Author Archives: Thomas Morris

  1. Help Llaw i Fioamrywiaeth: Paradwys Trychfilod

    by Thomas Morris | 29th Maw 2019

    Ar gychwyn gwanwyn bu grŵp o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn Gweithdy Gardd Wyllt yn Institiwt Glyn Ebwy. Bu’r criw yn creu gwestai trychfilod a bomiau hadau fydd yn help i’r trychfilod peillio a gwella’r ardal o amgylch yr adeilad.

    Mae’r EVI yn lleoliad cymunedol hanesyddol yng Nglyn Ebwy sydd wedi’i adfywio ac yn cael ei redeg gan ProMo-Cymru. Mae’n darparu rhaglen o weithgareddau creadigol, dysgu a datblygiadau mentrau cymdeithasol ac mae’n gartref i amrywiaeth o sefydliadau trydydd sector.

    Yn cymryd rhan yn y gweithdy arbennig yma wedi’i gynnal gan Eggseeds roedd pobl ifanc o Llamau, Hyfforddiant ACT a Gwasanaethau Ieuenctid Blaenau Gwent. Mae Eggseeds yn sefydliad sydd yn dysgu addysg awyr agored am natur a bioamrywiaeth. Trefnwyd y gweithdy fel rhan o gyfres o fesurau cynaliadwy yn yr EVI, wedi’i wireddu o ganlyn Cynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, prosiect sy’n cael ei gefnogi gan yr WCVA.

    Tai chwilod yn cael eu peintio
    Peintio’r gwestai trychfilod mewn lliwiau llachar hyfryd

    Llefydd ar osod yn y gwesty trychfilod

    Cychwynnodd y gweithdy wrth adeiladu gwestai trychfilod, adeiladau pren bach gall fod yn gartref i bob math o bryfaid a rhai adar hyd yn oed. Bydd yr adeiladau pren yma yn cael eu gosod ar slab mawr o AstroTurf a’i osod o fewn yr ardd gymunedol o flaen yr EVI. Bydd hwn yn creu stryd fach uchel i’r trychfilod ffynnu ynddi.

    Ond cyn i’r adeiladau fod yn barod i groesawu’r trychfilod roedd rhaid tacluso tipyn arnynt er mwyn tynnu sylw unrhyw un sydd yn cerdded heibio. Dechreuodd y bobl ifanc wrth beintio’r tai a gwestai trychfilod!

    Tu mewn i'r tai chwilod
    To bwrdd sialc, gyda llenwad gwellt a bambŵ

    Denu’r trychfilod

    “Bydd y tri adeilad mwyaf yn denu pryfaid sy’n hedfan. Efallai bydd gwenyn, pili-pala ac adain siderog (lacewing) yn hoff o nythu ynddynt,” eglurodd Sam o Eggseeds.

    “Bûm yn stwffio’r tai llai llawn llwch lli gydag ychydig o fylchau bychan i gael i mewn. Mae hwn yn berffaith i chwilen dyrchu iddo. Ychwanegwyd tyllau crwn mwy i rai o’r tai llai hefyd, i greu gofod nythu perffaith i adar.”

    Ar ôl peintio’r rhain, gosodwyd y toeau bwrdd sialc (perffaith i ysgrifennu negeseuon arnynt) gyda hoelion ac offer pŵer. Yna llenwyd y tai gyda llwch lli a thiwbiau bambŵ wedi’u torri. Mae stwffin llwch lli yn creu awyrgylch hydrin i’r trychfilod dyrchu a nythu ynddo. Meddyliwch am yr holl arwynebedd ychwanegol sydd i fedru llithro eu cyrff bach i mewn iddo ac ymlusgo ar ei hyd. Gobeithir bydd y tiwbia bambŵ yn dod yn le i’r gwenyn ddodwy wyau.

    bomiau hadau gorffenedig
    Mae bomiau hadau yn ffordd wych o blannu blodau gwyllt

    Bomiau’n blodeuo

    Gyda’r adeiladau trychfilod yn edrych yn wych roedd hi’n hen bryd symud ymlaen i’r gweithgaredd nesaf – creu’r bomiau hadau. Mae bomio hadau yn hen dechneg ffermio organig Japaneaidd, ffordd o hadu sydd yn well i’r tir ac yn amddiffyn yr hadau rhag cael eu bwyta gan adar a bywyd gwyllt fel arall. Dyma ffordd wych i gynyddu bioamrywiaeth yn eich ardal leol.

