by Andrew Collins | 19th Tach 2019
Eiriolwyr Gynghorwyr Llinell Gymorth (EGLlG) (llawn amser, rhan amser, sesiynol)
Swyddfa Gaerdydd ac/neu weithio gartref
Cyflog: £22,221 (EGLlG) y flwyddyn neu £17,161 (EGLlG dan hyfforddiant) y flwyddyn
Yn gweithio fel rhan o’r Tîm Gweithredu Cymdeithasol, byddech yn trosglwyddo gwasanaethau llinell gymorth gwybodaeth, cyngor, cymorth ac eiriolaeth i blant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol wedi’i selio ar hawliau ac yn canolbwyntio ar y person – gan gynnwys Meic/Llais a Dewis Pen-y-bont ar Ogwr / PECF/ MIEG
Byddech chi’n gallu:
Gwneud cysylltiad positif gydag amrywiaeth eang o bobl
Gwneud gwahaniaeth positif gyda’r bobl sydd yn cysylltu gyda chi
Creu dylanwad tîm positif
Gweithio shifftiau gan gynnwys nosweithiau a phenwythnosau
Yn ddelfrydol byddech chi’n gallu:
Cyfathrebu yng Nghymraeg neu’n fodlon dysgu
Croesawir secondiad.
Dyddiad Cau: 10yb, Dydd Llun 2il Rhagfyr 2019
Dyddiadau Cyfweld: Dydd Mawrth 17eg, Dydd Mercher 18fed Rhagfyr 2019
Bydd angen gwiriad GDG (DBS) manylach.
Cliciwch yma am ddisgrifiad swydd lawn.
Am fanylion pellach cysylltwch â info@promo.cymru
Dychwelwch ffurflenni cais electroneg i: info@promo.cymru
Dychwelwch ffurflenni cais caled i: 17 Stryd Gorllewin Bute, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF10 5EP
Mae ProMo-Cymru wedi’i ymrwymo i gyfle cyfartal.