by Andrew Collins | 18th Ion 2021
Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth
Swyddfa Caerdydd a/neu weithio o gartref
Cyflog: £22,721 y flwyddyn
Yn gweithio yn y Tîm Gweithredu Cymdeithasol byddech yn trosglwyddo gwasanaethau llinell gymorth gwybodaeth, cyngor, cymorth ac eiriolaeth i blant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol wedi’i selio ar hawliau ac yn canolbwyntio ar y person. Ein prif wasanaeth yw Meic, sydd yn dathlu 10 mlynedd.
Byddech yn gallu:
1. creu cysylltiad positif gydag amrywiaeth eang o bobl
2. creu gwahaniaeth positif gyda’r bobl sydd yn cysylltu â chi
3. bod yn ddylanwad positif ar y tîm
4. gweithio shifftiau gan gynnwys nosweithiau a phenwythnosau
Yn ddelfrydol byddech yn gallu:
1. cyfathrebu yn y Gymraeg neu’n fodlon dysgu
Dyddiad Cau: 10yb, Dydd Llun 8fed Chwefror 2021
Dyddiadau Cyfweld (Zoom): 2il,3ydd,4ydd Mawrth 2021
Croesawir secondiad.
Bydd angen gwiriad DBS uwch.
Cliciwch yma i lawr lwytho’r swydd ddisgrifiad
Cliciwch yma i lawr lwytho’r ffurflen gais
Am wybodaeth cysylltwch â info@promo.cymru
Gyrrwch ffurflenni cais electroneg at: info@promo.cymru
Mae ProMo-Cymru wedi ymrwymo i gyfle cyfartal
Mae ProMo-Cymru Cyf yn elusen gofrestredig. Rhif elusen: 1094652 Rhif Cwmni Cyfyngedig: 1816889