Author Archives: Sarah Namann

  1. Helpu BAVO i Wella’u Proses Ceisiadau gyda Microsoft Forms

    by Sarah Namann | 14th Rhag 2023

    Mae’r flog yma yn astudiaeth achos o’n gwasanaeth DigiCymru, sydd yn cynnig cefnogaeth un i un, byr, am ddim, i sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru. Mae Bavo yn un o’r sefydliadau sydd wedi cysylltu â’r gwasanaeth i ofyn am gyngor a chymorth i ddarganfod datrysiadau i’w problem.

    Beth yw BAVO?

    Mae Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO) yn Gyngor Gwirfoddol Sirol (CGS) sydd yn gweithio ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy a Chasnewydd.

    Pa broblem oedd BAVO yn wynebu?

    Mae lefelau sgiliau digidol a phrofiad yn defnyddio adnoddau digidol i greu ffurflenni yn amrywio ymysg tîm staff BAVO. Roeddent angen cymorth i sicrhau cysondeb creu ffurflenni cais ar draws y sefydliad.

    Fel rhan o’r gwasanaeth am ddim DigiCymru, gofynnodd BAVO i ProMo Cymru archwilio’r adnodd gorau ar gyfer eu hanghenion nhw, ac i’w helpu i ddeall y posibiliadau a’r ffordd orau i ddefnyddio’r nodweddion. Un peth roeddent yn chwilio amdano’n benodol oedd atodi dogfen canllaw i’r ffurflen gais, gan nad oedd yr ymgeiswyr yn darllen y canllaw pan roedd yn cael ei yrru ar wahân.

    Roedd ganddynt broblemau hefyd yn rheoli’r holl wybodaeth cyflwynwyd yn y ceisiadau, gan fod y ceisiadau yn cael eu cadw mewn un lle ar ôl iddynt gael eu llenwi. Roedd rhai pobl hefyd yn dewis gwneud cais ar bapur yn hytrach nag ar-lein, felly roedd BAVO yn chwilio am ffordd i addasu ffurflen ar-lein i fersiwn bapur yn hawdd.

    Darganfod datrysiad digidol

    Fel sydd yn wir i sawl sefydliad trydydd sector, mae’r gyllideb ar gyfer adnoddau newydd yn dynn iawn. Roedd BAVO yn chwilio am adnodd am ddim i’r tîm fedru ei ddysgu’n fanwl.

    Cafodd BAVO gyfarfod gyda Sarah Namann, Swyddog Prosiectau Digidol ProMo Cymru, i drafod yr adnoddau digidol fydda’n gallu cynnig datrysiad.

    I gychwyn, archwiliwyd manteision ac anfanteision adnoddau poblogaidd a phwerus fel Typeform, Google Forms ac Alchemer. Gan fod y sefydliad eisoes yn talu tanysgrifiad Microsoft 365, penderfynwyd ar y cyd i symud ymlaen gyda defnyddio Microsoft Forms – adnodd syml, greddfol defnyddir i greu ffurflenni.

    Dangosodd Sarah iddynt sut i weithio ar Microsoft ac amlygu manteision a chyfyngiadau’r adnodd. Dysgodd BAVO am y nodweddion penodol fydda’n gymorth iddynt, gan gynnwys ailfeddwl y ffordd maent yn creu’r ffurflenni cais fel bod posib cael mynediad i’r ddogfen canllaw ceisiadau yn uniongyrchol o’r ffurflen.

    Archwiliwyd sut i ddefnyddio Excel hefyd, meddalwedd Microsoft 365 arall, i gasglu’r wybodaeth cyflwynwyd gan yr ymgeiswyr mewn un lle. Un cyfyngiad o’r adnodd yw nad yw’n bosib addasu Microsoft Forms i ffurf papur, felly dim ond ceisiadau digidol mae hyn yn ei gefnogi.

    Canlyniadau

    Pan ofynnwyd pa mor hapus yr oeddent gyda’r gwasanaeth, roddwyd gwych (5 allan o 5) i DigiCymru.

    Roedd BAVO yn dweud eu bod yn teimlo fel eu bod wedi cael eu ‘cefnogi’, eu ‘clywed’, ac ‘fel bod y cymorth wedi’i deilwro i’n hanghenion ni’, a’i fod yn ‘sesiwn cynorthwyol a defnyddiol iawn’.

    Rhannodd y sefydliad y byddant yn ‘debygol iawn’ o ddefnyddio’r hyn dysgwyd yn y sesiwn yn eu gwaith. Y darn mwyaf defnyddiol o’r sesiwn DigiCymru oedd dysgu mwy am nodweddion Microsoft Forms, ac roedd hyn wedi ateb cwestiynau penodol y tîm BAVO am ddefnyddio’r adnodd.

    Ariannir yr astudiaeth achos hwn drwy Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector, prosiect Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi Trydydd Sector Cymru gyda digidol. I ddarganfod mwy am sut gall y prosiect yma gefnogi eich sefydliad chi, cliciwch y ddolen neu cysylltwch â andrew@promo.cymru

  2. Cwrs am ddim: Cynllunio Gwasanaethau Digidol 

    by Sarah Namann | 11th Awst 2023

    Rydym yn cynnal cwrs am ddim ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru.

    Bwriad y cwrs yw darparu’r cyfranogwyr gyda’r wybodaeth a’r sgiliau i gynllunio gwasanaethau digidol sy’n canolbwyntio ar y defnyddwyr, a’u hysbrydoli nhw i gymryd mantais o ddulliau digidol i gael yr effaith gymdeithasol gorau posib. Yn ystod y cwrs, bydd y cyfranogwyr yn:

    -Cael y cyfle i ddatrys her go iawn sy’n wynebu eu sefydliad

    -Ymroi amser a gofod i brofi syniadau a dulliau newydd

    -Dysgu pethau newydd am ddefnyddwyr eu gwasanaeth a’u hanghenion

    -Derbyn mentora ac arweiniad gan arbenigwyr digidol

    -Dysgu sut i ddatblygu gwasanaethau digidol sy’n canolbwyntio ar y person wrth ddefnyddio’r fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth

    -Arbrofi gydag adnoddau digidol newydd

    -Cael mynediad i offer ac adnoddau digidol

    Beth yw trefn y cwrs?

    Mae’r cwrs yn cynnwys 2 ran. Y rhan cyntaf yw gweminar yn cyflwyno’r fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth a pham ei fod yn gweithio ar gyfer gwasanaethau digidol. Gallech ddewis i fynychu’r modiwl cyntaf yn unig, neu os oes gennych chi brosiect cynllunio gwasanaeth i weithio arni, gallech chi gwblhau’r ail ran lle darparir cefnogaeth i ddatblygu eich gwasanaeth digidol.

    Manylion pellach yma

    Cofrestrwch am ran un yma, cofrestrwch am ran un a dau yma

  3. Rôl wedi ei dalu: Grŵp Ymchwil Ymgynghorol Twf Swyddi Cymru+

    by Sarah Namann | 9th Ion 2023

    Derbyn Taliad i Rannu Dy Farn a Phrofiadau ar Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant

    Ydy hyn yn swnio fel ti?

    -Rwy’n chwilio am gyflogaeth a hyfforddiant ar hyn o bryd, ond mae rhwystrau ac mae’n anodd darganfod rhywbeth.

    -Rwyf ymwneud â Twf Swyddi Cymru+ ar hyn o bryd.

    -Oherwydd amgylchiadau personol, nid wyf yn teimlo fel y gallaf weithio. Hoffwn i petai mwy o gyfleoedd wedi’u teilwro at fy anghenion i.

    -Rwy’n gweithio, mewn addysg neu hyfforddiant, ond rwyf wedi wynebu rhwystrau yn y gorffennol ac yn awyddus i helpu pobl ifanc eraill i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.

    Y cyfle

    Rydym yn chwilio am bobl ifanc 16-24 oed sydd yn byw yng Nghymru i fod yn rhan o Grŵp Ymchwil Ymgynghorol.

    Nid oes angen profiad blaenorol, ond rydym yn chwilio am ymrwymiad a pharodrwydd i ddysgu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd ar-lein eithaf rheolaidd. Bydd y panel yn cyfarfod tua 6-8 gwaith dros y 18 mis nesaf.

    I sicrhau bod yr ymchwil yn gallu helpu cymaint o bobl ifanc â phosib, hoffem recriwtio grŵp o bobl ifanc sydd â phrofiadau bywyd amrywiol. Hoffem glywed yn benodol gan bobl sydd yn teimlo fel eu bod wedi wynebu rhwystrau wrth chwilio am gyflogaeth neu hyfforddiant.

    Beth wyt ti’n ei gael o hyn?

    Mae bod yn rhan o grŵp ymchwil ymgynghorol yn ffordd wych i roi hwb i dy hyder, i gyfarfod pobl newydd, ac i gynyddu’r sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

    Byddi di’n derbyn y Cyflog Byw Cenedlaethol (£10.9 yr awr ar hyn o bryd) neu swm cyfatebol mewn taleb o dy ddewis – pa bynnag un sydd orau gen ti!

    Y tu allan i’r sesiynau yma, byddi di’n cael cefnogaeth i:

    -Helpu ti i gael profiad gwaith mewn meysydd fel marchnata, siarad yn gyhoeddus, fideo graffeg a chyfryngau cymdeithasol.

    -Meddwl am dy sgiliau allweddol i roi ar dy CV

    -Cysylltu ti gyda chyfleoedd eraill

    Bydd y fentoriaeth yma am ddim i’r rhai sydd yn rhan o’r grŵp ymchwil ymgynghorol.

    Beth fydd y gofynion arnat ti? 

    Yn ystod y broses ymchwil, byddant yn gofyn i ti gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau i helpu gyda’r ymchwil. Efallai bod hyn yn cymryd rhan mewn grŵp ffocws i rannu adborth a phrofiadau, neu fod yn gwsmer cudd i weld sut brofiad yw cael mynediad i gefnogaeth Twf Swyddi Cymru+.

    Cefndir

    Mae Twf Swyddi Cymru+ yn fenter gan Lywodraeth Cymru i helpu pobl ifanc sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, i gael mynediad i gyfleoedd fel y gallant symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.

    Mae’n rhaglen gyffrous ac uchelgeisiol sydd â’r bwriad o helpu pob person ifanc 16-18 cymwys gyda chynnig o gyflogaeth, hyfforddiant, gwaith gwirfoddol neu hunangyflogaeth.

    I sicrhau bod y rhaglen yn llwyddiannus, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflogi’r gwerthuswr annibynnol Wavehill. Eu tasg nhw ydy i werthuso’r rhaglen Twf Swyddi Cymru+ i weld yr hyn sydd wedi bod yn llwyddiannus a’r hyn gellir ei wella.

    Fel person ifanc, rwyt ti’n gallu cefnogi’r rhaglen wrth rannu dy brofiadau o gael mynediad i addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, a’r ymdrechion sydd wedi bod ar hyd y ffordd.

    Mynegi diddordeb

    Os oes gen ti ddiddordeb yn y cyfle yma, mynega dy ddiddordeb wrth lenwi’r ffurflen yma.

    Ceisiadau yn cau am 9yb ar 21 Marwth 2023. Wedi i ti ddatgan diddordeb, byddem yn cysylltu i roi gwybod y canlyniad.Os wyt ti’n cael dy  ddewis i fod yn rhan o’r grŵp ymchwil ymgynghorol byddem yn trefnu sgwrs anffurfiol am y rôl.

    Cefnogaeth i gymryd rhan

    Os wyt ti angen cefnogaeth gyda mynediad i dechnoleg fel cysylltiad i’r we neu ddyfeisiau, yna noda hynny ar y ffurflen mynegi diddordeb. Ni fydd hyn yn cael unrhyw ddylanwad ar y broses o ddewis pobl am y cyfle, ond bydd yn helpu ni i sicrhau ein bod yn gallu trefnu’r ddarpariaeth gorau i ti.

    Am wybodaeth bellach, cysyllta â sarah@promo.cymru

  4. Cynllunio Gwasanaethau Digidol

    by Sarah Namann | 16th Mai 2022

    Rydym yn cynnal cwrs modwlar am ddim ar gyfer sefydliadau trydydd sector yng Nghymru.

    Bwriad y cwrs ydi darparu’r cyfranogwyr gyda’r wybodaeth a’r sgiliau i gynllunio gwasanaethau digidol sy’n canolbwyntio ar y defnyddwyr, a’u hysbrydoli nhw i gymryd mantais o ddulliau digidol i gael yr effaith gymdeithasol gorau posib. Yn ystod y cwrs, bydd y cyfranogwyr yn:

    – Cael cyfle i ddatrys problemau go iawn sy’n wynebu eu sefydliad
    – Ymroi amser i brofi syniadau a dulliau newydd
    – Dysgu pethau newydd am ddefnyddwyr eu gwasanaeth a’u hanghenion
    – Derbyn mentora ac arweiniad gan arbenigwyr digidol
    – Dysgu sut i ddatblygu gwasanaethau digidol sy’n canolbwyntio ar y person gan ddefnyddio’r fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth
    – Arbrofi gydag adnoddau digidol newydd
    – Cael mynediad i adnoddau digidol

    Beth yw fformat y cwrs?

    Mae’r cwrs mewn 2 ran. Y rhan cyntaf yw gweminar sydd yn cyflwyno’r fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth a pham fod hwn yn llwyddiannus ar gyfer gwasanaethau digidol. Gallwch ddewis mynychu’r modiwl cyntaf yn unig, neu os oes gennych chi brosiect cynllunio gwasanaeth ar y gweill gallwch gwblhau’r ail ran ble rydym yn eich cefnogi i ddatblygu eich gwasanaeth digidol.

    Darganfyddwch fwy yma

    Cofrestrwch yma