Diwrnod Agored Llwyddiannus i ProMo-Cymru

by Tania Russell-Owen | 5th Hyd 2018

Ar ddydd Gwener, 28 Medi, cynhaliwyd agoriad swyddogol ein swyddfeydd newydd ym Mae Caerdydd, yn rhoi cyfle i ni arddangos ein gwaith yma yn ProMo-Cymru.

Agorwyd yr eiddo newydd yn swyddogol gan yr Aelod Cynulliad Vaughan Gething gyda gwesteion o’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus yn cael teithiau o amgylch yr adeilad, gweithdai gyda’n  timau llinell gymorth a chreadigol, ac arddangos y ffordd rydym yn creu rhai o’n gwaith fideo. Darparwyd cinio bwffe blasus gyda chyfle i’n gwestai rwydweithio, a chawsom wledd wrth wrando ar berfformiad byw o’r darn Pili-pala llwyddiannus gan yr artist gair llafar Sarah McCreadie. Cafwyd perfformiad gair llafar byrfyfyr hefyd gan Sabrina Islam o’r Ministry of Life.

Diwrnod Agored cegin

Ein Cegin Greadigol ac un o’r ystafelloedd cyfarfod

“Heb os nac oni bai, uchafbwynt y digwyddiad oedd y perfformiadau gan y bobl ifanc Sarah a Sabrina. Roedd y ddau ddarn yn cyfleu rhai o’r heriau sy’n wynebu pobl ifanc. Trosglwyddwyd y rhain gydag angerdd, emosiwn a thalent.” eglurai Arielle Tye, Rheolwr Busnes ac Ariannu ProMo-Cymru.

Dathlu ac edrych tuag at y dyfodol

Cychwynnodd y diwrnod gydag araith agoriadol gan Arielle Tye. Ymestynnodd croeso i bawb a rhoi hanes byr o ProMo-Cymru a’n gwaith, yn ogystal â chyflwyno ein model TYC. Bu’r gwesteion yn cymryd rhan mewn gweithdai wedyn. Un yn arddangos ein gwasanaethau llinell cymorth a sut gallan helpu pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau yng Nghymru. Roedd y llall yn cyflwyno gwaith ein tîm creadigol.

 

“Roedd y diwrnod agored yn gyfle i ddathlu ac edrych tuag at y dyfodol gyda’n partneriaid a ffrindiau o’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus. Roedd yna egni positif wrth i ni drafod â’n gilydd sut gall technoleg ddigidol ein helpu i drosglwyddo gwasanaethau i bobl ifanc, teuluoedd a chymunedau yn fwy effeithiol. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n partneriaid i symud y syniadau yma ymlaen,” meddai Arielle yn frwdfrydig.

Gwerthoedd ac ansawdd

Eglurodd Marco Gil-Cervantes, Prif Weithredwr, ychydig fwy am adferiad yr adeilad a’r bobl oedd yn gyfrifol am hynny. Yna cyflwynodd Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Vaughan ydy Aelod Cynulliad De Caerdydd a Phenarth ac felly roedd yn falch o gael agor yr adeilad yma yn ei etholaeth.

Diwrnod agored, AC, Andrew, Marco

Vaughan Gething AC, Andrew Collins a Marco Gil-Cervantes

“Rwyf wedi gweld ProMo-Cymru yn newid dros gyfnod. Yr hyn sydd yn nodedig ac yn bwysig i mi ydy gweld y gwerthoedd sydd yn llifo drwy’r sefydliad, ac i weld hynny’n bod yn llwyddiannus,” meddai Vaughan Gething.

“Mae ProMo-Cymru wedi bod yn llwyddiannus am fod ganddo werthoedd ac mae’n trosglwyddo gwasanaethau o ansawdd. Maent wedi helpu cynnal a chefnogi pobl. Mae’n bleser cael bod yma. Rwyf yn gefnogwr ac yn bencampwr o’r sefydliad yma yn union fel y maen nhw’n gefnogwyr ac yn bencampwyr y bobl maent yn gweithio â nhw, ac yn gweithio ar eu rhan,” ychwanegodd.

Teimlo’n bositif

Roedd yna lawer o adborth positif gan ein gwestai wrth iddynt adael, a llawer yn trydar pethau cadarnhaol hefyd:

“Sut i gynnal diwrnod agored 101. Profiad gwych gyda’n cleient @ProMo-Cymru heddiw. Wedi creu argraff gyda ymdrech gan bob un i drosglwyddo rhywbeth uwchlaw a thu hwnt i’r norm”Steve Dimmick, Prif Swyddog Masnachol Doopoll.

“Wedi mwynhau cyfarfod staff @ProMo-Cymru a’u gwesteion heddiw yn eu digwyddiad lansio. Ias wrth wrando ar Pili-pala gan @Girl_Like_Sarah” DTA Cymru.

Diwrnod Agored sgrin werdd

Rhoi tro ar y sgrin werdd

“Da iawn bawb. Mae yna si mawr am ProMo-Cymru a llawn haeddiant hefyd.”Matthew Gwyn Lloyd,  Cymunedau Digidol Cymru.

“Digwyddiad #rhwydweithio grêt yn niwrnod agored @ProMoCymru. Gair llafar anhygoel gan #boblifanc. Mor dalentog.”Gillian Wilde, Holos Education Ltd.

Diolch arbennig i Joff o Ministry Of Life fu’n darparu’r system sain a’r gefnogaeth dechnegol, yn ogystal â chyflwyno perfformiwr ifanc i bawb.

Diwrnod agored llun staff

Rhai o staff ProMo-Cymru

Edrychwch ar holl luniau’r diwrnod agored yma.

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych chi ddiddordeb yn unrhyw un o’n gwasanaethau neu os hoffech ddysgu mwy am ein gwaith yma yn ProMo-Cymru cysylltwch â Arielle Tye ar 029 2046 2222 neu e-bostio arielle@promo.cymru.

Gwybodaeth bellach am ein Model TYC yma:

Model TYC – Trawsffurfio, Ymgysylltu, Cyfathrebu