Author Archives: ProMo Cymru

  1. Sut i Optimeiddio Zoom ar Gyfer Cyfarfodydd Tîm

    by ProMo Cymru | 17th Ebr 2024

    Ers y pandemig, mae Zoom wedi dod yn rhan annatod o fywyd y trydydd sector. Ond ydych chi’n ymwybodol o bopeth y gallech chi ei wneud ar Zoom? Mae’r adnodd yma yn archwilio rhai o nodweddion y platfform i wella’ch galwadau a chael y gorau allan o’ch cyfarfodydd.

    Ar ddiwedd 2019, dim ond 10 miliwn o gyfranogwyr cyfarfodydd dyddiol oedd gan Zoom, a’r mwyafrif ohonom yma’n Gymru erioed wedi clywed am y platfform. Bu twf aruthrol yn ystod COVID, gyda dros 300 miliwn o gyfranogwyr cyfarfodydd dyddiol erbyn Ebrill 2020.

    Er bod y mwyafrif yn ymwybodol bod Zoom yn eich helpu i gynnal rhith gyfarfodydd, efallai nad ydych chi’n ymwybodol o’r holl adnoddau diddorol i gadw’ch tîm wedi ymgysylltu, yn wybodus, ac yn gyffrous ar gyfer eich prosiect nesaf.

    Newid Cefndiroedd

    Mae nodweddion cefndir Zoom yn caniatáu i chi bersonoli eich galwad fideo, felly ni fydd ystafell wely anniben neu swyddfa brysur yn tynnu sylw’r bobl eraill ar y galwad.

    Dychmygwch eich bod yn gweithio mewn swyddfa brysur gyda phobl yn cerdded y tu ôl i chi. Gyda Zoom, gallech chi ddewis cefndiroedd personol ar gyfer eich galwad. Yn hytrach nag eistedd mewn amgylchedd prysur, gallech chi fod yn eistedd mewn caban clyd, tŷ mawr moethus ger y traeth, neu lyfrgell ddistaw. Neu, os yw’r gofod rydych chi’n gweithio ynddi yn fwy anniben nag yr hoffech, neu rydych chi’n awyddus i gadw’ch bywyd preifat yn breifat wrth weithio o adref, gallech chi ddewis niwlo’ch cefndir.

    Gallech chi ddewis pa nodwedd i’w defnyddio wrth glicio ar y saeth wrth ochr ‘Stop Video’. Yn yr enghraifft isod, rydym wedi dewis niwlio cefndir yr alwad.

    Dyma sgrin lun o alwad fideo Zoom gyda'r cefndir y tu ôl i'r cyfranogwr wedi'i niwlio.

    Gallech chi hefyd newid eich cefndir i ddelwedd o’ch dewis wrth glicio ar ‘Choose Virtual Background’. Yna uwch lwythwch eich llun neu ddewis o’r delweddau sydd ar gael ar Zoom.

    Dyma sgrin lun o alwad fideo Zoom gyda'r cefndir y tu ôl i'r cyfranogwr wedi'i newid i logo ProMo Cymru.

    Os ydych chi am fynd â hyn ymhellach, gallech chi ychwanegu cefndir fideo wrth ddilyn yr un camau. Dewiswch fideo eich hun neu ddewis un o’r cefndiroedd rhithiol a ddarperir, fel traeth heulog neu ystafell glyd.

    Dyma sgrin lun o alwad fideo Zoom gyda'r cefndir rhithiol wedi newid i fideo o draeth

    Amserydd

    Mae amserydd Zoom yn nodwedd sydd ddim yn cael ei ddefnyddio’n ddigonol ar gyfer cyfarfodydd sydd weithiau’n gallu parhau am ychydig yn rhy hir.

    Mae cael mynediad i hyn yn syml. Mewngofnodwch i’ch cyfarfod Zoom a llywio i’r opsiynau ‘Apps’ ym mar offer y cyfarfod. O’r fan honno, dewiswch ‘Timer’ o’r gwymplen.

    Dyma sgrin lun o alwad fideo Zoom gyda'r opsiwn amserydd i'w weld ar y sgrin

    Ar ôl lawr lwytho’r amserydd, gallwch ddynodi amseroedd penodol ar gyfer eich cyfarfod neu eitemau ar yr agenda. Mae hysbysiadau gweledol a chlywedol fel bod cyfranogwyr yn cael eu hatgoffa o gyfyngiadau amser ac yn nodi pryd mae angen gorffen pwnc neu gyfarfod.

    Dyma sgrin lun o alwad fideo Zoom gydag amserydd pum munud i'w weld.

    Wrth ymgorffori’r amserydd mewn cyfarfodydd, gall eich sefydliad wneud y mwyaf o effeithlonrwydd a blaenoriaethu eitemau agenda yn seiliedig ar gyfyngiadau amser wrth gynnal hyblygrwydd os bydd trafodaethau’n rhedeg yn hirach na’r disgwyl.

    Ystafelloedd Trafod Llai a Gweminarau

    Mae gweminarau Zoom ac ystafelloedd trafod llai (breakout rooms) yn cynnig nodweddion grêt ar gyfer hwyluso cyfarfodydd deniadol a rhyngweithiol, sy’n wych ar gyfer sefydliadau trydydd sector yng Nghymru sy’n ceisio symleiddio eu hymdrechion cydweithio rhithiol.

    Mae cynnal gweminar ar Zoom yn syml i’w ddefnyddio. Ar ôl mewngofnodi i’ch cyfrif Zoom, dewiswch yr opsiwn ‘Webinar’ wrth drefnu cyfarfod newydd. Addaswch eich gosodiadau gweminar, gan gynnwys gofynion cofrestru a chaniatâd, i deilwra’r profiad i anghenion eich sefydliad.

