by Dayana Del Puerto | 4th Hyd 2016
CRYNODEB
Mae PwyntTeulu Cymru, gwasanaeth aml-sianel sydd yn gosod rhieni a gofalwyr wrth ei galon, yn chwilio am bobl i fod yn rhan o’i ymgyrch fideo hyrwyddol. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r prosiect anhygoel yma ac eisiau hyrwyddo’r gwasanaeth i rieni eraill ledled Cymru, mae cyfle gwych i chi yma!
Rydym yn chwilio am bobl gydag ychydig o brofiad actio i berfformio mewn fideo i hysbysebu’r gwasanaeth darparir gan PwyntTeulu. Mae’r stori yn dilyn teulu a’r trafferthion cudd sy’n eu hwynebu, a sut mae PwyntTeulu Cymru yn helpu. Bydd eich enw yn ymddangos ar fideo fydd yn cael ei rannu ledled Cymru, gan gynnwys dros Lywodraeth Cymru.
RHANNAU
- Chwarae oedran: 30-40 oed (merch feichiog/merch yn hapus i ymddangos fel petai’n feichiog)
- Chwarae oedran: 30-40 oed (bachgen)
- Chwarae oedran: 15-17 oed (bachgen/merch)
- Chwarae oedran: 8-10 oed (bachgen/merch)
Ni fydd rhaid dysgu sgript; ond bydd gofyn i’r actorion recordio troslais. Gan fod y fideo yn ddwyieithog, byddem yn ffafrio siaradwyr Cymraeg. Croesawir ceisiadau gan bawb sydd yn ffitio’r oedran a’r rhannau, yn ddifater i hil nac anabledd.
Mae PwyntTeulu Cymru yn brosiect gan ProMo-Cymru, fydd yn arwain y broses ffilmio.
DYDDIADAU A LLEOLIADAU ALLWEDDOL
Clyweliadau: Gyrrwch eich manylion cyswllt a llun o’ch wyneb, ynghyd â fideo byr (30 eiliad ar y mwyaf) yn cyflwyno eich hun i Dayana@promo.cymru – Gallech chi ddefnyddio’ch ffôn symudol i ffilmio (nid yw’r ansawdd yn bwysig – ond y ffordd rydych chi’n mynegi eich hun!)
Mae croeso i chi yrru eich fideo gan ddefnyddio Dropbox neu www.wetransfer.com.
Dyddiad cau: 23/10/2016
Ffilmio yn Cychwyn: Wythnos y 31ain Hydref, 2016 (byddwn yn ceisio addasu i’ch argaeledd)
Hyd: 1 diwrnod (5-6 awr ar y mwyaf)
Lleoliad ffilmio: Caerdydd
Tâl: Bydd unrhyw gostau yn cael ei dalu (teithio a chynhaliaeth resymol) yn ogystal â thalebau siopa.
Os hoffech weld esiampl o’n gwaith blaenorol, edrychwch ar y fideo yma wedi’i greu i Meic!