Dathlu Hanes Pobl Dduon a Chymru yn EVI

by Megan Lewis | 18th Hyd 2022

Ymunodd dros 70 o aelodau’r gymuned â ni yn ein Canolfan Cymunedol a Diwylliannol hanesyddol EVI i ddathlu rhan bwysig o hanes Cymru. wrth i ni gynnal Te Prynhawn a dangos ffilm i ddathlu’r ffaith ein bod yn cynnal arddangosfa ‘Gadewch i Paul Robeson Ganu’.

Mae ProMo-Cymru (gwarcheidwaid Institiwt Glyn Ebwy EVI) wedi bod yn falch iawn o gael cynnal yr arddangosfa ysbrydoledig ‘Gadewch i Paul Robeson Ganu’ gan Lyfrgell y Glowyr De Cymru ym Mhrifysgol Abertawe, yn dangos bywyd ysbrydoledig yr actor, canwr ac actifydd hawliau sifil, Paul Robeson. I ddathlu, roedd EVI wedi creu Te Prynhawn blasus yng Nghaffi’r EVI a dangoswyd y ffilm The Proud Valley (1940), am ddim i bawb diolch i arian Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU*.

Hanes Cymru

Mae’r arddangosfa wych yma yn edrych ar siwrne Robeson wrth iddo wynebu anfantais ac anoddefgarwch, ei gysylltiad gyda glowyr De Cymru, a’i waith yn hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb hiliol.

Rydym wedi bod yn falch iawn i gael dychwelyd stori Robeson i Lyn Ebwy, 64 mlynedd yn ddiweddarach ers ei ymddangosiad enwog yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy 1958 lle dywedodd wrth y dorf, “Rydych chi wedi siapio fy mywyd – rwyf wedi dysgu gennych chi.”

Mae’r EVI ei hun yn chwarae rhan bwysig iawn yn hanes, gorffennol, presennol a dyfodol Blaenau Gwent a’r ardal gyfagos. Mae’r adeilad 170 oed yn adlewyrchu treftadaeth gymdeithasol a diwydiannol tref Glyn Ebwy, oedd cynt yn darparu hyfforddiant haearn, dur a glo i’r ardal.

Mae’r EVI wedi cadw addysg wrth ei galon dros y blynyddoedd. Mae’r gwaith yma yn parhau yma heddiw, wrth i ni weithio gyda chymunedau lleol a thu hwnt i greu canolfan rhagoriaeth i fod yn falch ohoni, lle gall pobl gymryd rhan, dysgu, creu a chael eu hadlonni, gan gadw i ethos gwreiddiol Institiwt Glyn Ebwy.

Llwyddiant y Lansiad

Roedd lansiad yr arddangosfa yn llwyddiant mawr, gydag adolygiadau gwych i’r Caffi yn EVI a phrynhawn da yn cymdeithasu, dysgu, ac yn hel atgofion.

“Roedd yn brynhawn dymunol iawn. Mewnwelediad gwych i fywyd pyllau glo De Cymru a bywyd ysbrydoledig Paul Robeson.”

“Prynhawn hyfryd yn cymdeithasu gyda chwmni gwych a chyfarfod pobl newydd. Te Prynhawn lyfli gan y caffi, ac roeddwn i wedi mwynhau gweld ‘The Proud Valley’ unwaith eto am y tro cyntaf ers 40 mlynedd.”

Wrth i’r arddangosfa ddod i ben yr wythnos hon, hoffwn ddiolch i Lyfrgell y Glowyr De Cymru a holl aelodau’r gymuned sydd wedi ymweld i ddysgu am stori Robeson a’i ran bwysig yn hanes Du a Chymru yn EVI, yr institiwt hynaf yng Nghymru.

Ewch i weld digwyddiadau sydd i ddod yn EVI yma.


*Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn rhaglen Llywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Y bwriad ydy cefnogi pobl a chymunedau sydd â’r angen mwyaf ledled y DU i gynnal rhaglenni peilot a dulliau newydd i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymunedau a llefydd busnesau lleol, ac yn cefnogi pobl i mewn i swyddi. Am wybodaeth bellach, cliciwch yma.