[Wedi cau] Staff Llinell Gymorth Sesiynol

by Andrew Collins | 17th Ion 2022

Mae staff llinell gymorth sesiynol yno wrth gefn i wasanaethu ein llinellau cymorth ar draws ProMo-Cymru. Y brif linell gymorth yw Meic Cymru (i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed; ar y ffôn, neges testun a sgwrsio ar-lein; yn agored 365 diwrnod y flwyddyn, 8yb tan hanner nos). Mae’r llinellau cymorth eraill yn canolbwyntio ar oedolion.

Byddwch yn darparu gwasanaethau llinell gymorth i blant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol, yn cynnig gwybodaeth, cyngor, cymorth ac eiriolaeth sydd yn seiliedig ar hawliau ac yn canolbwyntio ar y person.

Mae gwaith sesiynol yn amrywio, o 2 awr hyd at 8 awr (sifft lawn gydag awr o egwyl ddi-dâl) dros ddyddiau, nosweithiau a phenwythnosau, gyda thâl o £13.52 yr awr. Gellir trafod yr oriau yn amodol ar yr angen a disgwyliadau ProMo-Cymru a’r gweithwyr sesiynol unigol.

Mae sifftiau sesiynol yn cael eu gweithio o adref. Mae angen gofod gwaith distaw, mynediad i gyfrifiadur a’r Rhyngrwyd. Bydd angen i chi fedru mynychu’r swyddfa yng Nghaerdydd ar adegau. Bydd angen i chi gael y profiad a’r cymwysterau angenrheidiol sydd yn hanfodol i’r swydd, ac i fod yn ddibynadwy.

Os oes gennych chi ddiddordeb:

– darllenwch gopi o’r Swydd Ddisgrifiad a’r ddogfen Cyd- ddisgwyliadau
– cwblhau a chyflwyno CV cyfoes, datganiad personol byr (hyd at 500 gair), manylion cyswllt, a’i ddychwelyd i pat@promo.cymru

Rydym yn recriwtio hyd at 2 gwaith y flwyddyn, felly ni fyddem yn cysylltu nes ein bod wrthi’n recriwtio.

Wrth anfon eich gwybodaeth bersonol atom rydych chi’n caniatáu i ProMo- Cymru gadw a defnyddio eich gwybodaeth bersonol at y diben bwriedir; ni fydd yn cael ei rannu / datgelu i unrhyw un arall. Os yw eich amgylchiadau yn newid ac nid ydych ar gael mwyach, rhowch wybod i ni fel y gallwn dynnu eich manylion o’n cofnodion.

Am unrhyw ymholiadau cysylltwch â Pat Green: pat@promo.cymru