Llinell gymorth Cymru i blant a phobl ifanc: diweddariad

by ProMo Cymru | 12th Mai 2016

Ysgrifennwyd gan Dan Grosvenor

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi bod Meic – y llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth genedlaethol i blant a phobl ifanc Cymru – yn cychwyn cyfnod newydd, ac rydym wedi lansio fideo animeiddiad newydd i ddathlu ac egluro ein rôl ymhellach!

Ers sefydliad Meic yn 2011, mae wedi delio gyda bron i 30,000 o gysylltiadau, yn ymwneud ag amrywiaeth eang o faterion o straen arholiadau i fwlio, iselder i anhwylderau bwyta, a llawer mwy. Meic oedd y llinell gymorth eiriolaeth gyffredinol cyntaf yn y DU a bellach dyma linell gymorth eiriolaeth arweiniol Cymru ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed.

Cliciwch uchod i weld ein fideo newydd, sydd yn egluro mwy am Meic ac eiriolaeth (Saesneg yma).

A fyddech cystal â rhannu gydag unrhyw un gall elwa ohoni.

Fel dywedodd y person ifanc yn y fideo:

“Mae Meic yn sicrhau bod rhywun yn gwrando ar ein llais ac yn cymryd pethau o ddifrif. Mae’r cynghorwyr yno i ni. Maent yn rhoi cyngor ac, ochr yn ochr, rydym yn casglu’r wybodaeth sydd ei angen i fedru gwneud rhywbeth am ein sefyllfa yn hyderus. Ac os ydym yn dal i deimlo nad allem ni wneud hyn ar ben ein hunain gallant siarad ar ein rhan – mae hyn am fod Meic yn llinell gymorth eiriolaeth.”

Hefyd, mae’n gyffrous cael ehangu ein cyrraedd i fwy o blant a phobl ifanc drwy’n gwefan, fydd yn cynnwys “Gafael yn y Meic” – cyfle i blant a phobl ifanc gael dweud eu dweud, yn ogystal â thrwy ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol ar faterion allweddol.

Ar ôl proses tendro diweddar gan Lywodraeth Cymru, bydd ProMo-Cymru yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth Meic dros y ddwy flynedd nesaf (tan 31ain Mawrth 2018) er budd pobl ifanc Cymru.

Gall plant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru gysylltu â Meic o 8am tan hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn ar y ffôn (080880 23456), neges testun (84001), neges wib (www.meic.cymru/cym) neu e-bost (help@meic.cymru).