Ydy Brandio Personol a Gweithredu Cymdeithasol yn Cyd-fynd?

by Tania Russell-Owen | 19th Meh 2017

Dyma gwestiwn gofynnaf i’m hun yn aml yn ddiweddar.

Pan gychwynnais yn ProMo-Cymru, derbyniais anwythiad cyfryngau cymdeithasol eithaf da (rydym yn dda yn gwneud y math yma o beth) ac anogwyd i mi sefydlu cyfrif Twitter fy hun. Felly dyma greu @NathWProMo.

Proffil Twitter Nathan i'r blog Brandio Personol a Gweithredu Cymdeithasol

Ddim yn grêt.

Nid oedd neb wedi mynnu i mi roi ProMo yn fy nhag Twitter. Nid oes neb arall yn ProMo yn gwneud hynny. Un rheswm i mi wneud hyn oedd i’w wahanu o fy mywyd personol. Ond rhoddais enw mor wael i’m hun am fy mod yn dod o gefndir blynyddoedd o weithio yn y maes elusennol, roeddwn yn anghyffyrddus gyda brandio digidol personol,

Dwi’n dechrau meddwl fy mod yn anghywir.

Rwyf wedi cynnal sawl cyfrif cyfryngau cymdeithasol i elusennau ac yn gyfforddus yn siarad trwy lais brand. Ar ôl creu’r enw @NathWProMo, roeddwn yn cael trafferth siarad gyda llais brand a llais fy hun. Credaf fod llawer o bobl yn y maes gweithredu cymdeithasol yn meddwl fel hyn. Dwi’n ffrindiau gyda rhai ohonynt trwy fy nghyfrifon cyfryngau cymdeithasol personol. Ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol eu hunain maent yn ddoniol, yn ymgysylltu ac yn ddiddorol. Ond nid ydynt yr un bobl pan ddaw at eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol proffesiynol. Mae’r sgwrs wedi’i fygu. Mae angen i hyn newid os yw elusennau am barhau i wneud gwahaniaeth.

Gall sefydliadau gweithredu cymdeithasol fuddio o fod yn agored i frandio personol

Wrth ganiatáu i staff ddatblygu a defnyddio brand Twitter proffesiynol ond sydd yn agos atoch, gall sefydliadau fuddio. Pan fydd pobl yn newid swyddi yn y sector elusennol, byddant yn gallu cludo cynulleidfa cyfryngau cymdeithasol cynfodol gyda nhw. Nid cau un cyfrif Twitter ac agor un newydd yn rhywle arall. Bydd sefydliadau yn ennill credadwyaeth a phlatfform mwy i rannu eu neges. Mae cael brand personol yn caniatáu i bobl sydd yn gweithio yn y sector elusennol i gael presenoldeb digidol mwy dilys. Dim ond buddio’r bobl mae’r elusennau yn ceisio’u gwasanaethu gall hyn.

Mae yna lawer mwy i ymgysylltu nag newid enw Twitter, mae’n swydd llawn amser. Ond oes rhaid i ni ofyn pam bod cymaint o bobl sydd yn gweithio i elusennau yn dewis dull proffesiynol caeedig yn hytrach nag personol pan ddaw at gyfryngau cymdeithasol? Mae’n ddull sydd yn gallu gwneud niwed i enw da elusennau.

Os oes polisïau wedi’u gosod sydd yn gofyn bod cyfrif Twitter staff yn cynnwys teitl eu gwaith yna efallai dylid gofyn pam? Efallai bod rhesymau dilys, yn enwedig os ydych chi’n gweithio gyda grwpiau bregus. Ond nid yw’r mwyafrif ohonom yn gwneud hyn ar Twitter.

Nid fydd enw Twitter yn newid y byd, ond mae sgyrsiau go iawn yn gallu gwneud gwahaniaeth.

Felly’r peth dwi’n ceisio’i ddweud ydy, dwi am newid fy enw Twitter.


Ydych chi’n cymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol ac eisiau trawsnewid y ffordd rydych chi’n cyfathrebu? Byddem yn gweithio gyda chi i ddatblygu’r strategaeth gywir i’ch anghenion ac i’ch grymuso gyda’r offer a’r sgiliau cywir i aros yn berthnasol ac ar y blaen.

Trawsffurfio eich cyfathrebiad