    Defnyddiwyd hadau blodau gwyllt gwydn. Gan fod yr hadau yn cael eu cau mewn pridd wedi’i bacio’n galed, nid yw’n hawdd i adar eu bwyta ac mae hyn yn rhoi cyfle iddynt ddechrau tyfu.

    dwylo mwdlyd yn rholio bomiau hadau
    Dwylo mwdlyd wrth greu bomiau hadau

    Sut i greu Bomiau Hadau eich hun:

    Cam 1: Defnyddiwch ychydig o glai gwlyb a’i gymysgu gyda phridd. Rholiwch hwn yn belen a rhoi tolc ynddo gyda’ch bys

    Cam 2: Dewiswch dau neu dri hedyn a’u gollwng i mewn i’r tolc. Os ydych chi’n rhoi mwy yna bydd yr hadau yn cystadlu am yr adnoddau yn y ddaear a ddim yn tyfu i’w llawn botensial

    Cam 3: Tylinwch yr hadau i mewn i ganol y belen

    Cam 4: Taflwch y bom hadau ar unrhyw dir ffrwythlon neu ddiffaith a gobeithio bydd y planhigion yn tyfu

    tai chwilod yn eu lle
    Y gwestai a thai trychfilod yn edrych yn wych y tu allan i’r EVI

    Byddwch yn arwr bywyd gwyllt

    Mae’n eithaf hawdd cyfrannu at fioamrywiaeth eich ardal leol. Beth am gymryd rhai o’r syniadau uchod a chreu paradwys i adar a thrychfilod yn eich gardd chi? Roedd y cyfranogwyr yn hapus iawn gyda’r canlyniadau ac i ffwrdd â nhw adref wedi dysgu sgiliau gwerthfawr diolch i’r tîm Eggseeds am eu profiad a’u gwaith caled.


    Ariannwyd y gweithdy hwn drwy Gynllun Cymunedau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi trwy’r WCVA. Derbyniodd yr EVI arian i wella effeithiolrwydd ynni’r adeilad, cynyddu bioamrywiaeth yn lleol a chynnwys y gymuned drwy wirfoddoli.

    Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o erthyglau ar y sawl ffordd rydym yn hyrwyddo cynaladwyedd yn Institiwt Glyn Ebwy. Darllenwch y gweddill yma:

  2. Pobl Ifanc yn Defnyddio Sianeli Preifat i Gyfathrebu Ar-lein

    by Thomas Morris | 5th Ebr 2019

    Mae pobl ifanc yn dod yn fwy ymwybodol o’u hôl troed digidol. Mae’r genhedlaeth gynhenid ddigidol wedi dysgu sut i wahanu sawl persona ar-lein a’u presenoldeb bywyd go iawn. Mae’r gwaith gweinyddol sydd ynghlwm â rhedeg amrywiaeth o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol (ac amryw cyfrif sydd ddim mor gymdeithasol hefyd!) yn debygol o ddrysu’r oedolyn arferol.

    Cyfrifon amgen

    Mae cyfrifon amgen wedi bodoli eisoes mewn gemau ar-lein. Efallai bod chwaraewr yn arwyddo i mewn i’w gofod chwarae arferol gydag ail gyfrif, sydd ag enw gwahanol, er mwyn gwneud pethau nad all wneud ar ei brif gyfrif. Er esiampl, os oes gan chwaraewr lawer yn ei ddilyn mewn gem neu gymuned ar-lein fel YouTube, yna efallai hoffant chwarae heb gefnogwyr yn swnian am yr hyn sy’n gywerth i lofnod digidol.

    Botymau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer Pobl Ifanc yn Defnyddio Sianeli Preifat i Gyfathrebu Ar-lein

    Diflasu ar Facebook?

