by Dayana Del Puerto | 30th Medi 2016
Dwi newydd ddod i ddiwedd mis anhygoel o brofiad gwaith gyda ProMo-Cymru.
Dysgais am ProMo am y tro cyntaf fel person ifanc, ym Mlwyddyn 9 yn yr ysgol, a dwi wedi bod yn rhan ohono fel gwirfoddolwr ers hynny. Roedd staff TheSprout ar yr adeg wedi fy ysbrydoli’n llwyr i fynd i mewn i newyddiaduraeth cerddoriaeth a rheolaeth digwyddiadau, a siaradais amdano yn fy nghyfweliad yng Nghaergrawnt!
Bellach yn 21, dwi’n parhau i feddwl am TheSprout fel un o’r llwyfannau mwyaf cŵl sydd allan yna yn y DU i bobl ifanc gael dweud eu dweud, yn eu ffordd nhw. Roedd is-olygu’r wefan dros y mis yma yn dangos i fi faint sydd yn digwydd yn y brifddinas ar hyn o bryd, ac ysgrifennais am ddathliadau City of the Unexpected Roald Dahl a sîn hip-hop a grime Caerdydd gyda chymorth Grassroots.
Roedd ysgrifennu cynnwys ar gyfer y wefan PwyntTeulu Cymru, sydd wedi’i anelu at rieni fwyaf, yn anodd fel myfyriwr sydd ddim wedi cael llawer o gysylltiad gyda phlant heblaw am pan fydd Kid Ink yn dod ymlaen mewn partïon. Ond dwi wedi dysgu sut i ddefnyddio fy sgiliau ysgrifennu mewn gwahanol ardaloedd ac roedd hyn yn her iach.
Roedd taith wythnosol i Institiwt Glyn Ebwy, un o’r adeiladau hynaf yn Ne Cymru, yn newid mawr o swyddfa Caerdydd. Gyda help gwirfoddolwr EVS newydd ProMo, Auguste, dwi wedi rhoi fideo at ei gilydd sydd yn dathlu beth mae’r canolfan diwylliannol yn ei gynnig i’r gymuned.
Dwi ar fin dychwelyd i Gaergrawnt ar gyfer fy nhrydedd flwyddyn yn y brifysgol. Mae fy mis yng Nghaerdydd a Glyn Ebwy wedi bod fel chwa o awyr iach. Mae ProMo-Cymru yn grŵp o bobl anhygoel sydd yn gwneud pethau pwysig mewn ffordd newydd. Hoffwn weithio gyda nhw eto ar ôl i mi raddio.
Fyddech chi’n hoffi darganfod mwy am y ffordd rydym yn gweithio? Cysylltwch.
Mwy o flogiau fel hyn:
EU Referendum: Young Cardiffian Combats “Mainstream Misinformation”, With NATO Interviews, And More