    Dyma sgrin lun o alwad fideo Zoom gyda'r nodwedd gweminar yn weithredol.
    Credyd Llun: Zoom Video Communications

    Unwaith y bydd y gweminar wedi cychwyn, gellir defnyddio nodweddion fel rhannu sgrin, pôl, a sesiynau holi ac ateb i gadw diddordeb eich gwesteion. Gall y blwch sgwrsio ac ymatebion feithrin cyfranogiad gweithredol gan gynnal cyfarfodydd mwy deniadol.

    Yn ogystal, mae ystafelloedd trafod lai yn ffordd wych i hwyluso trafodaethau grŵp llai o fewn gosodiad mwy. Gall trefnwyr rag-neilltuo cyfranogwyr i ystafelloedd neu eu neilltuo yn ystod y gweminar, gan ganiatáu sgyrsiau mwy personol, manwl sy’n rhoi adborth i’r cyfarfod ehangach.

    Dyma sgrin lun o alwad fideo Zoom ble mae'r opsiwn 'breakout room' yn cael ei ddangos.
    Credyd Llun: Zoom Video Communications

    Casgliad

    Mae Zoom yn cynnig sawl nodwedd sy’n caniatáu mwy o greadigrwydd, personoleiddio ac ymgysylltu mewn cyfarfodydd tîm.

    Mae’r nodweddion yma yn gallu gwneud i gyfarfodydd sefyll allan ac yn gallu meithrin cyfathrebiad gwell rhyngoch chi a’ch cydweithwyr/partneriaid.

    Bod hynny’n gyfarfod pwysig i godi arian gyda sawl asiantaeth partner, neu’n gwrs hyfforddi tîm, gallech chi fwyhau eich profiad ar Zoom gyda rhai o’r nodweddion yma.


    Cefnogaeth ar gael

    Gallech ddarganfod ein holl adnoddau Cymorth Digidol yma.

    Os ydych chi’n chwilio am gyngor neu gymorth i ddatblygu eich prosesau digidol fel bod eich gwaith yn haws, mae’r gwasanaeth DigiCymru yn cynnig sesiynau cefnogi un i un, byr, am ddim, i sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru. Darganfod mwy.

    Welsh Third sector digital support logo with words Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector. Wavy lava lamp 'esque' circles in pinks, purples, red and orange.

    Ariannir yr adnodd hwn drwy Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector, prosiect Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi Trydydd Sector Cymru gyda digidol. I ddarganfod mwy am sut gall y prosiect yma gefnogi eich sefydliad chi, cliciwch y ddolen neu cysylltwch â andrew@promo.cymru

  2. Adlewyrchu ar Brosiectau a Gwasanaethau 2023

    by ProMo Cymru | 27th Chw 2024

    Roedd 2023 yn flwyddyn brysur yn ProMo Cymru – buom yn gweithio ar lawer o brosiectau gwahanol yn ystod y flwyddyn. Gobeithiwn y gallwn barhau â’r gwaith gwych yma yn 2024 a chael effaith gadarnhaol ar ein rhanddeiliaid a’r cymunedau rydym yn gwasanaethu.

    EVI Pantry group photo

    Institiwt Glyn Ebwy

    Mae wedi bod yn flwyddyn anhygoel i Institiwt Glyn Ebwy (EVI), Canolfan Cymunedol a Diwylliannol ProMo yng nghalon Glyn Ebwy, gyda lansiad ein prosiect UKSPF.

    Lansiwyd y prosiectau Pantri Cymunedol EVI a’r Caffi Trwsio yn fis Chwefror 2023. Ar ddiwedd 2023 roedd dros 200 o gartrefi yn cael cymorth y Pantri Cymunedol ym Mlaenau Gwent, gan gwtogi biliau siopa a lleihau gwastraff bwyd. Mae’r Caffi Trwsio wedi arbed dros 140 o eitemau rhag y sbwriel.

    Yn ystod Nadolig 2023, bu staff EVI a gwirfoddolwyr yn danfon hamperi i’r gymuned mewn partneriaeth â’r AS Nick Smith gyda #MaePawbYnHaedduNadolig.

    Ni fydda’r gwaith yma wedi bod yn bosib heb wirfoddolwyr ymroddedig a brwdfrydig EVI. Diolch enfawr i’r 54 gwirfoddolwr sydd wedi cyfrannu i gymaint i sawl prosiect EVI dros y flwyddyn.

    Prosiectau Digidol: Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector a Newid

    Rydym wedi bod yn brysur yn gweithio ar ddau brosiect newydd, Newid a Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector.

    Bwriad y ddau brosiect yw helpu’r trydydd sector yng Nghymru i wella’r gwasanaethau maent yn cynnig wrth ddefnyddio dulliau ac adnoddau digidol yn well. Yn 2023, rydym wedi cefnogi dros 100 o sefydliadau trydydd sector. Mae rhai o’r uchafbwyntiau yn cynnwys:

    – Lansio DigiCymru, gwasanaeth yn cynnig cymorth un i un, byr, am ddim i sefydliadau trydydd sector Cymru
    – Lansio gwefan Newid, llawn adnoddau digidol a chymorth
    – Cwrs Cynllunio Gwasanaethau Digidol wedi hyfforddi, mentora a chefnogi sefydliadau i ailfeddwl eu gwasanaethau gan ddefnyddio dulliau digidol
    – Cynnal gweminarau ar TikTok, Canva a Deallusrwydd Artiffisial

    Podlediad ERYICA

    Yn gweithio gyda ERYICA (Asiantaeth Gwybodaeth a Chwnsela Ieuenctid Ewrop) cynhyrchwyd podlediad ERYICAst, yn archwilio effaith digidol ar waith ieuenctid.

    Bûm yn siarad ag ymarferwyr, academyddion a phobl ifanc ledled y byd i greu chwe phennod o’r podlediad am sut mae gwasanaethau’n addasu i ymateb i dechnoleg newydd.