    Wrth i ddemograffeg newid, ar Facebook yn enwedig, a rhieni yn ceisio ychwanegu eu hunain i restr ffrindiau eu plentyn, mae pobl ifanc wedi dechrau defnyddio ffurfiau mwy cyfun o reoli preifatrwydd ar-lein. Maent yn hidlo pwy sydd yn cael gweld mathau amrywiol o gynnwys a gyfrennir gan ddefnyddwyr. Mae llawer o bobl ifanc wedi cael digon o’r symudiad paradeim yma, ac mae’n ymddangos fel eu bod wedi gadael y rhwydwaith cymdeithasol yn gyfan gwbl – sydd yn un o’r prif resymau i Facebook brynu Instagram wrth gwrs.

    Cyfrifon fflop

    Mae’n llawer haws i gael cyfrifon ar wahân ar Instagram a Twitter – cyhoeddus a phersonol, cyfrif busnes hefyd efallai. Gellir newid cyfrifon yn hawdd ar yr apiau hefyd. Mae hyn wedi arwain at ddatblygiad y cyfrif “fflop” ar Instagram. Cyfrif fflop ydy pan fydd pobl ifanc yn rhannu cyfrif ac yn postio delweddau sydd yn ymwneud â materion cyfoes neu ddrama yn eu bywyd go iawn neu gymunedau digidol. Mae yna elfen o anhysbysrwydd y tu ôl i’r cyfrifon, yn effeithiol mae hyn yn ymddwyn fel porth newyddion wedi’i chyflwyno’n ofalus.

    rheolwr gemau ar gyfer Pobl Ifanc yn Defnyddio Sianeli Preifat i Gyfathrebu Ar-lein

    Sgyrsiau grŵp preifat

    Yna mae gennych chi’r sianeli preifat sydd yn anoddach i’w arsylwi . Er esiampl, faint o sgwrsio ydych chi’n credu sydd yn digwydd yn y blwch ‘chat’ mewn gêm ar-lein? Bwystfil penodol ar hyn o bryd ydy Discord, app cymdeithasol sydd wedi’i greu’n benodol ar gyfer chwarae gemau. Mae grwpiau preifat ar Discord, WhatsApp (caffael Facebook arall) a Facebook ei hun yn sianeli caeedig. Felly nid oes posib cadw golwg neu lercian yn hawdd. Mae’r grŵp wedi’i gynllunio fel eich bod chi’n gyfranogwr allweddol, hyd yn oed os ydych chi’n un o nifer. Mae gofyn arnoch i gyfrannu’n aml, ac wrth wneud hynny rydych chi’n dod yn rhan o gymuned. Mae hyn wedi achosi problemau i newyddiadurwyr, sydd yn cael trafferth cadw pellter oddi wrth y pwnc fel sydd ei angen ar gyfer adroddiad gwrthrychol. Fydd gweithwyr y trydydd sector yn cael problemau tebyg, neu byddech chi’n buddio wrth i gyfranwyr gael mwy o ffydd ynoch chi?

    Cysylltwch

    Os hoffech gysylltu’n well gyda defnyddwyr ar lwyfannau preifat neu ddysgu sut i greu a chynnal llwyfan eich hunain, yna cysylltwch gyd ProMo-Cymru gan e-bostio Nathan ar nathan@promo.cymru.

  3. Manteisio ar Ffenomenon y Podlediad

    by Thomas Morris | 6th Maw 2019

    Mae’r podlediad yn atgyfodi. Yn ganlyniad cyfres o ddamweiniau difyr yn y 00’au cynnar, mae fformat y podlediad wedi prifio ac yn cael ei dderbyn fel ffurf gyffredin o adloniant bellach – a’r un mwyaf democratig gellir dadlau.

    Os ydych chi’n elusen neu’n fenter gymdeithasol sydd yn ceisio cael neges allan i gynulleidfa ehangach, yna mae’n hanfodol i chi ddeall a chysylltu â’r cyfrwng yma sydd wedi aeddfedu’n ddiweddar.

