[Wedi cau] Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth

by Andrew Collins | 17th Ion 2022

Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth (llawn amser/rhan amser)
Swyddfa Caerdydd a/neu weithio o gartref
Cyflog: £22,721 (yn cael ei adolygu)

Yn gweithio yn y Tîm Gweithredu Cymdeithasol byddech yn trosglwyddo gwasanaethau llinell gymorth gwybodaeth, cyngor, cymorth ac eiriolaeth i blant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol wedi’i selio ar hawliau ac yn canolbwyntio ar y person – gan gynnwys Meic Cymru / Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr / PECF / MIEG

Byddech yn gallu:

– creu cysylltiad positif gydag amrywiaeth eang o bobl
– creu gwahaniaeth positif gyda’r bobl sydd yn cysylltu â chi
– bod yn ddylanwad positif ar y tîm
– gweithio shifftiau gan gynnwys nosweithiau a phenwythnosau

Yn ddelfrydol byddech yn gallu:

– cyfathrebu yn y Gymraeg neu’n fodlon dysgu

Croesawir secondiad.

Dyddiad Cau: 5yp, Dydd Llun 14fed Chwefror 2022

Lawr lwythwch y disgrifiad swydd

Lawr lwythwch y pecyn cais yma

Bydd angen gwiriad DBS uwch.

Gellir lawr lwytho pecynnau cais o: www.promo.cymru
Am wybodaeth cysylltwch â: info@promo.cymru
Gyrrwch ffurflenni cais electroneg at: info@promo.cymru

Mae ProMo-Cymru wedi ymrwymo i gyfle cyfartal

Mae ProMo-Cymru Cyf yn elusen gofrestredig. Rhif elusen: 1094652 Rhif Cwmni Cyfyngedig: 1816889