    Ymhlith y penodau mae Llythrennedd yn y Cyfryngau, Algorithmau, AI, y Metaverse a mwy. Gwrandewch!

    Llinell Gymorth Meic

    Mae’r cynghorwyr ar linell gymorth Meic wedi bod yn gweithio’n galed unwaith eto i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i filoedd o blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae cannoedd o ymyriadau eiriolaeth unigol wedi’u cyflawni. Rydym wedi cael llawer o adborth positif am y gwasanaeth dros y flwyddyn, gan blant, pobl ifanc, aelodau’r teulu a gweithwyr proffesiynol.

    “Rydw i wir yn gwerthfawrogi’r cyngor. Mae rhywfaint o oleuni nawr.”

    Aelod o’r teulu.

    “Diolch am yr ymateb cyflym. Mae’n wasanaeth gwych a byddaf yn siŵr o’i hyrwyddo”

    Gweithiwr proffesiynol pobl ifanc.

    “Diolch am fod mor garedig a pheidio barnu. Mae’n braf cael dy glywed

    Person ifanc.

    Mae nifer o flogiau wedi’u cyhoeddi ar wefan Meic ar amrywiaeth o bynciau. Rydym hefyd wedi postio llawer o gynnwys ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Eleni cafwyd tri ymgyrch ymwybyddiaeth hefyd:

    Ymgyrch Arholiadau
    Dim Cywilydd Dim Cyfrinachau: Ymgyrch Iechyd a Lles Rhyw
    Byw Gyda Cholled: Ymgyrch Galar

    Rydym hefyd wedi datblygu adran Cael Help newydd ar wefan Meic, fel ei bod yn haws i bobl ifanc ddarganfod y wybodaeth maent yn chwilio amdano. Wrth chwilio am gategori, byddant yn dod o hyd i wybodaeth, dolenni i wasanaethau a all helpu, a rhestr o flogiau yn sydyn.

    Yn 2024 bydd gwasanaeth WhatsApp newydd Meic yn cael ei lansio, pwynt cyswllt newydd ar gyfer ein galwyr. Mae llawer o’r paratoadau ar gyfer hyn wedi bod yn digwydd y tu ôl i’r llenni yn 2023.

    Meddwl Ymlaen Gwent

    Mae Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) yn brosiect ProMo Cymru a Mind Casnewydd a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

    Cyflogwyd 10 o Ymchwilwyr Cyfoed 16-24 oed. Ymgynghorwyd â 203 o bobl ifanc (11-27) yng Ngwent i gasglu mewnwelediadau iechyd meddwl.

    Ar ôl dadansoddi’r wybodaeth, cynhaliwyd digwyddiad preswyl dwy noson, ac yma cafodd adroddiad darganfod ei greu gyda saith o fewnwelediadau allweddol. Mae’n werth ei ddarllen!

    Yng nghyfnod nesaf y prosiect, byddem yn cydweithio â phartneriaid i fynd i’r afael â heriau a gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngwent.

    Ymunwch â’r rhestr rhanddeiliaid ar gyfer y prosiect yma.

    Ein Meddyliau Ein Dyfodol

    Mae Ein Meddyliau Ein Dyfodol (EMED) Cymru yn rhan o brosiect pum mlynedd gyda phartneriaid yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, a’r Alban. Y nod yw grymuso lleisiau ifanc ar gyfer newid ystyrlon mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

    Gyda’n partner Adferiad Recovery, aethom ati i gynnal cynhadledd ar-lein yn archwilio gofal claf mewnol, ymyrraeth gynnar, gofal atal, a rôl cyfryngau cymdeithasol pan ddaw at iechyd meddwl. Roedd dros 30 o weithwyr proffesiynol yn bresennol, a chafwyd canmoliaeth fawr fel “y gynhadledd ar-lein orau” y maen nhw wedi bod iddi.

    Rhannodd cyfranogwr arall, “Wrth fy modd clywed yn uniongyrchol gan y bobl ifanc. Mor bwerus ac atyniadol. Dwi wedi synnu pa mor hyderus a huawdl oeddent o ystyried pwnc mor heriol a phersonol. Da iawn wir ar eich gwaith yn ymgysylltu â nhw; mae’n amlwg eu bod yn gallu ymddiried ynoch chi ac yn teimlo eu bod wedi’u grymuso!”

    Cynhyrchu Cyfryngau

    Mae ein tîm cyfryngau wedi bod yn brysur iawn yn 2023, yn creu llawer o fideos, brandio a dyluniadau ar gyfer sawl sefydliad. Un o’r prosiectau nodedig oedd creu fideos ar gyfer Canolfan Gyfreithiol Plant Cymru.

    Nod y fideos yma oedd arwain ceiswyr lloches ifanc trwy’r camau cyntaf ar ôl cyrraedd Cymru. Aethom ati i greu cyfres o bedwar fideo byr wedi’u cyfieithu i 14 o ieithoedd gwahanol (cyfanswm o 56 fideo).

    Cyd-gynlluniwyd y prosiect gyda phobl ifanc, a roddodd fewnbwn i’r arddull animeiddio a’r bwrdd stori. Nhw hefyd oedd yn darparu’r troslais yn ystod sesiynau recordio gyda chyfieithwyr ar y pryd. Cwblhawyd y prosiect yma mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe a TGP Cymru.

    Ofcom 

    Wedi’i gomisiynu gan Ofcom, rydym wedi defnyddio methodoleg cynllunio gwasanaeth i gynnal gweithdai llythrennedd cyfryngau ar gyfer pobl ifanc 11 i 14 oed ym Mlaenau Gwent. Yn y cyfnod darganfod cychwynnol darganfuwyd bod bwlch sylweddol yng ngwybodaeth pobl ifanc am algorithmau cyfryngau cymdeithasol a siambrau atsain.

