrdd yn hytrach nag sbectol i gywiro fy ngolwg. Heb lensys cyffwrdd mae darllen yn anodd. A gwir i chi, dydy sbectol ddim yn helpu.

Rwyf yn ddarllenydd brwd. I fwydo’r arfer rwyf yn aros yn ddihun yn hwyr yn darllen. Ond mae’n rhaid i mi dynnu’r lensys cyn mynd i’r gwely. Canlyniad yr arddangosiad iPhone yma oedd bod cynnwys ysgrifenedig ar-lein yn gallu cael ei ddarllen i mi. Golygai hyn bod posib tynnu’r lensys allan a mynd i’r gwely’n gynt. Mae deffro am 6am yn llawer haws nawr.

Mae hygyrchedd ar-lein dda yn gwneud gwasanaethau yn haws i’w defnyddio i bawb

Cyn i mi weld y meddalwedd hygyrchedd ar iOS (ac opsiwn Android o’r enw Pocket), roedd y meddalwedd roeddwn i’n gyfarwydd ag ef yn y sector statudol a’r trydydd sector yn ymddangos yn hen. Roedd yn anodd ei ddefnyddio ac nid allwn ddychmygu fy hun yn gwneud defnydd ohono. Wrth brofi darllen clywedol deallaf sut mae gwefannau sydd wedi’u hoptimeiddio’n ddrwg yn gallu gwneud cyfieithiad testun yn anodd ei amgyffred.

O siarad gyda phobl am eu profiadau o ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, dysgais fod hygyrchedd yn golygu bod defnyddio gwasanaethau yn dod yn haws i bawb. Ac wrth wrando ar leisiau pobl eraill gallem gryfhau llais ein hunain.

Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru

Llun clawr gan Drew Graham ar Unsplash