Mae Gan ProMo-Cymru Swyddfa Newydd

by Tania Russell-Owen | 26th Medi 2017

Mae ProMo-Cymru wedi cwblhau ei adleoliad i swyddfa newydd ar 17 Stryd Gorllewin Bute.

Rydym yn falch o gael rhannu’r newyddion bod holl adrannau ProMo-Cymru bellach o dan yr un to. Heblaw am yr EVi, gan eu bod nhw yng Nglyn Ebwy. Ond mae gwasanaethau Rheolaeth a Chraidd a Gweithredu Cymdeithasol ynghyd â’r tîm Cyfathrebu, Cyfryngau a Chelfyddydau yn ein swyddfa newydd ym Mae Caerdydd. Ble ym Mae Caerdydd?

17 Stryd Gorllewin Bute,
Bae Caerdydd,
Caerdydd,
CF10 5EP

Dyma fap:

A dyma lun hefyd:

Rydym ni wedi’n lleoli i lawr y ali fechan yma mewn cwrt. Rydym yn gweithio ar fideos ar y funud i roi taith rith o’n hamgylchedd newydd.

Felly rydym wedi dweud hwyl fawr wrth ein swyddfeydd yn Stryd Harrowby, sydd yn golygu bod ymweld ein ffrindiau da yn The Deck yn mynd i gymryd mwy o amser. Ond rydym yn agosach at Nata & Co nawr, felly ceir manteision ac anfanteision. Canlyniad arall o symud ydy nad oes parcio i ymwelwyr bellach. Ond mae posib cael awr o barcio am ddim yn Stryd Gorllewin Bute, yn ogystal â’r drafnidiaeth gyhoeddus wych i’r Bae. Mae’r wybodaeth ar ein tudalen cysylltu wedi’i ddiweddaru ac mae yna wybodaeth parcio a thrafnidiaeth yno i chi.

Prisiau parcio Stryd Gorllewin Bute blog swyddfa newydd

Un nodyn olaf, mae’r rhifau ffôn yr un peth.

Bydd mwy o newyddion i ddilyn yn fuan, gan fod sefydliad trydydd sector arall o Gymru yn symud i mewn i’r adeilad hefyd. Rydym hefyd yn gobeithio cyd-ddylunio elfennau o’r adeilad gyda phobl ifanc cyn lansio’r academi ddigidol. Felly cyfnod cyffrous yma yn ProMo-Cymru.

Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

029 2046 2222
info@promo.cymru
@ProMoCymru