Author Archives: Tania Russell-Owen

  1. Croeso Simran

    by Tania Russell-Owen | 5th Maw 2024

    Mae ProMo Cymru yn hapus iawn i groesawu Simran Sandhu fel ein Swyddog Datblygu Cyllid newydd!

    Cychwynnodd siwrne Simran gyda ProMo Cymru yn 2018, gyda rôl profiad gwaith o fewn tîm yr adran Cyfrifeg a Chyllid.

    Yn dilyn graddio o Brifysgol Caerfaddon gyda gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid  yn 2022, bu Simran yn gweithio fel Rheolwr Cynnyrch mewn cwmni nwyddau tŷ cyn dewis dychwelyd i ProMo a thrawsnewid yn ôl i’r maes cyllid ym mis Rhagfyr 2023.

    “Rwy’n gyffrous i fod yn rhan o ddatblygiad ariannol ProMo a dysgu sut i ddefnyddio systemau ac adroddiadau digidol i gynyddu effeithlonrwydd. Mae delio â sefydliad sydd â dau endid gwahanol yn her yr wyf yn edrych ymlaen at ddysgu mwy amdani,” meddai Simran.

    “Rwyf wedi cael croeso cynnes iawn yn ôl yn ProMo ac mae’r gefnogaeth y mae pawb wedi’i ddangos wedi bod yn amhrisiadwy. Nid oes dau ddiwrnod yr un fath, ac mae amrywiaeth y cyfleoedd yn braf.”

    Croeso i’r tîm Simran!

  2. Ymgyrch Chwareus Nid Amheus TheSprout

    by Tania Russell-Owen | 3rd Ebr 2023

    Mae TheSprout, llwyfan gwybodaeth a blogio ar-lein i bobl ifanc sydd yn cael ei reoli gan ProMo-Cymru, wedi cyd-gynhyrchu ymgyrch iechyd rhywiol gyda chefnogaeth Tîm Ymestyn Allan Iechyd Rhywiol (SHOT): Gwasanaeth Perthnasau Iach.

    Yn fis Tachwedd 2022, lansiwyd ymgyrch pythefnos o hyd Chwareus Nid Amheus ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol TheSprout. Mae TheSprout yn cefnogi ac yn cysylltu gyda phobl ifanc i rannu eu profiadau, cael llais, ac uwchsgilio mewn creu ymgyrchoedd. Rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau lleol a gwasanaethau sydd yn cefnogi pobl ifanc.

    Manylion am yr ymgyrch

    Gan weithio’n agos gyda staff SHOT, cafodd holiadur ei greu i rannu gyda’r bobl ifanc sydd yn cymryd rhan yn y gwasanaeth. Bwriad yr holiadur oedd casglu meddyliau, teimladau, a phrofiadau cael mynediad i gefnogaeth perthnasau ac iechyd rhywiol trwy’r gwasanaeth SHOT.

    Gyda chefnogaeth gweithiwr Iechyd Rhywiol, aeth deg person ifanc ati i gwblhau’r holiadur, a oedd yn helpu siapio cynnwys yr ymgyrch. Roedd hyn yn cynnwys:

    – 11 blog dwyieithog i’r wefan
    – Hyrwyddo ar gyfrangau cymdeithasol Twitter, Facebook ac Instagram
    – 16 fideo TikTok (yn cael eu rhannu ar Instagram Reels a YouTube Shorts hefyd)

    Canlyniadau’r Ymgyrch

    Fel canlyniad i’r ymgyrch tudalen gwybodaeth Iechyd Rhyw TheSprout oedd y tudalen gwybodaeth fwyaf poblogaidd yn ystod y chwarter yma. Cafwyd dros 4,000 o ymweliadau gwe yng nghyfnod yr ymgyrch.

    Roedd cyfryngau cymdeithasol yn hynod boblogaidd hefyd. Cafwyd cyrhaeddiad o dros 44,000 o bobl dros Instagram a Facebook yn fis Tachwedd. Draw ar Twitter cafwyd 7,029 argraffiad ar draws 48 trydar.

    Yn ogystal, llwyddodd un fideo TikTok, yn egluro’r gwahaniaeth rhwng condomau mewnol ac allanol, fynd yn feiral. Hyd yma (pan ysgrifennwyd y darn yma) mae wedi derbyn:

    – 545.8 mil wedi gwylio
    – 23.4 mil wedi hoffi
    – 82 o sylwadau
    – 1750 wedi ychwanegu fel ffefryn
    – 2651 wedi rhannu

    Mae’r cyswllt organig yma yn dangos bod y gynulleidfa wedi ymateb yn gadarnhaol i’r cynnwys.

    Roedd rhai o’r sylwadau ar ein cyfryngau cymdeithasol yn cynnwys cwestiynau yn gofyn am fwy o eglurhad am ddefnyddio condomau. Gofynnodd un, “Beth os ydw i’n defnyddio’r ddau (condom)?” Roedd hyn yn ein caniatáu i ymateb ac addysgu a chysylltu ymhellach gyda’r gynulleidfa.

    Cafwyd cwestiynau hefyd sydd efallai ddim mor arferol pan ddaw at addysg a chefnogaeth iechyd rhyw a pherthnasau. Gofynnodd un. “Wrth wisgo condom ydy’r ferch yn colli ei morwyndod?? Ydy condom yn torri morwyndod?” Roedd ymateb i hyn yn caniatáu i ni archwilio’n ysgafn y syniadau cymdeithasol, traddodiadol a phatriarchaidd rhyw gyda’r gynulleidfa, gydag arbenigedd y tîm SHOT yn ein harwain.

    Adborth am weithio gyda ProMo

    Roedd Amy Stuart-Torrie, Gweithiwr Ymestyn Allan Iechyd Rhywiol o YMCA Caerdydd, yn ddiolchgar iawn wrth iddi roi adborth ar yr ymgyrch: “Hoffwn ddweud diolch yn fawr enfawr i chi a da iawn i bawb oedd yn rhan ohono. Roedd yr ymgyrch yn hollol wych. Roeddwn wedi synnu gyda’r ymgyrch, y stwff postiwyd, y dyluniadau, y cynnwys a’r dolenni i wybodaeth bellach.”

    Parhaodd, “Roedd y fideos TikTok llawn gwybodaeth ac yn cysylltu, yn gynhwysol, ac yn gyfeillgar i bobl ifanc! Mae cyrraedd cymaint o bobl ifanc a darparu cynnwys cywir a chyfoes mor bwysig. Rydych chi wir wedi creu cynnwys gwych.”

    Roedd aelod arall o staff YMCA Caerdydd, Amanda Thomas, yn egluro bod y cynnwys yn “hygyrch ac yn gynhwysol ac yn codi ymwybyddiaeth o waith tîm SHOT YMCA Caerdydd, tra hefyd yn darparu cynnwys llawn gwybodaeth am iechyd rhyw a pherthnasau i bobl ifanc.”

    Dywedodd, “Mae’r ymateb yn dangos pa mor werthfawr yw cael gwybodaeth gyfoes, berthnasol, hygyrch a chynhwysol – mae’n rhoi grym i bobl ifanc i wneud dewisiadau gwybodus.”

    “Roedd gweithio gyda ProMo yn wych o’r cychwyn cyntaf,” ychwanegodd Amy.

    “Roedd y darnau cyfryngau cymdeithasol llawn gwybodaeth, yn hwyl, ac yn gyfeillgar iawn i bobl ifanc!”

    Cytunodd Amanda, “Mae wedi bod yn bleser llwyr cael gwneud yr ymgyrch yma gyda chi! Bydd cymaint o bobl ifanc wedi buddio o’r ymgyrch hwyl ac addysgiadol yma. Mae’r pynciau trafodir yn gallu achosi cywilydd weithiau, ond roedd yr ymgyrch yn normaleiddio’r pynciau fel y dylid gwneud! Diolch!”

    Ariannwyd yr ymgyrch yma gan Teuluoedd yn Gyntaf Caerdydd.

    Oes gennych chi ddiddordeb yn gweithio gyda TheSprout neu yn caniatáu i bobl ifanc gael llais? Cysylltwch ag Andrew ar andrew@promo.cymru.

  3. Defnyddio Notion i reoli prosiectau dielw

    by Tania Russell-Owen | 8th Maw 2023

    Rydym yn defnyddio Notion yn ProMo-Cymru fel ei bod yn haws i ddarganfod ffeiliau ac yn a symleiddio’r broses o reoli prosiectau. Rydym eisiau rhannu ein profiadau yn defnyddio’r offer a sut mae’n helpu ni fel sefydliad dielw yn y trydydd sector.

    Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi tyfu o 25 aelod staff i 40, o weithio ar 10 prosiect y flwyddyn i 70. Er bod hyn yn wych, mae sawl pwynt poen wedi bod gyda’r tyfiant yma, yn enwedig wrth reoli pethau syml fel safio a darganfod ffeiliau, anwytho staff newydd a rheoli dwsinau o brosiectau a’r amrywiaeth o systemau eraill defnyddir ar gyfer ein gwaith.

    Mae defnyddio offer Notion wedi symleiddio’r broses o ddarganfod pethau a rheoli prosiectau.

    Gallem rannu ein harbenigedd gyda chyllid Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

    Logo Notion

    Pam defnyddio Notion

    Nid oes un darn o feddalwedd all wneud popeth. Mae yna systemau fel Office 365 a Google Workspaces sydd yn gallu rheoli gofynion storio, ond yn aml rydych chi angen defnyddio darnau gwahanol o feddalwedd sydd yn gwneud un peth yn dda, fel Canva, sydd yn caniatáu i chi greu dyluniadau o ansawdd uchel yn sydyn, neu Airtable, sydd yn caniatáu i chi adeiladu cronfeydd data yn sydyn.

    Cychwynnom ddefnyddio Notion sydd yn ofod gwaith gellir ei addasu a chydweithio arno, gall fod yn offer rheoli tasgau, offer rheoli prosiect, cronfa ddata, wiki a mwy. Mae’n le canolog i gysylltu i wybodaeth gan gynnyrch eraill fel Office 365, Airtable, Google Workspaces, Canva a mwy. Mae hefyd yn caniatáu i ni greu llif gwaith sydd yn helpu ein staff i gyflwyno prosiectau, gan hefyd roi trosolwg hawdd o’r hyn sydd yn digwydd i’r tîm rheoli.

    Llun sgrin o dudalen cartref Notion ProMo

    Sut rydym yn defnyddio Notion

    Mae ein Notion ni yn le i ddarganfod a chael mynediad i wybodaeth yn hawdd. Yn aml nid ydym yn cadw data ar Notion, ond yn defnyddio dolenni i ble mae’r dogfennau wedi’u cadw ar feddalwedd arall. Fel hyn, rydym yn osgoi dyblygu gwaith ond yn defnyddio system lywio glan Notion sydd yn gwneud pethau’n haws i’w darganfod. Nid yw’r un peth yn wir gyda strwythurau ffeiliau traddodiadol yn aml.

    Rydym yn defnyddio Notion fel lle i gadw ‘Canllawiau Defnyddiol ‘ar gyfer tasgau swyddfa ddefnyddiol bob dydd, fel sut i newid llofnod e-bost, sut i droi’r boeler ymlaen ac i ffwrdd, ac, yn hanfodol, sut i weithio’r peiriant coffi.

    Llun sgrin o dudalen canllawiau defnyddiol ar Notion

    Mae Notion yn caniatáu i chi greu gwybodaeth fel tudalennau gwe, felly mae’n gallu bod yn ffordd ddefnyddiol i rannu pethau gellir eu hanghofio’n hawdd. Rydym yn defnyddio dull ‘A user manual for me‘ fel bod staff yn gallu darganfod pethau defnyddiol am eu cyd-weithwyr na fyddant yn ei rannu fel arall o bosib.

    Rydym yn cadw holl nodiadau cyfarfodydd mewn un lle ac yn gallu tagio’r bobl fynychodd pa gyfarfod a chael camau gweithredu sydd yn hawdd i’w darganfod. Golygai hyn bod llawer o amser yn cael ei arbed ddim yn gorfod chwilio trwy e-byst neu ddogfennau Word i geisio darganfod y munudau sydd ei angen.

    Llun sgrin o dudalen nodiadau cyfarfodydd ar Notion

    Mae’n helpu ni i gadw ar y trywydd cywir wrth reoli prosiectau gan fod posib gweld sawl prosiect sydd ar waith (sydd yn ddefnyddiol iawn weithiau oherwydd, yn ddibynnol ar y prosiect, efallai bod pethau’n cael eu safio ar Office 365 neu Google Workspace). Rydym hefyd yn defnyddio methodoleg gelwir yn Kanban sydd yn helpu ni i weld yn sydyn yr hyn sydd angen ei wneud a ble mae unrhyw oedi’n digwydd.

    Costau ac ystyriaethau eraill

    Mae Notion yn cynnig gostyngiad i sefydliadau dielw sydd o gwmpas £3.50 i bob defnyddiwr bob mis. Rhaglen ddielw Notion.

    Mae Notion yn caniatáu i chi wneud sawl peth a’i ddefnyddio mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn, ond gellir teimlo’n llethol ar y cychwyn wrth gynllunio sut gellir ei ddefnyddio.

    Mae’n offer defnyddiol iawn i ni, ond mae posib cyflawni lot gyda systemau mwy syml fel Excel hefyd.

    Cefnogaeth ar gael

    Diolch i gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Fawr, gallem ddarparu cyngor am ddim os ydych chi angen help i ddatblygu eich prosesau digidol i wneud eich gwaith yn haws. Mae DigiCymru yn cynnig sesiynau cefnogi un i un, byr, am ddim, i sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru.

    Darganfod mwy

  4. Rydym yn Recriwtio Aelodau Bwrdd 

    by Tania Russell-Owen | 9th Tach 2022

    Mae ProMo-Cymru yn chwilio am dri aelod bwrdd newydd. 

    Ydych chi’n chwilio am ffordd i wneud cyfraniad gwerthfawr i fywydau pobl ifanc a chymunedau yng Nghymru? Fyddech chi’n hoffi datblygu eich sgiliau arweinyddiaeth a bod yn rhan o fenter gymdeithasol fywiog a chreadigol sydd yn gweithio i arloesi trosglwyddiad gwasanaethau a phrosiectau cymunedol yn y trydydd sector a’r sector cyhoeddus?  

    Efallai mai rôl fel Ymddiriedolwr ar fwrdd elusennol yw’r union beth sydd ei angen arnoch i roi hwb yn eich gyrfa, yn eich cefnogi i ddatblygu sgiliau a phrofiad gall ganiatáu i chi gyrraedd eich uchelgeisiau. 

    Mae ProMo yn angerddol am gefnogi pobl ifanc a chymunedau. Rydym wedi treulio’r 40 mlynedd diwethaf yn datblygu gwasanaethau arloesol. Ni yw’r sefydliad yn gyfrifol am Meic, TheSprout, Institiwt Glyn Ebwy, Cefnogaeth Ddigidol i’r Trydydd Sector a thua 50 prosiect arall yn flynyddol. 

    Cyfleoedd Ymddiriedolwyr

    Mae llefydd gwag ar ein Bwrdd Ymddiriedolwyr a Rheolwyr. Mae hwn yn rôl wirfoddol, ac rydym yn cyfarfod bob ryw chwe wythnos. Mae cyfarfodydd yn gymysgedd o gynadledda fideo ac wyneb i wyneb. Rydym yn gwerthfawrogi cael gweithlu a bwrdd amrywiol. 

    Fel sefydliad sydd yn gweithio yn y maes ieuenctid a chymunedol, rydym yn chwilio’n benodol am aelod bwrdd sydd â phrofiad Gwaith Ieuenctid a Phobl Ifanc dan 25. Yn fwy na phopeth, rydym yn chwilio am bobl sydd wedi ymroddi i helpu a chefnogi’r sefydliad, y staff a’r cleientiaid i dyfu ac i ddatblygu. 

    Oes gennych chi ddiddordeb mewn tyfu eich sgiliau arweinyddiaeth a gwneud gwahaniaeth? Cysylltwch â Phrif Weithredwr ProMo, Marco Gil Cervantes marco@promo.cymru i fynegi diddordeb. 

  5. Llwyddiant ProMo yn Ail-dendro am Linell Gymorth Meic

    by Tania Russell-Owen | 22nd Medi 2022

    Mae ProMo-Cymru yn falch o gyhoeddi ein bod wedi derbyn y cytundeb i gynnal y gwasanaeth llinell gymorth Meic, wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru am hyd at £2.3 miliwn o bunnoedd. Bydd y gwasanaeth yn parhau i redeg am bum mlynedd arall, yn ddibynnol ar adolygiad.

    Mae Meic yn llinell gymorth wedi ei sefydlu ar hawliau yn targedu plant a phobl ifanc dan 25 yng Nghymru. Mae ProMo wedi bod yn cynnal y gwasanaeth ers 2009, yn darparu gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth ddwyieithog yn ddienw, cyfrinachol ac am ddim 365 diwrnod y flwyddyn. Mae Eiriolwyr Gynghorwyr y Llinell Gymorth ar gael rhwng 8yb a hanner nos bob dydd ar y ffôn, neges testun neu negeseuo sydyn.

    Mae Meic yn rhywun ar eu hochr nhw, yn darparu gofod diogel gellir dibynnu arno. Rydym yn galluogi plant a phobl ifanc i fynegi barn, dymuniadau a theimladau a’u cefnogi i sicrhau bod rhywun yn gwrando, yn clywed ac yn gweithredu.

    Sut mae Meic yn gweithio?

    Defnyddir canolfan galw rhithiol diogel sydd yn golygu gellir cynnal y gwasanaeth o unrhyw le. Roedd hyn yn fuddiol iawn yn ystod y pandemig COVID gan nad oedd toriad yn y gwasanaeth nac cwtogiad yn yr oriau agor; yr unig linell gymorth yn y DU i gyflawni hyn. Sicrhawyd hefyd bod negeseuon ac ymgyrchoedd pwysig yn cael eu cynhyrchu a’u rhannu yn y cyfnod yma mewn ffurf oedd yn gyfeillgar i ieuenctid.

    Mae gan Meic wefan hygyrch a chyfeillgar i ieuenctid hefyd gyda llawer o flogiau cynorthwyol yn llawn gwybodaeth. Mae ymgyrch gwybodaeth newydd yn cael ei greu bob chwarter ar ein gwefan a’n tudalennau cymdeithasol, yn canolbwyntio ar themâu penodol sydd yn aml yn cael eu hadnabod trwy gysylltiadau i’r wefan. Yn 2018 gwelwyd bod tueddiad cynyddol o reolaeth orfodol mewn perthnasau.  O hyn daeth ymgyrch Perthnasau Iach a chreu Pili-pala, cerdd gair llafar wedi ei ysgrifennu a’i berfformio gan bobl ifanc, a enillodd wobr Cyfathrebiad Marchnata Gorau yng Ngwobrau Digidol Wales Online y flwyddyn honno.

    Mae gwybodaeth a negeseuon pwysig yn cael eu rhannu’n rheolaidd ar draws sawl sianel, gan gynnwys y wefan, YouTube, Facebook, Twitter, Instagram, ac, yn fwy diweddar, TikTok. Roedd tyfiant enfawr i gyrhaeddiad ac ymgysylltiad ar-lein yn ystod y pandemig. Roedd cynyddiad o 1715% mewn ymgysylltiad yn ystod 2020-2021. Roedd hyn hefyd yn cyd-fynd ag ail-ddylunio dyluniadau a brandio Meic ar draws ein holl lwyfannau a sianeli, yn gweithio gyda thimau Cyfathrebu ac Amlgyfryngau ProMo i greu delweddau a fideos ffres a deniadol.

    Mae gweithwyr proffesiynol hefyd yn buddio o wasanaeth llinell gymorth Meic wrth iddynt chwilio am gyngor ar sut i gefnogi’r plant a’r bobl ifanc maent yn gweithio â nhw, yn cyfeirio at y gwasanaeth Meic ac yn defnyddio’r adnoddau sydd gennym ar wefan Meic a chynlluniau gwers wedi’u creu i ysgolion ar Hwb.

    Ein dull o weithredu

    Mae ein cynghorwyr wedi’u hyfforddi yn y fodel stopio, cychwyn, newid, gan ymgorffori dull byr o ganolbwyntio ar ddatrysiad a defnyddio archwilio, herio a chynllunio gweithrediad yn benodol i bob cyswllt unigol a’u problem nhw. Anogir iddynt egluro ac ystyried y newid hoffant ei gyflawni.

    Mae Meic yn gweithredu o fewn paramedrau diogelu ac yn aml yn derbyn cysylltiadau sydd angen eu cyfeirio at awdurdodau diogelu wedi iddynt ddatgelu rhywbeth yn ymwneud â nhw’u hunain a/neu ffrindiau neu berthnasau.

    Rydym yn aml yn talu pobl ifanc am eu hamser a’u mewnwelediad ac yn cyflogi pobl ifanc i weithio ar ymgyrchoedd cyfathrebu Meic. Mae ProMo wedi cyflogi sawl person ifanc, yn 2021 roedd person ifanc yn gyfrifol am greu ymgyrch, gwybodaeth ac adnoddau LDHTC+.

    Yn y dyfodol

    Byddem yn parhau i wella Meic gyda dull Cynllunio Gwasanaeth ac yn cynnwys plant a phobl ifanc i gyflawni hyn. Ein prif flaenoriaethau gyda’r cytundeb newydd ydy cydgynllunio a pharhau i gynnwys plant a phobl ifanc wrth ddatblygu ac arbrofi arloesiad technegol, gan ganolbwyntio’n syth ar wella’r cyfleoedd i negeseuo’n syth trwy sianeli cyfryngau cymdeithasol fel dewis gwahanol i’r wefan.

    Byddem yn edrych ar adnewyddu ac arloesi brandio a dyluniadau Meic yn barhaol i gefnogi presenoldeb cryf ar-lein ar gyfryngau cymdeithasol defnyddir gan blant a phobl ifanc. Yn ddiweddar rydym wedi cychwyn sianel TikTok newydd ac wedi newid ychydig o’n dyluniadau i ganolbwyntio mwy ar fideo er mwyn creu cynnwys sydd yn briodol ar gyfer TikTok a Reels. Y bwriad ydy parhau i arloesi a thyfu ymgysylltiad cyfryngau cymdeithasol ymysg y rhai sydd efallai ddim yn cysylltu gyda gwasanaethau traddodiadol.

    Rydym hefyd yn bwriadu cynnal a gwella perthnasoedd gweithio cydweithredol gyda hapddalwyr presennol a datblygu a chynnal rhai newydd.


    Am wybodaeth bellach am linell gymorth Meic, cysylltwch â’n Pennaeth Gweithredu Cymdeithasol – Stephanie Hoffman.

  6. Ymunwch â’n Seminar yn gofod3

    by Tania Russell-Owen | 25th Meh 2021

    Bydd ProMo-Cymru yn rhoi cyflwyniad yn gofod3 ar Orffennaf 1af yn trafod sut mae’r trydydd sector yn gallu adeiladu gwasanaeth digidol gwell gan ddefnyddio proses Cynllunio sydd yn Canolbwyntio ar yr Unigolyn.

    Bydd Arielle Tye, Pennaeth Datblygiad ProMo-Cymru yn eich tywys trwy’r broses, yn helpu sefydliadau i adnabod sut y gallan nhw ddefnyddio’r cryfderau unigryw sydd ganddynt i gynnwys pobl a rhoi hyn ar waith mewn gwasanaeth digidol newydd ac sydd i ddod.

    Beth yw gofod3?