    Meic radio o flaen ipad ar gyfer erthygl podlediad

    Tiwnio i’r pod-ddalwyr

    Os nad ydych chi’n dyst i’r ffenomenon clywedol cludadwy eto, yna rydych chi’n colli allan! Mae yna sawl rhaglen gwrando ar bodlediadau gwych i roi tro arnynt, gelwir yn pod-ddalwyr (podcatchers).

    Mae Apple yn rhoi cefnogaeth swyddogol – ac yn brif geidwad – i’r cyfrwng ers tro, gydag adran podlediadau iTunes. Bellach mae Google wedi rhyddhau rhaglen podlediad swyddogol, sydd yn argoeli’n dda i ddefnyddwyr Android.

    Cysylltu â’r podledwyr

    Am beth fydd pobl yn siarad amdanynt ar bodlediadau? Mae yna raglenni radio wedi’u haddasu fel The Reith Lectures a Tomorrow’s World y BBC.

    Ond mae’r gwir unigoliaeth yn dod gyda’r podlediadau llai, rhai sy’n cael eu staffio gan un neu ddau berson, yn cael eu recordio mewn ystafell wely yn aml – esiampl dda fydda Minty’s Gig Guide to Cardiff, ble mae’n cyfweld cerddorion ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfa o’i stiwdio (neu’r ‘ystafell wely’ fel mae’n cyfaddef yn frwdfrydig).

    Hysbyseb podlediad Distraction Pieces

    Buddiannau podledu

    Braint arall sydd gan bodledwyr ydy’r mynediad i ddata cyfoethog am ddemograffeg y bobl sydd yn gwrando ar y podlediad – sydd yn aml yn cael ei gyfoethogi gyda chymuned cyfryngau cymdeithasol agos. Mae llawer o bodlediadau yn ddibynnol ar arddull cyfweliad ar gyfer cynnwys, ac mae cyflwynwyr yn aml yn awyddus iawn i groesawu elusennau i ddod i siarad am eu hachos. Bu Scroobius Pip, podlediwr a’r cerddor, yn cyfweld â Natalie Clapshaw yn ddiweddar o’r elusen anafiadau i’r ymennydd, Headway, ar ei bodlediad Distraction Pieces. Mae Radio Cardiff hefyd yn cyflwyno sioe reolaidd i elusennau gael trafod eu gwaith.

    Un o’r pethau gorau am y cyfrwng ydy bod y gwrandawyr yn teimlo cysylltiad yn aml. Mae gwrandawyr wedi cadw amser arbennig yn ystod y dydd, i ddysgu rhywbeth diddorol am y byd wrth ddodi’r clustffonau ymlaen a gwrando.

    Hunanlediad

    Os ydych chi’n meddwl bydda podlediad yn ffordd dda i gael neges eich sefydliad allan yn well, mae yna sawl opsiwn i chi sydd yn cadw costau’n isel.

    Yr opsiwn hawsaf ydy defnyddio’r rhaglen Anchor. Mae posib recordio gyda ffôn clyfar, golygu ar eich cyfrifiadur, a chyflwyno’ch podlediad i iTunes ac, o fan hyn, yr holl pod-ddalwyr eraill, gydag un neu ddau glic.

    Fel arall, gellir defnyddio’r rhaglen cyfrifiadur Virtual DJ, sydd yn cynnwys cymysgu aml sianel, i gyd am ddim. Mae’r gwasanaeth gwe Podbean yn cynnig gwe-letya podlediad yn rhad/am ddim, mae Mixcloud yn gwneud hynny hefyd. Os oes gennych chi gyfrif Apple, mae’n hawdd cyflwyno’ch porth RSS i iTunes, ac o’r pwynt yma mae’r byd yn agored i chi.

    Logo Podlediad Strangetown

    Here to help

    Mae gan ProMo-Cymru brofiad yn cyflwyno hyfforddiant podlediad ac wedi datblygu podlediad i bobl ifanc mewn cydweithrediad â Radio Platfform. Mae Strangetown wedi’i greu i wefan theSprout ar gyfer pobl ifanc yng Nghaerdydd. Gellir gwrando ar y rhaglenni diweddaraf wrth sgrolio i waelod tudalen cartref y Sprout neu ar dudalen Radio Platfform ar wefan Canolfan Mileniwm Cymru.