    Roedd y mewnwelediad yma yn ein galluogi i ddatblygu gweithdai a oedd yn canolbwyntio ar ddangos i bobl ifanc sut roedd cadw rheolaeth mewn gofodau ar-lein. Mae’r adroddiad a gynhyrchwyd yn manylu ein darganfyddiadau ac mae wedi helpu i drosglwyddo’n esmwyth i’r cyfnod datblygu nesaf.

    Yn 2024 rydym wedi bod yn gweithio gyda thri pherson ifanc yn cyd-gynllunio’r gweithdai. Bydd y tri yn ein helpu i gyflwyno i bobl ifanc eraill mewn clybiau ieuenctid ledled Blaenau Gwent.

    Arwain Cynefin

    Mae’r prosiect Arwain Cynefin yn gydweithrediad rhwng ProMo Cymru, Ysgolion Cynradd, a TLP Cymru. Mae’n cael ei gefnogi gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Y nod yw cyfarparu athrawon a phobl ifanc gyda sgiliau digidol, creadigol ac adrodd straeon.

    Mewn partneriaeth â Janet Hayward (OBE) a TLP Cymru, mae’r prosiect peilot yma wedi datblygu glasbrint ar gyfer Cwricwlwm i Gymru ac Ysgolion Bro ar waith. Bydd yn rhoi hyder i  archwilio, cysylltu, a dathlu trysorau a hanes cymunedol.

    Cynhaliwyd dau weithdy adrodd stori yn ddigidol gydag athrawon a disgyblion blwyddyn pump. Cafodd eu gwaith anhygoel, gan gynnwys gwaith celf a straeon digidol, eu harddangos yn adeilad Y Pierhead ym Mae Caerdydd fis Tachwedd. Cefnogwyd gan Lee Waters AS, Jane Hutt AS, ac Alun Davies AS.

    Ymgyrch TheSprout: Y Dyfodol Yn Ein Dwylo

    Ym mis Mawrth, lansiodd TheSprout, gwefan wybodaeth a blogio i bobl ifanc 11-25 Cymru, yr Ymgyrch ‘Y Dyfodol yn Ein Dwylo’.

    Y nod oedd codi ymwybyddiaeth gwneud dewisiadau cynaliadwy, helpu lleihau gwastraff, a bod yn ecogyfeillgar o ran ffasiwn.

    Wedi’i ddatblygu gan grŵp o bum person creadigol ifanc yng Nghaerdydd, mewn cydweithrediad â Bloedd Amgueddfa Cymru. Cafodd deg blog ei gyhoeddi ar wefan TheSprout a bron i 100 o negeseuon cyfryngau cymdeithasol (13 ohonynt yn TikToks).

    Roedd yna gynnwys am ddewisiadau arall i ffasiwn gyflym fel prynu’n ail-law, trwsio, uwchgylchu a gwneud dillad eich hun. Darllenwch yr ymgyrch yma.

    Prosiectau 2024

    Rydym yn gobeithio gweithio gyda’n cleientiaid blaenorol eto, ac edrychwn ymlaen am y cyfle i weithio gyda llawer mwy!

    Cofrestrwch i gylchlythyr ProMail i gael gwybod y diweddaraf am ein prosiectau a’n cyfleoedd yn ystod y flwyddyn. Rydym yn addo na fyddem yn eich sbamio.

    Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i weld pytiau bach ac i fod yn rhan o’n rhwydwaith!

  3. CEISIADAU WEDI CAU: Cynllunio Gwasanaeth Digidol i Gyrraedd Anghenion Defnyddiwr yn Well

    by ProMo Cymru | 15th Chw 2024

    Mae ceisiadau bellach yn agored i sefydliadau trydydd sector Cymru am un o bum lle ar raglen gyffrous. Bwriad y rhaglen yw trawsnewid eich gwasanaethau’n ddigidol i gyrraedd anghenion eich cymunedau yn well. Bydd pob sefydliad sydd yn cymryd rhan yn derbyn tâl £4,800 am gymryd rhan.

    Yn nhirwedd gyflym ddigidol mae aros ar y blaen yn fantais angenrheidiol i sefydliadau. Bydd ein rhaglen yn eich grymuso â’ch ysgogi i gynllunio neu ailfeddwl eich gwasanaethau i gyrraedd eich cymunedau yn well.

    Manylion y Rhaglen

    Mae’r Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol 6 mis yma wedi ei deilwro i sefydliadau trydydd sector Cymru, beth bynnag eu maint neu brofiad digidol blaenorol.

    Bydd pum sefydliad yn cael eu dewis i ymuno â’r rhaglen. Y bwriad yw grymuso sefydliadau trydydd sector Cymru i wella gwasanaethau i ddefnyddwyr eu gwasanaeth gan ddefnyddio digidol.

    Gall trawsnewid eich gwasanaeth gyda digidol feddwl unrhyw beth, o ddigideiddio gwaith papur fel ei bod yn haws i gofrestru am gymorth i ddarganfod ffyrdd mwy effeithiol i gysylltu â defnyddwyr eich gwasanaeth gyda’ch ffôn.

    Os oes gennych chi her ac eisiau cymorth i ddarganfod datrysiad digidol effeithiol, dyma’r cyfle i chi!

    Unwaith i chi benderfynu ar eich her, byddech yn dilyn y fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth i archwilio i fanylder dyfnach a darganfod datrysiadau posib. Nid oes rhaid poeni os ydych chi’n hollol newydd i gynllunio gwasanaeth. Bwriad y rhaglen yma yw eich cyfarparu gyda’r holl wybodaeth ac adnoddau sydd ei angen.

    Beth yw manylion y rhaglen cynllunio gwasanaeth?

    Mae’r rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol yn cychwyn fis Ebrill 2024 ac yn gorffen fis Hydref 2022. Os ydych chi’n llwyddo i gael lle ar y rhaglen, byddech yn penodi dau aelod staff fel arweinwyr prosiect.

