Galwad Castio – Actorion Ifanc

by Dayana Del Puerto | 19th Gor 2016

Rydym Yn Chwilio  Am (oedrannau fras):

Bachgen 11-12 oed
Merch 11-12 oed

Rolau eilaidd:
Bechgyn/merched 11-12 oed (Tua 5x)

Crynodeb:

Mae Meic, y llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth genedlaethol, yn chwilio am bobl ifanc i gymryd ran yn ei ymgyrch fideo diweddaraf.

Mae Meic yn chwilio am un ferch 11-12 oed, ac un bachgen 11-12 oed, gyda rhywfaint o brofiad actio, i actio mewn fideo yn hysbysebu gwasanaethau Meic, wrth ochr merched a bechgyn eraill mewn rolau eilaidd.

Bydd y fideo yn adrodd stori merch a bachgen a’r broblemau maent yn gwynebu wrth symud o’r yggol gynradd i ysgol uwchradd — gyda help Meic. Nid oes angen dysgu sgript.

Manylion:

Ffilimio yng Nghaerdydd dros cyfnod 2/3 diwrnod (sawl awr bob dydd) yn ystod wythnos 25ain Gorffennaf 2016. Byddwn yn ceisio fod yn hyblyg os oes angen.

Clyweliadau ar 21ain Gorffennaf, 4:30pm-5:30pm yn Hwb Llyfrgell Caerdydd. Oes oes gen ti ddiddordeb, ond methu mynychu’r clyweliad ar y dyddiad hon, e-bostiwch dayana@promo.cymru er mwyn trefnu dyddiad arall.

Byddwn yn cynnig taleb (voucher) £25 i bawb sy’n gymryd ran yn y ffilm, ac mi fydd enwau’r actorion yn cael eu dangos ar fideo a rannir ar draws Cymru, yn cynnwys Llywodraeth Cymru.

Os wyt ti am weld enghraifft o’n gwaith, dyma fideo sydd wedi’u rhannu dros 2,000 gwaith!

Yn Cymraeg: