Dathlu Blwyddyn Gynhyrchiol Yn ProMo-Cymru

by Tania Russell-Owen | 16th Ion 2019

Roedd 2018 yn un prysur yma yn ProMo-Cymru gyda llawer o bethau yn digwydd. Felly mae’n briodol i flog cyntaf 2019 gofio am yr holl bethau ddigwyddodd llynedd, yn ein sbarduno i gadw ati a chyflawni mwy eleni.

Edrychwn ymlaen at weithio gyda rhai ohonoch ac i ddatblygiadau newydd cyffroes yn y flwyddyn sydd i ddod.

Cyfweliad yn yr evi ar gyfer blwyddyn ProMo

Digwyddiadau yn yr EVi

Roedd erthygl gyntaf y blog yn 2018 yn cofio’r flwyddyn cyffroes oedd wedi bod yn yr EVi. Roedd Institwt Glyn Ebwy (yr EVi bellach) yn adeilad gwag cyn i ProMo-Cymru dderbyn yr her o adfywio’r adeilad yn 2009, er mwyn creu canolfan diwylliannol cymunedol ar gyfer pobl Blaenau Gwent a thu hwnt. Mae yna lawer iawn o bethau cyffroes yn digwydd yn yr EVi gyda dosbarthiadau, chyngherddau, digwyddiadau a chyfarfodydd. Mae yna ofod perfformio mawr gyda bar, ystafelloedd cyfarfod a hyfforddi, caffi a stiwdio recordio. Mae hefyd yn gartref i sawl sefydliad arall. I ddarganfod mwy am yr EVi a manylion o sut i logi’r lleoliad am ddigwyddiad, cyfarfod neu ymarferion, ymwelwch â’r wefan.

Atebion Mentrus

Llynedd buom yn helpu i ddatblygu syniadau mentrus cymunedol gyda’n Rheolwr Prosiect, Cindy Chen, wedi derbyn y rôl fel un o gydgysylltwyr prosiect Atebion Mentrus. Rhaglen tair blynedd yw hon wedi’i datblygu gan DTA Cymru. Mae Cindy’n gyfrifol am nifer o brosiectau yn ardal Caerdydd a’r Fro ac ers y blog yn fis Ionawr llynedd, mae’r Ministry of Life wedi ymuno i ddatblygu strwythur llywodraethu a chyfeiriad tyfiant newydd.

Radio Platfform, CMC, gorsaf radio ieuenctid

Radio Platfform

Datblygiad mawr yn 2018 oedd lansiad swyddogol Radio Platfform. Mae ProMo-Cymru yn cefnogi’r prosiect Canolfan Mileniwm Cymru i ddatblygu gorsaf radio wedi’i arwain gan bobl ifanc. Rydym wedi bod yn hyfforddi pobl ifanc mewn Darlledu Radio ers 2016, yn eu paratoi ar gyfer cyflwyno sioe eu hunain. Roedd rhywbeth gychwynnodd fel peilot ar gyfer Gŵyl y Llais 2016, wedi datblygu’n llwyddiannus i rywbeth mwy a dechreuwyd darlledu yn fis Mai 2017. Cynhaliwyd y lansiad swyddogol fis Tachwedd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Gwrandewch ar Radio Platfform yma.

Rhannu gwybodaeth

Rydym wedi rhannu ychydig o fewnwelediad technolegau a datblygiadau newydd yn y maes cyfryngau digidol a thueddiadau marchnata yn ystod y flwyddyn. Rydym wedi edrych ar ddirywiad cyrhaeddiad organig Facebook a sut dylid ymateb i hyn. Buom hefyd yn archwilio’r cynyddiad mewn fideo a fideo byw a sut i fanteisio ar hyn. Yn olaf, edrychom ar boblogrwydd cynorthwywyr digidol a chatbots a sut roedd hyn yn dod yn fwy cyffredin, anrheg Nadolig poblogaidd yn 2018 gyda phrisiau’n dod yn fwy fforddiadwy. Buom yn annog chi i feddwl sut gallech chi fanteisio ar y tueddiad yma.

Yn fis Tachwedd rhannom yr hyn ddaeth o’n hymchwil ar y ffordd mae plant a phobl ifanc yn cyfathrebu ar ôl edrych ar y newidiadau yn y tueddiadau o gysylltu gyda’r llinell gymorth Meic. Rhannom y wybodaeth yma yn y gobaith byddai’n ddefnyddiol i sefydliadau eraill wrth iddynt ddatblygu cyfathrebiadau.