    Os hoffech gymorth i sefydlu Podlediad yna byddem yn hapus iawn i drafod sut gall ProMo-Cymru helpu gyda hyfforddiant. Cysylltwch: arielle@promo.cymru

    Gair o gyngor: os ydych chi’n cychwyn podlediad cynnar, nid chi fydd yr unig un. Gan ei bod yn llawer haws i wneud hyn bellach, mae pawb yn dewis gwneud. Bydd rhaid i chi ddeall y diweddaraf yn yr arena glywedol yma – lle da i wneud hyn ydy gyda chylchlythyr Hot Pod Nick Quah a Nieman Lab.

  4. Negeseuo Sydyn: Y Modd Cysylltu Dewisol

    by Thomas Morris | 26th Tach 2018

    Mae ymchwil i’r ffordd mae plant a phobl ifanc yn cysylltu ag un o wasanaethau llinell cymorth ProMo-Cymru yn dangos bod cynnydd mewn poblogrwydd cysylltu trwy Negeseuo Sydyn (IM) Integredig. Mae’n gwneud yn well na’r galwad ffôn traddodiadol a negeseuon testun.

    Mae Meic Cymru yn un o’r gwasanaethau sydd yn cael ei gynnal gan ProMo-Cymru. Mae’n wasanaeth llinell gymorth gwybodaeth ac eiriolaeth i bobl ifanc 0-25 oed yng Nghymru. Yn 2017 roedd mwy o gysylltiadau IM trwy’r wefan Meic nag yr oedd o alwadau ffôn. Mae’n debyg na fydd newid yn hyn yn y dyfodol agos. Eleni, mae wedi bod yn gyson gydag o leiaf 50% o’r cysylltiadau i Meic yn cael eu gwneud drwy IM.

    Ffafrio sgwrsio ar-lein

    A yw’n syndod bod pobl ifanc heddiw yn teimlo’n fwy cartrefol yn siarad gyda chynghorydd drwy ryngwyneb sgwrsio? Mae SMS ar gael yn fasnachol ers 1994, (blwyddyn geni’r rhai sydd yn agos at oed uchaf Meic yn bresennol) ond mae yna bris ynghlwm ag ef yn y DU. Bonws negeseuo sydyn ar-lein, o ystafelloedd sgwrsio fel MSN, Yahoo ac IRC i’r WhatsApp, Telegram a’r Discord bresennol, ydy ei f od yn rhad ac am ddim erioed. Mae pobl ifanc heddiw wedi’u magu gyda’r rhain yn dominyddu eu bywydau cymdeithasol.

    Efallai bydd rhai yn credu byddai’n well datblygu rhyngwyneb sgwrsio ar blatfform sy’n bodoli eisoes, er esiampl Facebook Messenger. Mae ProMo-Cymru yn adnabyddus iawn am ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i gysylltu gyda phobl o bob oedran. Ond, yn y pen draw, wrth ddefnyddio llwyfan ein hun, wedi’i ddatblygu ar y we agored, gallem sicrhau cyfrinachedd ein defnyddwyr. Gallem sicrhau bod gan bawb fynediad i’n llwyfan a gwyddom, gyda rheolaeth lawn o’r system, y bydd yn parhau i weithredu am flynyddoedd i ddod.

    Hen ffôn - mae'n well gan bobl negeseuo sydyn

    Cadw pethau’n gyfrinachol

    Gyda’n gwasanaeth negeseuo sydyn diogel a chyfrinachol, gall plant a phobl ifanc ddweud popeth sydd yn eu poeni wrth gynghorwr a chael y cymorth sydd ei angen arnynt. Gall galwad ffôn fod yn beth ofnus i blentyn neu berson ifanc. Nid dyma’r lle gorau i rannu’ch problemau bob tro. Efallai byddant yn teimlo’n fwy cartrefol gyda rhyngwyneb testun.

