by Cindy Chen | 9th Tach 2017
Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr ydy’r prosiect cefnogaeth ac eiriolaeth annibynnol leol ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi’r gwasanaeth.
Rydym wedi rhannu ein stori am ein rhan yn creu Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr y mis diwethaf. Dyma gyfle Richard Thomas o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i adrodd yr hanes. Richard ydy Swyddog Comisiynu Strategol yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
O ble daeth y syniad am y prosiect Llais a Dewis? Pa ganlyniad oeddech chi’n gobeithio’i gyflawni?
Cafodd Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr ei gyd-gynhyrchu i ymateb i’r angen statudol i sicrhau bod gan bobl sydd yn defnyddio gwasanaethau cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, neu eu gofalwyr, fynediad i Eiriolwr Proffesiynol Annibynnol pan fo angen. Roedd y cyngor eisiau sicrhau bod y gwasanaeth eiriolaeth yn gynhwysol ac yn hygyrch i bob grŵp o gleientiaid. Rydym wedi buddio o gefnogaeth y Rhaglen Eiriolaeth Golden Thread yn cefnogi gweithdy hapddalwyr ble cytunwyd ar y model ‘gwasanaeth canolog a gwasanaethau cysylltiedig’ (hub & spoke). Prif nod y model yma ydy darparu un pwynt mynediad sydd yn gallu cyfeirio pobl cymwys at y gwasanaeth eiriolaeth fwyaf addas.
Beth ydy rôl ProMo-Cymru yn y prosiect yma?
Mae ProMo-Cymru yn darparu’r Both Gwybodaeth Eiriolaeth ar gyfer gwasanaeth Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr. Golygai hyn darparu llinell gymorth ddwyieithog sydd yn agored 16 awr y dydd, yn ogystal ag opsiynau neges testun a negeseuo ar-lein. Mae ProMo-Cymru hefyd yn cefnogi’r cysylltiad cyfathrebol i’r gwasanaethau eiriolaeth leol sydd yn derbyn y cyfeiriadau priodol.
Pa werth mae ProMo-Cymru wedi’i ychwanegu i’r prosiect yma?
Mae gan ProMo-Cymru ymwybyddiaeth strategol wych o eiriolaeth yng Nghymru, yn enwedig i blant a phobl ifanc. Er mai i oedolion mae’r gwasanaeth Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr, mae’r wybodaeth helaeth am eiriolaeth plant a phobl ifanc yn gryfder ychwanegol. Mae gallu technegol ProMo-Cymru i gefnogi swyddogaeth Both y gwasanaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn gryfder arall. Mae ProMo-Cymru yn gydweithwyr parod sydd yn creu partneriaeth aml-asiantaeth llawer mwy effeithiol.
Fedrwch chi ddisgrifio eich profiad yn gweithio gyda ProMo-Cymru?
Mae ProMo-Cymru wedi bod yn greadigol ac yn flaenweithgar yn cysylltu gyda phartneriaid lleol o fewn y gwasanaeth Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr a darparwyr gwasanaeth cyswllt eraill. Mae ganddynt werthoedd cryf yn hyrwyddo datrysiadau cymunedol sydd yn apelio i gomisiynwyr gwasanaeth cyhoeddus.
Sut ydych chi’n credu gall y model TYC fuddio gwasanaethau sector cyhoeddus eraill?
Mae model TYC ProMo-Cymru yn darparu datrysiad cost-effeithiol iawn i alluogi’r sector cyhoeddus gysylltu gyda’i gynulleidfaoedd targed. Mae’r amrywiaeth o ddulliau cysylltu â thechnolegau defnyddir yn cynnig model gwasanaeth cadarn a dyfodol-gyfeillgar sydd yn caniatáu cysylltiad gyda gwasanaethau cyhoeddus yn y ffordd fwyaf hygyrch a rhyngweithiol bosib.
Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs
Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.