Cyflwyno Manon, Ein Gwirfoddolwr EVS Newydd

by Sam Easterbrook | 9th Hyd 2017

Dewch i gyfarfod y person diweddaraf i ymuno â’n tîm yma yn ProMo-Cymru, Manon, ein gwirfoddolwr EVS newydd o Ffrainc.

Manon - new EVS volunteer at ProMo-Cymru

Helo, Manon ydw i a dwi’n wirfoddolwr EVS ifanc o Ffrainc, yn gweithio yma yng Nghaerdydd.

Byddaf yn gweithio i ProMo-Cymru am 11 mis. Dwi’n 22 oed a newydd orffen fy ngradd yn y maes cyfathrebu. Cyn i mi gychwyn fy ngradd Meistr mewn cyfathrebu gwleidyddol, roeddwn eisiau treulio blwyddyn yn dysgu Saesneg. Dwi’n cadarnhau’r chwedl am bobl o Ffrainc, dwi wir ddim yn dda yn siarad Saesneg.

Roeddwn i hefyd eisiau dod i ddarganfod gwlad a diwylliant arall, a dwi’n meddwl fy mod i wedi gwneud y dewis cywir yn dod i Gymru! Mae’r wlad yma yn fy atgoffa o’m hardal yn Llydaw! Ac mae hynny’n ganmoliaeth fawr!

Beth ydy fy argraff gyntaf i o’r ddinas ers cyrraedd yma? Dwi’n meddwl bod Caerdydd yn ddinas ddeniadol iawn, gyda bae prydferth, pobl neis iawn, a cymaint o ddigwyddiadau fel na fyddaf yn diflasu o gwbl!

Yr unig bwynt negyddol ydy’r tywydd… mae’n oer ac yn wlyb yma! Mae’n waeth nag Llydaw! Ond dwi’n sicr o ddod i arfer.

Yn olaf, dwi’n hapus iawn i fod yma. Mae gweithio fel rhan o dîm braf, mewn sefydliad diddorol, gyda phrosiectau deniadol, mewn tref ddeinamig, yn deimlad da. Popeth sydd ei angen i gael blwyddyn dda!

Ac fel yr ydym yn ei ddweud yn Ffrainc – A bientôt!

Mae Cyfnewid UNA yn trefnu’r rhaglen EVS sydd yn cael ei ddefnyddio gan ProMo-Cymru i recriwtio gwirfoddolwyr.

Manon ydy’r 16eg gwirfoddolwr Ewropeaidd sydd wedi dod at ProMo-Cymru i weithio. Rydym wedi croesawu gwirfoddolwyr o Slofacia, Latfia, Sbaen, Ffrainc, Yr Eidal, Gwlad Pwyl, Belarws, Lithwania, Rwsia ac Estonia. Mae pob un wedi bod yn llawn syniadau a brwdfrydedd sydd yn helpu ni i dyfu ac arloesi fel sefydliad.


Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru