Cerddoriaeth yn y Gweithle: Cyngor Doeth

by Tania Russell-Owen | 24th Tach 2016

pablo-1

“Aaa cerddoriaeth,” meddai, gan sychu ei lygaid. “Hud sydd y tu hwnt i bopeth gwneir yma!”
– Albus Dumbledore
Harry Potter ac Maen yr Athronydd

Gall cerddoriaeth ysgogi’r enaid, symud y traed a dod a deigryn i’r llygaid. Ond gall cerddoriaeth hefyd fod yn sŵn i’r rhai sydd ddim eisiau gwrando. Ac mae’r sŵn yma’n waeth pan fyddech chi’n sownd yn rhywle ac yn cael eich gorfodi i’w glywed.

‘Sodcasting’: enw – difrïol, bratiaith
Yr ymarfer o chwarae cerddoriaeth drwy seinyddion ffôn symudol mewn gofod cyhoeddus,
Geiriadur Saesneg Collins

Ac mae’r swyddfa yn ofod cyhoeddus, yn ofod sy’n cael ei rannu beth bynnag. Felly ydy chwarae cerddoriaeth yn y swyddfa yn ‘sodcastio’? Mae’n dibynnu ar eich sefydliad, eich cyd-weithwyr, a’ch polisïau.

Eich sefydliad

Ydych chi’n gweithio gyda phobl fregus ar bynciau sensitif? Efallai gallech chi adael Idles ar gyfer y daith bws gartref. Ydych chi’n gwmni celfyddydau cŵl? Yna rwyf yn disgwyl clywed tiwniau gwych yn arnofio o gwmpas y swyddfa.

Idles Well Done (mae Idles newydd gyhoeddi Taith DU ac yn chwarae Clwb Ifor Bach, Caerdydd, ar ddydd Mercher, 5ed Ebrill 2017).

Eich Cydweithwyr

Pawb o’r un oedran ac yn hoffi’r un pethau? Yna cerwch amdani. Ond mae’r mwyafrif o sefydliadau yn cynnwys pobl o wahanol oedrannau, yn hoffi pethau gwahanol a gyda goddefiant gwahanol. Yn y sefyllfa yma efallai bydda’n syniad da cadw i orsafoedd radio diogel fel BBC Radio 2 a BBC 6 Music. Mae gan y gorsafoedd yma fantais ychwanegol o fod yn rhydd o hysbysebion. Gan nad oes neb yn hoff o hysbysebion radio.

Eich Polisïau

Oes gennych chi fynediad cyfyngedig i’r we? Neu derfynau ar y data gallech chi ei ddefnyddio? Mae’n beth doeth i beidio cael i drwbl wrth chwarae’r cymysgedd Teki Latex diweddaraf ar SoundCloud. Efallai bod yna bolisïau ar iaith addas hefyd, felly gwell cadw Run The Jewels nes i chi gyrraedd adref hefyd.

Run The Jewels Oh My Darling (AIG – Anniogel i’r Gwaith)

pablo

 

Ond, os ydych chi’n gweithio yn rhywle ble mae pawb yn dod ymlaen yn dda a gyda’r un diddordeb, yna gallech chi wneud yn siŵr bod cerddoriaeth yn gweithio i chi yn y swyddfa. Gall cerddoriaeth godi allbwn, ysbryd a chreadigaeth. Efallai gallech chi roi rota ar waith, ble mae pawb yn cael awr gyda’r seinyddion? Ydych chi wedi chwarae The Chain erioed? Neu, gallech chi ddod i gytundeb a gwrando ar 6 Music neu un o’r awgrymiadau isod?

4 Awgrymiad Gwrando Sam Ar Gyfer Gweithle Hapus

Sam, ein Cydlynydd Golygyddol, ydy’r un sydd yn eistedd agosaf i’r seinyddion yn ein swyddfa, felly dyma ei ddewisiadau ar gyfer swyddfa gytûn.

1. NTS

NTS Logo

Credyd Delwedd: Rhythm Section

Mae NTS yn orsaf radio ar-lein wedi’i sefydlu yn Llundain gyda stiwdios yn Shanghai a Manceinion. Maent yn darlledu cerddoriaeth danddaearol yn fyw, 24/7. Maent yn chwarae popeth ac mae’n wych. Mae NTS yn darlledu tiwniau anhygoel nad ydych chi wedi’u clywed o’r blaen, ond gall symud i fod yn reit eithafol yn sydyn iawn, felly byddwn yn awgrymu i beidio neidio’n syth i mewn i’r allbwn byw. Ewch draw i’w tudalen MixCloud i wrando ar recordiad o’r sioe. Byddwn yn awgrymu SunCut a Floating Points fel bod yn wych i wrando arnynt yn y swyddfa.

2. Stamp The Wax – Monday Morning Mixtapes

Mae Monday Morning Mixtapes Stamp The Wax yn ffordd wych i gychwyn yr wythnos, gyda detholiad o gerddoriaeth awyrgylch, enaid, disgo, ymlaciol a Tropicália.

3. Birdsong

Birdsong oedd llwyddiant mawr Radio Digidol cynnar. Arbrawf oedd hyn i fod, 25 munud o gefn gwlad ac adar yn canu yn cael ei chwarae trosodd a throsodd er mwyn llenwi cynnws sbâr ar y fformat newydd. Ond pan gafodd ei dorri roedd cynnwrf mawr. Nid ellir ei gael ar radio digidol bellach ond gallech chi wrando o hyd yma.

4. Buddha Machine

Rhywle rhwng offeryn a dyfais gwrando, mae Buddha Machine yn focs bach plastig sy’n chwarae cerddoriaeth fyfyriol barhaol wedi’i gyfansoddi gan Christiaan Virant a Zhang Jian.

Cerddoriaeth @ ProMo-Cymru

Rydym yn frwdfrydig iawn am gerddoriaeth yma yn ProMo-Cymru ac yn cynnig 2 wasanaeth sydd yn ymwneud â chreu synau.

1. Gweithdai Drymio Affricanaidd

Mae ein gweithdai drymio yn hwyl, rhyngweithiol ac addysgiadol. Wrth greu cerddoriaeth mewn grŵp, gallem gynyddu hyder, annog gwaith tîm, hyrwyddo creadigrwydd a gwella cydsymudiad.

2. Stiwdio Leeders Vale @ EVI

Mae’r EVI yn gartref i stiwdio recordio 32 trac ac yn cynnig platfformau safon diwydiant fel Avid Pro Tools 10 a 11 ac Apple Logic Pro.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithdy drymio neu recordio yn yr EVI, yna cysylltwch â ni. Gwnewch hynny drwy: 029 2046 2222 a info@promo.cymru.

Felly ydych chi’n chwarae cerddoriaeth yn y swyddfa? Beth am yrru’ch awgrymiadau atom drwy Twitter – @ProMoCymru