    Bydd yr arweinwyr prosiect yn derbyn arweiniad, mentora, a’r cyfle i gynllunio a phrofi gwasanaethau digidol newydd neu i wella rhai sydd yn bodoli eisoes yn eich sefydliad.

    Mae’r rhaglen yn gweithredu ar y broses Darganfod, Diffinio, Datblygu a Chyflawni. Mae’n caniatáu i’r sefydliad weithio ar heriau go iawn maent yn wynebu.

    Byddech yn cychwyn wrth ddysgu am y fethodoleg cynllunio gwasanaeth, y broses, a sut i ddeall anghenion eich defnyddwyr yn well. Yna, byddech yn ymchwilio anghenion eich defnyddwyr, yn dadansoddi eich prif fewnwelediadau, yn datblygu datrysiadau posib i’ch her ac yn eu profi.

    Bydd y mwyafrif o’r rhaglen yn digwydd yn rhithiol, gan ganiatáu hyblygrwydd ar gyfer hunan-astudio a gwaith. Mae yna rhai digwyddiadau wyneb i wyneb yn ystod y cwrs hefyd. Mae yna ddyddiadau pwysig yn ystod y rhaglen ble mae presenoldeb yn orfodol. Mae’r dyddiadau yma, ynghyd â gwybodaeth bellach a chwestiynau cyffredin i’w gweld ar dudalen y rhaglen yma.

    Manteision y Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth

    Nid dysgu yn unig sydd i’w ennill o gymryd rhan yn y Rhaglen Cynllunio Gwasanaeth Digidol; mae’n fuddsoddiad yn nyfodol eich sefydliad. Mae cael cyfle i ddatrys gwir broblemau o fewn eich sefydliad, gyda chymorth ein harbenigwyr Cynllunio Gwasanaeth, yn amhrisiadwy.

    Bydd pob sefydliad sy’n cymryd rhan yn y garfan yma yn derbyn tâl o £4,800 (yn cynnwys TAW) i gyfrannu tuag at amser staff ac adnoddau.

    Y Broses Ymgeisio

    Dim ond lle i bum sefydliad trydydd sector sydd ar gael. Bydd hyn yn golygu proses ymgeisio.

    Gofynnir i chi gwblhau ffurflen gais tair rhan.

    Mae’r rhan gyntaf yn holi am eich sefydliad ar y cyfan, yr ail ran am y bobl rydych chi wedi penodi i arwain y prosiect, a’r trydydd am eich prosiect a’i effaith ar ddefnyddwyr eich gwasanaeth.

    Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu dangos eu bod wedi ymrwymo i ddefnyddio’r cwrs yma i wneud newid sydd yn cael effaith.

    Mae ProMo Cymru yn annog pawb sydd â diddordeb i wneud cais. Nid yw’n angenrheidiol i gael profiad o’r fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth.

    Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mawrth 2 Ebrill, 11:59pm.

    Peidiwch â cholli’r cyfle i chwyldroi’r eich sefydliad gan ddefnyddio cynllunio gwasanaeth digidol i gael effaith barhaol ar eich cymuned.

    Ymgeisiwch nawr a bod yn rhan o’r siwrne trawsnewid ddigidol! Gwybodaeth bellach yma.

    Mae’r rhaglen yn cael ei ariannu trwy brosiect Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector ProMo Cymru mewn partneriaeth â CGGC. Ariannir y prosiect trwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol sydd â’r nod o gefnogi’r Trydydd Sector yng Nghymru gyda digidol.

  4. Croeso Ffion

    by ProMo Cymru | 12th Chw 2024

    Mae ProMo Cymru yn hapus iawn i groesawu Ffion Powell fel ein Swyddog Cyllid a Datblygu newydd!

    Mae gan Ffion brofiad helaeth yn y maes gwerthu, ble mae wedi rhagori mewn creu a chynnal perthnasoedd busnes hirdymor, yn ogystal â chynyddu a sefydlogi ffrydiau refeniw.

    Llun o Ffion yn gwenu o flaen cefndir du

    Yn gwneud y naid fawr o werthiant cyfryngau digidol i’r trydydd sector, mae Ffion yn frwdfrydig iawn i ddefnyddio’i sgiliau at achos mwy, yn enwedig i helpu’r cymunedau sydd ei angen fwyaf.

    Yn ei swydd yn ProMo mae’n cefnogi cynhyrchu incwm a datblygu prosiectau a chyfleodd newydd.

    Ar ddiwedd mis cyntaf Ffion yn ProMo, gofynnom iddi sut mae’n mwynhau. Dywedodd:

    “Mae’r mis cyntaf yma wedi bod yn llawn prosiectau a dysgu – mae amlochredd y sefydliad a’r holl ddarnau sydd yn symud yn agoriad llygaid. Dwi’n awyddus i gyfrannu fy arbenigedd ymhellach yn ProMo ac yn edrych ymlaen at wneud gwahaniaeth ym mywydau’r cymunedau rydym yn gweithio â nhw. Hoffwn hefyd ddiolch i’r tîm am y croeso cynnes a chefnogol. Mae wedi bod yn bleser bod o gwmpas cymaint o unigolion disglair, dawnus a blaengar.”

    Edrychwn ymlaen at weld yr effaith mae Ffion yn ei gael yma gyda ni yn ProMo. Croeso i’r tîm!

  5. Croeso Joe

    by ProMo Cymru | 12th Chw 2024

    Mae ProMo Cymru yn hapus iawn i groesawu Joe Williams fel ein Swyddog Prosiectau Digidol newydd!

    Mae gan Joe flynyddoedd o brofiad yn gweithio yn y trydydd sector, yn cysylltu gyda chymunedau a phobl ifanc o gefndiroedd economaidd difreintiedig.

    Llun o Joe Williams yn gwenud mewn crys siec o flaen cefndir du.