    Mae gofod3 yn ddigwyddiad sydd yn cael ei drefnu gan CGGC ar y cyd â’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Bydd y digwyddiad yn digwydd ar-lein eleni dros gyfnod o bum diwrnod.

    Bydd dros 60 o ddigwyddiadau am ddim yn digwydd dros bum diwrnod rhwng 28 Mehefin a 2 Gorffennaf gan gynnwys siaradwyr, dosbarthiadau meistr, dadleuon panel a gweithdai. Edrychwch ar y rhaglen lawn yma.

    Mae hwn yn gyfle i’r sector wirfoddol rannu storïau, dysgu am y sector, dysgu sgiliau a gwybodaeth newydd, cael eich ysbrydoli, gwneud cysylltiadau a gofyn cwestiynau.

    Manylion y sesiwn

    Bydd sgwrs Arielle yn digwydd rhwng 10yb a 11yb ar ddydd Iau, 1 Gorffennaf 2021.

    Cofrestrwch yma

  7. Creu Sgyrsiau: Cynllunio Gwasanaeth Mewn Gwaith Ieuenctid Digidol

    by Tania Russell-Owen | 22nd Meh 2021

    Mae ProMo-Cymru yn cynnal digwyddiad i rannu gwybodaeth ac offer i gynllunio a gwella gwasanaethau gwybodaeth ieuenctid digidol. Pwrpas Creu Sgyrsiau yw tynnu pobl at ei gilydd o wahanol sectorau i siarad am sut gellir defnyddio technoleg ddigidol i drosglwyddo gwasanaethau yn well.

    Mae Creu Sgyrsiau yn weminar a digwyddiad rhwydweithio rheolaidd sydd yn cael ei chynnal gan ProMo-Cymru. Bydd siaradwyr gwahanol yn rhannu eu profiadau a’u harbenigedd. Mae digwyddiadau’r gorffennol wedi cynnwys negeseuo digidol gyda phobl ifanc; ymarfer da mewn gwaith ieuenctid digidol; tueddiadau cyfryngau cymdeithasol, offer a sut mae defnydd wedi newid yn ystod Covid.

    Bydd y Creu Sgyrsiau nesaf ‘Cynllunio Gwasanaeth Mewn Gwaith Ieuenctid’ yn cael ei gynnal ar-lein ar 13 Gorffennaf 2021 o 10-11:30yb. Mae’n ddigwyddiad rhad ac am ddim gyda siaradwyr gwadd Imre Simon o ERYICA a Rebecca Rae-Evans o Reply. Byddem yn rhannu’r hyn rydym wedi ei ddysgu a’r wybodaeth sydd gennym yn ogystal â rhannu offer ac e-hyfforddiant defnyddiol am ddim i bawb sydd yn mynychu.

    Beth yw Cynllunio Gwasanaeth

    Mae Cynllunio Gwasanaeth yn fethodoleg sydd wedi ei phrofi ar gyfer cynllunio a gwella gwasanaethau digidol. Yr egwyddor ganolog ydy cadw anghenion pobl wrth ei galon. Mae’r broses Cynllunio Gwasanaeth yn un pwerus. Gellir ei ddefnyddio i gefnogi gweithwyr ieuenctid er mwyn arloesi gwasanaethau a chynnyrch newydd, neu i ailfeddwl a chryfhau gwasanaethau presennol.

    Beth ellir ei ddisgwyl o’r Creu Sgyrsiau yma?

    Mae ProMo-Cymru wedi bod yn gweithio gyda phrosiect Ewrop eang sydd yn cael ei arwain gan ERYICA gyda’r bwriad o gyflwyno Cynllunio Gwasanaeth i mewn i waith ieuenctid.

    Yn y Creu Sgyrsiau yma, byddem yn mynd i fwy o ddyfnder am y fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth. Byddem yn trafod ei rôl yn y gwasanaethau ieuenctid, yn ogystal â rhannu canlyniadau DesYIgn – prosiect Cynllunio Gwasanaeth Mewn Gwybodaeth Ieuenctid.

    Bydd araith gyweirnod cychwynnol, cyn symud ymlaen i gyflwyno’r prosiect DesYIgn a’i ganlyniadau. Bydd y digwyddiad yn gorffen gyda sesiwn rhwydweithio dewisol.

    Byddem yn lansio pecyn adnoddau a chwrs e-ddysgu ar gyfer gweithwyr ieuenctid yn ystod y sesiwn hefyd. Bydd gweithwyr ieuenctid yn cael mynediad am ddim i’r adnoddau yma wrth fynychu.

    Bydd y digwyddiad yn cael ei chynnal yn yr iaith Saesneg.

    Pryd: 13 Gorffennaf 2021
    Amser: 10-11:30yb
    Cofrestrwch yma

  8. Rhannu Negeseuon Diogelwch Hanfodol

    by Tania Russell-Owen | 15th Meh 2021

    Ers sawl blynedd bellach mae’r llinell gymorth Meic, sydd yn cael ei redeg gan ProMo-Cymru, wedi bod yn cymryd rhan yn Criw Craff, digwyddiad sydd yn teithio i ysgolion i rannu gwybodaeth diogelwch pwysig gyda phobl ifanc. Ond eleni, oherwydd y pandemig Covid, mae hyn yn digwydd trwy ffrwd fideo byw.

    Mae Criw Craff (Crucial Crew), yn rhwydwaith o amryw asiantaeth, elusen a sefydliad sydd yn cyflwyno gweithdai ABaCh rhyngweithiol i ysgolion gyda’r bwriad o rannu negeseuon diogelwch pwysig gyda disgyblion blwyddyn 6 neu Flwyddyn 7. Maent yn cyrraedd oddeutu 20,000 o bobl ifanc yng Nghymru bob blwyddyn. Mae Meic yn un o sawl asiantaeth sydd yn derbyn gwahoddiad i ryngweithio gyda phobl ifanc yn y ffordd yma. Mae rhai eraill yn cynnwys yr Heddlu, Asiantaeth Safonau Bwyd, Network Rail a’r Groes Goch ymysg sawl arall. Mae’n gyfle gwych i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o wasanaethau a negeseuon pwysig.

    Cyfnod clo

    Roedd cyfnodau clo llynedd yn golygu nad oedd posib cynnal sesiynau’r Criw Craff ond eleni mae trefniadau gwahanol wedi’u gwneud fel bod pobl ifanc yn parhau i dderbyn y wybodaeth hanfodol yma. Mae’r sesiynau wedi bod yn digwydd dros fideo ers i’r ysgolion ail-agor eleni, gyda’r asiantaethau yn teithio i leoliad canolog ac yn cyflwyno sesiynau o flaen y camera. Mae hwn wedyn yn cael ei ffrydio’n fyw i’r dosbarth dros Microsoft Teams. Mae posib rhyngweithio gyda’r bobl ifanc hefyd ac yn rhoi’r cyfle iddynt ofyn cwestiynau.

    Y sesiwn

    Mae sesiynau Meic yn canolbwyntio ar eiriolaeth, ac yn sicrhau bod y bobl ifanc yn ymwybodol o’u hawl i siarad, a bod rhaid i weithwyr proffesiynol ystyried eu teimladau, meddyliau a barn wrth wneud penderfyniadau sydd yn cael effaith ar eu bywydau. Rydym hefyd yn rhoi gwybodaeth am y CCUHP i roi gwybodaeth bellach iddynt am eu hawliau fel person ifanc. Mae fideo yn cael ei ddangos sydd wedi cael ei greu yn arbennig ar gyfer sesiynau’r Criw Craff gan dîm amlgyfryngau ProMo-Cymru. Mae’r fideo’n gosod senario am eiriolaeth ac yn rhoi gwybodaeth am Meic, y gwasanaethau cynigir a sut i gysylltu. Mae fersiwn Cymraeg a Saesneg o’r fideo a gellir ei weld ar sianel YouTube Meic.

    Mae’r tîm Meic yn edrych ymlaen at y posibilrwydd o fynychu sesiynau Criw Craff wyneb i wyneb cyn y gwyliau haf.

    Gwybodaeth bellach

    Ewch draw i’n tudalennau prosiect i ddysgu mwy am Meic. I gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a blogiau Meic ymwelwch â’r wefan a dilynwch ar Twitter, Facebook neu Instagram. Dilynwch y Criw Craff ar Twitter am fanylion y digwyddiadau. Os hoffech ddysgu mwy am y sesiynau Criw Craff, neu am wasanaeth Meic, cysylltwch â dean@promo.cymru.

  9. Adnoddau Covid Meic Mewn Pecyn Iechyd Meddwl

    by Tania Russell-Owen | 24th Meh 2020

    Mae Meic, y llinell gymorth i blant a phobl ifanc sydd yn cael ei gynnal gan ProMo-Cymru, wedi ei gynnwys fel adnodd mewn Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl datblygwyd gan Lywodraeth Cymru.

    Dros y 10 mlynedd diwethaf mae Meic wedi bod yn ffynhonnell gwybodaeth a chefnogaeth i rai dan 25 oed yng Nghymru. Pan gychwynnodd y pandemig, camodd Meic ymlaen a chynhyrchu cynnwys Covid penodol i daclo unrhyw faterion y daw o’r cyfyngiadau Coronafeirws.

    Barod am y cloi mawr

    Pan gychwynnodd cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru a Phrydain ar 24 Mawrth, roedd rhith ganolfan galw Meic yn caniatáu i’r llinell gymorth barhau heb unrhyw doriad mewn gwasanaeth. Roedd ProMo-Cymru yn barod i ymdopi gyda’r staff i gyd yn newid i weithio o adref. Roeddem yn brysurach nac erioed yn paratoi adnoddau i weithwyr proffesiynol (ein Hadnoddau Digidol ar gyfer y trydydd sector a’r sector ieuenctid yng Nghymru #Covid-19) ac yn cynyddu ein hallbwn ar wefan Meic (holl erthyglau Covid-19 i’w gweld yma.)

