Sut i Ddarganfod Delweddau Da Heb Hawlfraint

by Dayana Del Puerto | 28th Medi 2016

Chwilio am ddelweddau am ddim i addurno’ch gwefan a’u defnyddio ar gyfryngau cymdeithasol?

Mae llun yn ychwanegiad gwerthfawr… ac yn gwneud i’ch postiadau blog a’ch erthyglau edrych yn llawer gwell.

Ond mae angen i chi fod yn ofalus nad ydych chi’n anwybyddu cyfreithiau hawlfraint. Nid yw’n ddoeth i chi fynd ar Ddelweddau Google a chymryd beth bynnag sydd yn gweddu. Ac nid ydych chi eisiau defnyddio lluniau clipart arferol mae pawb arall yn eu defnyddio.

Wir i chi, byddaf yn hapus iawn petawn i byth yn gweld y dyn yma eto…

Ond mae yna rai gwefannau lle gallech chi ddarganfod delweddau gwych, deniadol ac am ddim. Mae hyn yn enwedig o wir os mai elusen ydych chi neu yn y trydydd sector a ddim yn eu defnyddio at bwrpas masnachol.

Mae yna 4 math o ddelweddau am ddim gallech chi eu defnyddio

1. Lluniau rydych chi wedi’u tynnu neu arlunio eich hun.

2. Lluniau Hyrwyddol – O dan rywbeth gelwir yn ‘deliad teg’ (manylion pellach yma), gallech chi ddefnyddio delweddau fel poster ffilm neu glawr albwm os ydych chi’n siarad am y ffilm neu albwm yna.

3.3. Delweddau sydd yn ddi-hawlfraint — gall y rhain fod yn lluniau sydd yn y parth cyhoeddus fel fflagiau cenedlaethol. Neu gallant fod yn rai hen iawn ble mae’r hawlfraint wedi dod i ben. Ydych chi wedi gweld yr hen luniau du a gwyn yna gyda sylwad cryno oddi tanodd? Rydych chi’n gwybod nawr pam bod cymaint ohonynt. Delweddau di-hawlfraint eraill ydy rhai ble mae’r creawdwr wedi gadael unrhyw gais hawlfraint ac wedi caniatáu i’w gwaith gael ei ddefnyddio’n rhydd – fel arfer gellir darganfod y rhain ar wefannau fel Pixabay.

4. Delweddau Creative Commons – mae’r delweddau yma yn rai ble mae’r creawdwr wedi rhoi trwydded Creative Commons ar eu gwaith. Mewn realiti golygai hyn bod posib i chi ddefnyddio’r ddelwedd yma am ddim os ydych chi’n eu credydu. Dyma’r math o luniau rydym wedi’u defnyddio amlaf ar TheSprout dros y blynyddoedd. Mae’r mwyafrif yn dod o wefan o’r enw Compfight.

Y gyfrinach ydy defnyddio’r Creative Common

Mae’r Creative Commons yn sefydliad dielw sydd yn darparu trwyddedau hawlfraint hawdd i’w defnyddio i roi caniatâd i’r cyhoedd rhannu a defnyddio’ch gwaith creadigol. Mae rhywun sydd yn defnyddio un o’r trwyddedau Creative Commons yn newid yr hawlfraint o fod yn un ‘cedwir pob hawl’ i ‘cedwir rhai hawliau’. A golygai hyn, os ydych chi’n credydu’r person sydd wedi creu’r lluniau ar eich blog neu erthygl yna gallech chi eu defnyddio.

Ble i ddarganfod delweddau gyda thrwydded Creative Commons

Compfight —  Mae TheSprout a PwyntTeulu Cymru wedi bod yn defnyddio Compfight ers nifer fawr o flynyddoedd. Mae’n grêt darganfod delweddau diddorol ac am ddim i gyd-fynd â’r erthyglau sy’n cael eu cyflwyno gan bobl ifanc a theuluoedd. Mae Compfight yn chwilio Flickr gan ddefnyddio’r system tagiau. Ar ôl i chi chwilio am y tro cyntaf mae posib cyfyngu i ddelweddau CC yn unig ar yr ochr chwith. Gair o rybudd, mae’r ddwy linell gyntaf o ddelweddau yn rai Shutterstock fel arfer (h.y. rhaid talu amdanynt) ac weithiau ar ôl chwilio cwpl o weithiau bydd Shutterstock yn ymddangos mewn ffenestr newydd. Ond mae’n werth dioddef hyn ar gyfer yr archif enfawr o ddelweddau diddorol gallech chi eu defnyddio am ddim.

Bu Campaign Monitor yn blogio am y pwnc yma yn ddiweddar ac wedi amlygu 6 lle arall i ddarganfod delweddau. Ac mae gan Buffer restr enfawr gyda 53 o wefannau lle gallech chi ddarganfod delweddau am ddim! Buffer sydd hefyd y tu ôl i Pablo, sydd yn declyn defnyddiol iawn i greu postiadau cyfryngau cymdeithasol gweledol (dyma beth ddefnyddiais i greu’r ddelwedd uchod).

Mae Pixlr Express  yn declyn defnyddiol am ddim arall sydd yn golygu ac yn gwella eich delweddau yn sydyn gyda ffilteri, fframiau a thestun. Atyniad Pablo a Pixlr Express ydy eu bod am ddim i’w defnyddio a gallech chi wneud hyn yn eich porwr, heb orfod lawr-lwytho unrhyw feddalwedd.

Gyda diddordeb mewn manteisio i’r eithaf ar gyfryngau cymdeithasol i gyrraedd eich cynulleidfa? Cysylltwch â ni yma.


Erthyglau Perthnasol:

Sut i Ychwanegu Instagram i’ch Postiadau Wedi’u Hybu