    Mae’n falch iawn i fod wedi gweithio gyda mamau ifanc yng Nghymoedd De Cymru, yn cynnal grwpiau cymorth i wella iechyd meddwl a lles, cyflwyno dosbarthiadau sgiliau bywyd i ddisgyblion sydd mewn perygl o gael eu gwahardd, a chynnal clybiau ar ôl ysgol i blant a phobl ifanc.

    Mae Joe yn angerddol am ddefnyddio digidol i wella bywydau cymunedau a phobl ifanc yng Nghymru.

    “Rwyf wedi cael croeso cynnes iawn gan bawb yn ProMo. Mae’r gwaith yn  bwysig, a dwi’n edrych ymlaen at gael cymryd mwy o ran!”

    Y tu allan i’r gwaith, mae Joe wedi graddio gyda MA Hanes, ac mae’n caru heicio a gwersylla – yn cerdded a champio hyd Prydain yn 2021, a Chymru yn 2023.

    Croeso i’r tîm Joe!

  6. [Wedi cau] Dylunydd Cyfryngau Digidol / Animeiddiwr Iau (Interniaeth â Thâl) 

    by ProMo Cymru | 7th Chw 2024

    Dyma gyfle cyffrous i ymuno â’n tîm cynhyrchu cyfryngau ar interniaeth â thal cyfnod byr, i’n cefnogi i greu animeiddiadau, dyluniadau graffeg, a fideos. Mae hwn yn gyfle gwych i dderbyn arweiniad arbenigol ac i ennill profiad i helpu gyda’ch gyrfa.

    Mae ein Tîm Cynhyrchu Cyfryngau yn chwilio am Ddylunydd Cyfryngau Digidol / Animeiddiwr Iau sydd yn frwdfrydig am gyfryngau a gyda phrofiad a hyder i weithio ar sawl prosiect cyfryngau ar yr un pryd mewn amgylchedd cyflym.  

    Oriau a lleoliad: 21 awr yr wythnos (rhaid bod yn hyblyg) yn hapus i deithio (Caerdydd/Cymru)

    Graddfa Gyflog: £23680 (pro-rata)  

    Hyd y cytundeb:  Cytundeb Cyfnod Penodol o 6 mis 

    Byddech yn cael eich tasgu gyda: 

    – Creu dyluniadau cyfryngau cymdeithasol a deunyddiau wedi’u hargraffu, gydag arweiniad ein Dylunwyr Graffeg 

    – Gweithio gyda’r tîm i gynhyrchu cyfryngau: gan gynnwys helpu yn y cyfnod cyn-gynhyrchu, mynychu sesiynau ffilmio, sesiynau recordio llais, golygu ffilm gydag arweiniad yn ogystal â thynnu a golygu lluniau 

    – Gweithio gyda’r tîm i gynhyrchu graffeg symud ac animeiddiadau 2D (byddai’n fonws pe bai gennych brofiad animeiddio 3D) 

    – Helpu mewn gweithdai, wyneb i wyneb ac ar-lein 

    – Dilyn canllawiau dylunio, a chyfyngiadau technegol a chyllidebol eraill 

    – Gweithio gyda’r tîm a chleientiaid i gyflawni prosiectau ar amser 

    – Bod yn ymwybodol o ddatblygiadau diweddaraf y diwydiant creadigol 

    Byddem wrth ein boddau yn clywed gennych chi os: 

    – Mae gennych chi brofiad neu ddiddordeb yn y Diwydiant Creadigol, Cyfryngau a Dyluniad Graffeg 

    – Mae gennych chi brofiad yn defnyddio Adobe Creative Suite, Canva, a thebyg 

    – Mae gennych chi brofiad cyfrifiadurol ymarferol sydd yn cynnwys dylunio graffeg, cynhyrchu fideo, ac animeiddiad 

    – Rydych chi’n angerddol am ddefnyddio cyfryngau i gysylltu gyda phobl a chymunedau 

    – Rydych chi’n ddibynadwy, yn gyfrifol, gydag agwedd bositif 

    – Rydych yn gyffrous i weithio mewn amgylchedd prysur ble mae pob diwrnod yn wahanol 

    – Rydych chi’n awyddus i ddysgu a datblygu eich sgiliau wrth gael profiad yn un o’r mentrau cymdeithasol sydd yn tyfu cyflymaf yng Nghymru 

    – Rydych chi’n hyblyg i deithio 

    Dyddiad cau: 23ain Chwefror 2024, 5yp 

    GWNEWCH GAIS HEDDIW! E-bostiwch eich ffurflen gais wedi’i lenwi (isod) i people@promo.cymru

     

  7. Defnyddio Trello i Reoli Prosiectau

    by ProMo Cymru | 2nd Chw 2024

    Mae pob sefydliad dielw yn cael trafferth i drefnu pethau weithiau – bod hyn yn jyglo prosiectau, rheoli sawl tasg amrywiol gyda therfynau amser caeth, neu chwilio am wybodaeth mewn cronfa data enfawr.


    Gall Trello helpu i symleiddio’r pethau yma i’ch sefydliad a thynnu’r pwysau gwaith. Mae Trello yn llwyfan sydd yn canolbwyntio ar drefnu a gwaith tîm cydweithredol.

    Pam defnyddio Trello?

    Mae Trello yn feddalwedd cydweithredol gellir ei addasu i anghenion penodol eich sefydliad. Gall fod yn arf i reoli prosiectau, yn ganolbwynt ar gyfer gwybodaeth, ac yn ffordd i rannu syniadau mawr gyda’ch cydweithwyr.

    Gyda swyddogaethau wedi’u hawtomeiddio a chynllun gellir ei addasu’n bersonol i chi, gallech reoli sawl prosiect ac arddangos y wybodaeth yn y ffordd sydd yn gweddu’ch sefydliad orau.