Y gwasanaethau rydym yn ei gynnig

Mae’r blog yn gyfle i ddweud wrthych chi am y gwasanaethau gallem ei gynnig yma yn ProMo-Cymru.

Rydym yn arbenigwyr mewn ymgynghori effeithiol, yn cyfathrebu gyda grwpiau targed gwahanol i ddarganfod yr hyn sydd ei angen a chyflwyno ffyrdd i greu newid positif. Defnyddiom ein gwaith gyda Buddsoddi Lleol fel esiampl, yn ymgynghori gyda chymunedau i benderfynu sut yr oeddent yn dymuno gwario arian i ddatblygu eu hardal. Rydym hefyd wedi gweithio gyda dwy gymdeithas tai llynedd, yn ymgysylltu a chyfathrebu gyda’r tenantiaid i sicrhau bod rhywun yn gwrando ar eu llais a’u bod yn cael eu gosod yn ganolog i’r gwasanaethau.

Rydym wedi creu sawl ffilm i sefydliadau eraill yma yn ProMo-Cymru bod hynny’n ffilmio mewn digwyddiadau, creu ffilmiau hyrwyddol, amlygu gwasanaeth neu brosiect penodol ac ati. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant ffilm, llynedd roedd creu fideo cerddoriaeth gyda phobl ifanc wrth ddefnyddio sgrin werdd yn boblogaidd iawn. Cewch olwg ar ychydig o’r gwaith gwnaethpwyd yng Nghanolfan Datblygu Cymunedol Riverside gydag ariannu gan Ffilm Cymru.

Ers lansiad Meic yn 2010 mae ProMo-Cymru wedi dod yn ddatblygwyr arweiniol o linellau cymorth mynediad agored gyda rhithganolfan galw pwrpasol yn cynnig cyfleusterau llinell ffôn, negeseuo testun, negeseuo sydyn ac e-byst dwyieithog. Yn 2018 datblygwyd dwy linell cymorth newydd. Mae Porth Eiriolaeth Caerdydd a’r Fro yn cefnogi dinasyddion Caerdydd a’r Fro i gael llais a dewis pan ddaw at wasanaethau cefnogaeth gofal cymdeithasol. Mae Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig gwybodaeth a chyngor i’r rhai sy’n gymwys am wasanaethau cymdeithasol.

Llynedd hefyd, derbyniwyd buddsoddiad gan Gronfa Tyfu Busnesau Cymunedol y WCVA. Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i ehangu ein gallu i gynhyrchu a gwerthu cynnwys dylunio a chyfathrebu a chryfhau ein gweithgareddau menter bresennol ymhellach. Darganfyddwch fwy.

Llwyddiant gwobrwyol

Un o’r cyfnodau fu’n llenwi pawb â balchder llynedd oedd ennill dwy wobr am ein gwaith. Roed y cyntaf yn wobr am ymgyrch cyfathrebu cafodd ei greu ar gyfer y gwasanaeth Meic. Meic yw’r Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae’n cael ei redeg gan ProMo-Cymru.

Roedd Pili-pala yn ddarn cafodd ei greu ar gyfer yr ymgyrch Perthnasau Iach Meic fis Chwefror llynedd. Roeddem yn lwcus iawn i gael gweithio gyda’r artist gair llafar talentog Sarah McCreadie, sydd yn ysgrifennu ac yn perfformio ei darnau ledled Cymru a’r DU. Ysgrifennodd ddarn arbennig am berthynas gwenwynig ar gyfer Meic a recordio’r llais er mwyn creu’r fideo buddugoliaethus. Darganfyddwch fwy am sut cafodd ei greu a barn Sarah.

Fis Mehefin roeddem wrth ein boddau gyda llwyddiant yr ymgyrch wrth ennill Cyfathrebiad Marchnata Gorau yng Ngwobrau Digidol Wales Online. Cawsom ein synnu am y gorau unwaith eto pan enillwyd y wobr Technoleg er Budd yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol am ein gwaith yn cefnogi’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus gyda chyfathrebu digidol, ymgysylltu a thrawsffurfio.