    Y pecyn iechyd meddwl

    Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r pecyn cymorth sydd ar gael i bob person ifanc drwy Hwb. Hwb yw’r platfform digidol ar gyfer dysgu ac addysgu yng Nghymru. Bydd y mwyafrif o bobl ifanc yn gyfarwydd â’r platfform gan mai hwn defnyddir i gael mynediad i waith  ysgol.

    Mae yna chwe chategori i’r Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc:

    – Coronafeirws a’ch lles

    – Argyfwng

    – Gorbryder

    – Cadw’n Iach

    – Hwyliau isel

    – Profedigaeth a cholled

    Bydd pob un o’r categorïau yma yn rhoi rhestr o wefannau ac apiau hunangymorth, llinellau cymorth a phethau eraill gall helpu i gefnogi iechyd meddwl a llesiant.

    I gael mynediad i’r pecyn cymorth cliciwch yma. Gall unrhyw un gael mynediad i’r pecyn, nid oes rhaid cael cyfrif Hwb.

    Ymateb i’r pandemig coronafeirws

    Wedi’i lansio ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed gan Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, a Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Bwriad y pecyn cymorth ydy ymateb i’r effaith gall Covid-19 ei gael ar lesiant emosiynol a meddyliol yn y cyfnod heriol yma.

    Mae’r pecyn yn hawdd ei ddefnyddio ac yn casglu rhestr o adnoddau at ei gilydd ymhob categori, gyda disgrifiad byr o’r hyn mae pob gwasanaeth yn ei ddarparu a dolen i’r gwasanaeth.

    Bydd y pecyn cymorth yn cael ei ddiweddaru ac yn datblygu i unrhyw newidiadau fel sydd ei angen.

    Cysylltu â Meic

    Os ydych chi’n adnabod unrhyw blant neu bobl ifanc fydda’n buddio o wasanaeth llinell gymorth Meic, rhannwch y manylion cyswllt os gwelwch yn dda. Agored bob dydd, 8yb tan hanner nos ar gyfer cefnogaeth, gwybodaeth ac eiriolaeth.

  10. Cyfleoedd Ymddiriedolwyr yn ProMo-Cymru

    by Tania Russell-Owen | 6th Chw 2020

    Ydych chi’n chwilio am ffordd i wneud cyfraniad gwerthfawr gyda phobl ifanc yng Nghymru? Fyddech chi’n hoffi cefnogi menter gymdeithasol sydd yn gweithio i greu gwasanaethau digidol arloesol a phrosiectau cymunedol?

    Mae ProMo-Cymru yn chwilio i recriwtio ymddiriedolwyr newydd i gefnogi ein gweledigaeth o sicrhau bod pobl ifanc a chymunedau yn wybodus, wedi cysylltu ac yn cael eu clywed.

    Cefndir ProMo-Cymru

    Mae ProMo-Cymru wedi treulio’r 30 mlynedd diwethaf yn datblygu gwasanaethau, gan gynnwys gwefannau gwybodaeth, llinellau gymorth a phrosiectau adfywio cymunedol. Ni ydy’r sefydliad y tu ôl i Meic, theSprout a Institiwt Glyn Ebwy (EVI).

    Yn y ddwy flynedd diwethaf, rydym wedi trosglwyddo dros 45 o brosiectau eraill, yn cefnogi sefydliadau mawr fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Canolfan y Mileniwm a sefydliadau llawr gwald llai fel Canolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon. Rydym yn gweithio yn weithrediadol i fagu cyswllt rhwng pobl a gwasanaethau gan ddefnyddio creadigrwydd a thechnoleg ddigidol. Rydym yn cefnogi’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus i ddychmygu, profi a chreu gwasanaethau gwell.

    Aelodau'r Bwrdd Ymddiriedolwyr

    Am beth ydym ni’n chwilio?

    Mae gennym lefydd gwag ar ein Bwrdd Ymddiriedolwyr a Rheolwyr. Mae’n swydd wirfoddol, ac rydym yn cyfarfod oddeutu unwaith bob chwe wythnos o 5:30 – 7:30yh ym Mae Caerdydd. Rydym yn chwilio’n benodol am brofiad yn y cyfryngau, cyllido yn y trydydd sector, marchnata a lobïo.

    Rydym yn awyddus i dyfu ProMo-Cymru ac angen cefnogaeth ymddiriedolwyr ymroddedig, medrus i gyflawni hyn. Os oes diddordeb gennych chi a hoffech siarad am y cyfle, yna e-bostiwch ein Prif Weithredwr marco@promo.cymru

    I ddarganfod ychydig mwy am ein gwaith, edrychwch ar ein tudalen Prosiectau.