    Image copyright - Trello
Screenshot of Trello workspace demo with To Do, Doing and Done boxes

    Nodweddion allweddol

    Rhai o nodweddion allweddol Trello gall fod o fudd i sefydliadau trydydd sector yw:

    Addasu

    Gellir addasu Trello i anghenion eich sefydliad. Mae posib addasu a symleiddio’r rhyngwyneb defnyddiwr i weddu eich anghenion hygyrchedd penodol.

    Er enghraifft, gallech chi:

    – Creu byrddau ar gyfer pob prosiect a phenodi tasgau unigol o fewn y byrddau yma gan ddefnyddio ‘rhestrau’
    – Penodi lliwiau i dasgau neu dimau. Gellir aseinio lliwiau i berson neu dîm neu farcio cynnydd tasg gyda lliwiau penodol.

    Cydweithio

    Gellir symleiddio’r ffordd rydych yn trefnu sawl prosiect gyda Trello. Nid oes cyfyngiad ar y nifer o ddefnyddwyr, felly gellir gwahodd unrhyw nifer o bobl i weld neu olygu eich gweithle – buddiol pan fyddech chi’n trefnu timau mawr. Mae hyn yn gynorthwyol iawn wrth neilltuo a chadw trac o gynnydd prosiect.

    Er enghraifft, gallech chi:

    – Neilltuo nodau a thasgau i unigolion a thimau
    – Neilltuo dyddiadau cwblhau a chreu bariau cynnydd
    – Creu rhestrau gwirio ar gyfer tasgau penodol

    Awtomatiaeth

    Mae gan Trello system awtomeiddio syml sydd yn gallu arbed oriau o waith i staff a gwirfoddolwyr. Gellir creu rheolau a gorchmynion ar gyfer unrhyw weithred bron. Er enghraifft, gallech chi greu rheol sydd yn dweud, ‘Pan fydd y rhestr wirio yma wedi’i chwblhau, nodwch hynny yn erbyn y dyddiad cwblhau, symudwch y cerdyn unigol i’r rhestr gorffen‘ a phostiwch sylw yn dweud, ‘Wedi’i adolygu a’i gymeradwyo’. Mae’r hyn fydda wedi cymryd amser gwerthfawr bellach yn cael ei wneud ar unwaith.

    Mae Trello hefyd yn gallu integreiddio sawl rhaglen, megis:

    – Microsoft365 (Outlook, Office, Teams, OneNote, OneDrive)
    – Google (Gmail, Sheets, Docs, Drive)
    – Zoom, i drefnu cyfarfodydd tîm fel opsiwn arall i Teams
    – Slack, i gadw trac o drafodaethau am waith

    Calculator and pencil close-up on a blurred background, the concept of tax calculations and finance.

    Costau ac ystyriaethau eraill

    Er y gellir defnyddio Trello am ddim ar y lefel sylfaenol, gellir talu am lefelau eraill. Mae cyfyngiad ar y nifer o atodiadau, labeli a byrddau tîm yn y lefel am ddim. Ond, mae Trello yn cynnig gostyngiad o hyd at 75% i sefydliadau dielw, gyda phrisiau lefelau premiwm yn amrywio o £4 i £14 y mis, er nid yw hyn yn cynnwys y disgownt i sefydliadau dielw.

    Mae adnoddau digidol fel arall ar gael hefyd, fel Notion, ac efallai gallant ddarparu mwy o amrywiaeth i’ch prosiect.


    Cefnogaeth ar gael

    Gallech ddarganfod ein holl adnoddau Cymorth Digidol yma.

    Os ydych chi’n chwilio am gyngor neu gymorth i ddatblygu eich prosesau digidol fel bod eich gwaith yn haws, mae’r gwasanaeth DigiCymru yn cynnig sesiynau cefnogi un i un, byr, am ddim, i sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru. Darganfod mwy.

    Welsh Third sector digital support logo with words Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector. Wavy lava lamp 'esque' circles in pinks, purples, red and orange.

    Ariannir yr adnodd hwn drwy Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector, prosiect Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi Trydydd Sector Cymru gyda digidol. I ddarganfod mwy am sut gall y prosiect yma gefnogi eich sefydliad chi, cliciwch y ddolen neu cysylltwch â andrew@promo.cymru

  8. [Wedi cau] Swydd Wag Swyddog Cefnogi Cymunedol 

    by ProMo Cymru | 18th Ion 2024

    Mae cyfle newydd a chyffroes wedi codi yn ProMo Cymru Cyf am Swyddog Cefnogi Cymunedol i ymuno â’n tîm brwdfrydig yn Institiwt Glynebwy.

    Bydd y person llwyddiannus yn gyfrifol am ddatblygiad a chydlyniad Clwb Cinio Cymunedol, Clwb Ffilm Prynhawn a Chaffi Dementia fydd yn cefnogi’r bobl sydd yn byw gyda, ac yn cael eu heffeithio gan, ddementia. 

    Cytundeb: Cytundeb sefydlog 24 mis 

    Lleoliad: Institiwt Glynebwy 

    Cyflog: £24,410 pro rata 

    Cyflog Cychwyn:  £24,410 pro rata 

    Oriau: 17.5 awr yr wythnos 

    Swydd Ddisgrifiad 

    Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog Cefnogi Cymunedol brwdfrydig a threfnus i ddatblygu gweithgareddau’r EVI ymhellach wrth:  

    – Creu a datblygu Clwb Cinio Cymunedol 

    – Creu a datblygu Clwb Ffilm Prynhawn 

    – Creu a datblygu Caffi Dementia i gefnogi’r bobl sydd yn byw gyda, ac yn cael eu heffeithio gan, ddementia 

    – Cysylltu gyda’r gymuned leol i annog iddynt gymryd rhan yn y gweithgareddau 

    – Gweithio’n agos gyda’r tîm EVI i ddatblygu mwy o wasanaethau a gweithgareddau fydd yn cefnogi cymuned Glynebwy a Blaenau Gwent yn ehangach  