Ymweliad Catalonia yn y Senedd

Gwaith Ieuenctid Digidol

Llynedd derbyniwyd grant gan Sefydliad Paul Hamlyn sydd yn caniatáu i ni fwyhau ein gwaith presennol a datblygu dewisiadau ar gyfer y dyfodol gwaith ieuenctid a gwasanaethau gwybodaeth rithiol. O hyn daeth y cyfle i fynychu a chyflwyno yn Seminar Cenedlaethol Gwybodaeth Ieuenctid a Gwasanaethau Cwnsela yn y Wcráin.

Yn dilyn cyfarfod yn y Wcráin rhwng ein Prif Weithredwr, Marco Gil-Cervantes, a Montserrat Herguido o Lywodraeth Catalonia, trefnwyd ymweliad i Gymru. Roedd ProMo-Cymru yn falch iawn o gynnal ymweliad ar gyfer pedwar ymwelydd o Asiantaeth Ieuenctid Catalonia. Edrychwn ymlaen at ddatblygu perthnasau ymhellach a dysgu gan ein gilydd pan ddaw at wybodaeth ieuenctid digidol ac eiriolaeth.

Thomas Morris

Aurevoir a Shwmae

Roedd 2018 yn flwyddyn o ddweud hwyl fawr a chroeso. Croesawyd ein Prentis Cyfathrebu newydd Tom Morris, swydd wedi’i chefnogi gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop. Prif ddyletswyddau Tom ydy gweithio ar y Sprout, yn ysgrifennu cynnwys, datblygu’r wefan a helpu sefydlu’r grŵp Golygyddol o bobl ifanc ar ei newydd wedd. Mae wedi bod yn gefnogaeth fawr i brosiectau eraill hefyd, gan gynnwys hyrwyddo Meic mewn sawl digwyddiad a chefnogi gyda hyfforddiant a ffilmio.

Yn anffodus roedd rhaid ffarwelio â’n gwirfoddolwr Ewropeaidd Manon De Lalande fis Gorffennaf. Roedd Manon yn rhan bwysig o’r tîm, yn rhan fawr o sawl ymgyrch cyfathrebu, digwyddiadau ac yn cynhyrchu prosiectau amlgyfrwng a fideos. Cyn iddi adael rhannodd ei phrofiad o flwyddyn yng Nghymru.

Ar ôl i Manon ddychwelyd i Ffrainc i gychwyn Gradd Meistr Cyfathrebu Gwleidyddol, croesawom ein gwirfoddolwr Ewropeaidd presennol, Daniele Mele o’r Eidal. Cadwch lygaid ar y blog am ddarn ar Daniele cyn hir.

Adeilad newydd

Ac yn olaf, roedd 2018 yn flwyddyn gyffrous i ProMo-Cymru wrth i ni gynnal agoriad swyddogol ein prif swyddfa newydd gyda Diwrnod Agored i westai gwadd fis Medi. Roedd symud i eiddo newydd ym Mae Caerdydd yn bwysig iawn i ni gan mai dyma’r tro cyntaf i’r tîm cyfan fod dan yr un to.

Bu llawer o baratoi i gael yr adeilad yn barod ar gyfer y diwrnod agored ac yn gweithio ar gyflwyniadau, arddangosiadau a thaith tywys. Agorwyd yr adeilad yn swyddogol gan Vaughan Gething AC, cawsom berfformiadau gwych gan Sarah McCreadie a Sabrina Islam a bu ymateb da i’r arddangosfeydd a gweld yr amrywiaeth yn y gwaith sydd yn digwydd yn ProMo-Cymru.

Os oes gennych chi ddiddordeb, mae yna sawl gofod gwahanol faint gallech chi logi yn yr adeilad newydd. Cysylltwch am fanylion pellach.

Edrych tua’r dyfodol

Felly ffiw… dyna i chi 2018 (rhan ohono beth bynnag) ac edrychwn ymlaen at 2019 prysur, cynhyrchiol, yn gweithio ar y cyd, ymgysylltu a chyfathrebu. Os oes gennych chi ddiddordeb yn unrhyw un o’r gwasanaethau cynigir yma yn ProMo-Cymru, cysylltwch Arielle Tye, Rheolwr Busnes ac Ariannu, ar 029 2046 2222 neu e-bostiwch arielle@promo.cymru.

I ddarganfod mwy am ein gwaith, edrychwch ar ein hadran Gwasanaethau.