    Felly pam bod neges testun yn llai poblogaidd? Mae SMS yn gweithio ar sail drawsgludiad ‘ymdrech orau’. Golygai hyn nad yw cymaint ag 5% o negeseuon testun yn cyrraedd y derbynnydd. O ystyried hyn, nid yw’n syndod bod pobl ifanc heddiw yn ffafrio sgwrsio ar-lein.

    Mae angen ystyried hefyd yr hyn gellir ei golli wrth gyfathrebu dros destun. Pan roedd pobl yn dechrau siarad ar y ffôn roedd rhaid dysgu rhoi mwy o bwyslais ar y dôn lais, yn absenoldeb iaith y corff. Pan fydd pobl yn negeseuo maent yn datblygu diwylliant ar-lein gyda ffyrdd newydd o roi geiriau mewn cyd-destun. Maent yn defnyddio pethau fel emojis a thalfyriadau. Mae’r staff Meic mewn trafodaethau cyson â’i gilydd am sut i wella arferion a sicrhau eu bod yn ddiweddar ar y lingo testun.

    Deall dewisiadau cyfathrebu

    Fel rhywun sydd o dan 25 oed, efallai gallaf gynnig ychydig o fewnwelediad i ddull cyfathrebu dewisol pobl ifanc. Mae negeseuo yn gynhenid yn ein diwylliant fel bod y dewis o lwyfannau gwahanol yn diffinio’r bobl rydych chi’n dod i adnabod. Mae’n debyg bod hyn yn fwy gwir nag y bobl rydych chi mewn agosrwydd corfforol â nhw. Er esiampl, os ydych chi’n ddefnyddiwr Android mae’n annhebyg y byddech chi’n dod i adnabod defnyddwyr iMessage ar yr iPhone. Os oes gennych chi gyfrif gyda Discord am eich bod wedi cael gwahoddiad i weinydd sgwrsio, mae’n debygol y byddech chi’n ymuno mwy o weinyddwyr Discord gyda’r un cyfrif. Os nad oes gennych chi gyfrif efallai na fyddech chi’n trafferthu. Mae gweithleoedd llawn Mileniaidd yn rhedeg ar Slack, nid e-bost. Mae’r rhestr yn un ddiddiwedd gyda llawer iawn o resymau.

    Efallai ei fod mor syml â hyn. Mae bod ar y ffôn gyda rhywun proffesiynol yn ymofyn lefel penodol o broffesiynoldeb yn eich gofod corfforol. Dywedodd newyddiadurwr wrthyf un tro i sefyll i fyny wrth siarad ar y ffôn. Awgrymodd bod yr ymddaliad a phresenoldeb pellach yn gallu cael ei synhwyro ar ochr arall y ffôn.

    Pan fyddwch chi yn nyfnder anobaith mae’n haws gyrru neges o le diogel a chysurus. Efallai dan gynfas y gwely, yn negeseuo’n ddistaw. Nid ydych chi am godi’ch llais ar y ffôn a pheryglu bod rhywun arall yn y tŷ yn clywed eich problem. Efallai eich bod allan yn yr awyr agored, a bod hynny’n fwy o gywilydd. Ychwanegwch y ffaith bod data ffôn symudol fel arfer yn rhatach nag gyrru neges testun y dyddiau hyn, a dyna i chi’r achos wedi’i datrys!

    Bod yno i’r rhai sydd ei angen fwyaf

    Felly, i ddiweddu, os na fyddai ein gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc yn cael ei drosglwyddo drwy negeseuo sydyn, ni fyddai’n rhoi mynediad i bawb sydd ei angen fwyaf. Waeth i chi ddweud, i rai plant a phobl ifanc, ni fyddai’n trosglwyddo’r gwasanaeth hanfodol yma i bawb.

    Gwybodaeth bellach

    Os oes gennych chi ddiddordeb yn unrhyw un o’n gwasanaethau neu os hoffech ddysgu mwy am ein gwaith yma yn ProMo-Cymru cysylltwch â Arielle Tye ar 029 2046 2222 neu e-bostio arielle@promo.cymru.

    Gwybodaeth bellach am ein Model TYC yma:

    Model TYC ar gyfer erthygl fideo byw