    – Gweithio’n agos gyda Chydlynydd Gwirfoddoli’r EVI i recriwtio gwirfoddolwyr i gynnal y gweithgareddau a’r gwasanaethau newydd yma 

    – Cefnogi arolygu ac adrodd i ‘Cymuned a Lle’ Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU trwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent 

    Dyddiad cau: 7 Chwefror 2024 

    Cyswllt:  info@promo.cymru 

  9. Goleuadau, Camera, Cynhwysiant: Siwrne TikTok Pobl yn Gyntaf

    by ProMo Cymru | 16th Ion 2024

    Mae’r flog yma yn astudiaeth achos o’n gwasanaeth DigiCymru, sydd yn cynnig cefnogaeth un i un, byr, am ddim, i sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru. Mae Y Fenter yn un o’r sefydliadau sydd wedi cysylltu â’r gwasanaeth i ofyn am gyngor a chymorth i ddarganfod datrysiadau i’w problem.

    Logo Pobl yn Gyntaf Cymru gyfan ar gyfer blog TikTok

    Beth yw Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan?

    Mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn sefydliad ar gyfer ac arweinir gan rhai gydag anableddau dysgu. Mae’r sefydliad yn disgrifio ei hun fel ‘llais unedig grwpiau hunan-eiriolaeth a phobl gydag anableddau dysgu yng Nghymru’.

    Pa broblem oedd Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan yn wynebu?

    Daeth Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan at ProMo Cymru am gymorth trwy’r gwasanaeth DigiCymru.

    Roeddent yn awyddus i greu cyfrif TikTok ond ddim yn gwybod ble i gychwyn. Nid oedd gan y staff na’r gwirfoddolwyr brofiad yn creu cynnwys fideo. Nid oeddent yn deall llawer am sut roedd TikTok yn gweithio nac am y pethau pwysig i’w hystyried, fel gosodiadau preifatrwydd a rhagofalon diogelwch wrth ddefnyddio’r app.

    Roeddent angen cyngor arbenigol heb y gost felly daethant at ein gwasanaeth cymorth digidol am ddim i gychwyn.

    Logo TikTok

    Dysgu sut i greu cynnwys ar Zoom

    Cafodd Lucy Palmer, Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu ProMo Cymru, gyfarfod gyda Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan ar Zoom.

    Ar ôl deall y broblem, rhannodd Lucy, sydd wedi creu llawer iawn o gynnwys fideo byr i ProMo, sut y mae hi’n defnyddio’r app. Rhannodd gyfarwyddiadau cam wrth gam i greu a golygu fideo wrth rannu sgrin ei iPad gyda’r rhai ar yr alwad Zoom.

    Roeddent yn gallu gweld sut i greu fideo a’i olygu mewn amser go iawn yn defnyddio TikTok. Awgrymwyd CapCut, adnodd golygu arall, hefyd. Mae CapCut yn adnodd creu a golygu fideo sydd yn gallu cysylltu i TikTok. Mae’n cynnig amrywiaeth eang o dempledi hwyl, deniadol, am ddim gellir eu defnyddio i greu fideos yn sydyn ac yn hawdd.

    Cadw’n ddiogel ar gyfryngau cymdeithasol

    Mae sefydliadau yn aml yn poeni am beryglon cyfryngau cymdeithasol, ac os dylent gysylltu gyda’r llwyfannau yma.

    Y newyddion da ydy bod gan y mwyafrif o apiau cyfryngau cymdeithasol adnoddau i helpu amddiffyn y rhai sydd yn eu defnyddio rhag niwed. Rhannodd Lucy ein cyngor arfer da, gan gynnwys manteision ac anfanteision rhai nodweddion a sut i liniaru’r risg. I egluro hyn defnyddiwyd ein profiad personol, gan rannu’r hyn dysgwyd yn ein hymgyrch ymwybyddiaeth Pride Caerdydd: Mwy Na Mis.

    Cafodd sawl fideo ei rannu ar TikTok yn cyfweld y bobl ifanc yn Pride Cymru. Llwyddodd un fideo i fynd yn feirol, gyda dros 3.5 miliwn yn gwylio. Tra bod hyn yn llwyddiant mawr, daeth hefyd â llith o sylwadau negyddol a homoffobig.

    I amddiffyn y bobl ifanc oedd yn rhan o’r ymgyrch, yn ogystal â’n cynulleidfa, defnyddiwyd yr hidlydd sylwadau ar TikTok i fynd trwy’r sylwadau. Ni oedd yn dewis pa sylwadau oedd yn cael ei gyhoeddi ar y post. Dysgwyd hefyd sut i osod hidlydd i atal geiriau penodol rhag ymddangos yn y sylwadau.

    Canlyniadau

    O ganlyniad sesiynau DigiCymru Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, mae cyfrif TikTok wedi ei greu. Mae hidlydd sylwadau wedi ei osod i gael mwy o reolaeth dros sylwadau ac i amddiffyn y bobl sydd yn cymryd rhan yn y fideos.

    I greu cynnwys, roeddent am ddefnyddio unrhyw ddigwyddiadau roeddent yn ei fynychu fel cyfle i ffilmio cynnwys am yr hyn sydd yn digwydd a chyfweld â rhai oedd yn cymryd rhan. Cyfle i ymarfer y sgiliau dysgwyd yn ystod y sesiynau DigiCymru.

    Ewch draw i weld TikTok Pobl Yn Gyntaf Cymru Gyfan yma a dilynwch.


    Ariannir yr astudiaeth achos hwn drwy Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector, prosiect Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi Trydydd Sector Cymru gyda digidol. I ddarganfod mwy am sut gall y prosiect yma gefnogi eich sefydliad chi, cliciwch y ddolen neu cysylltwch â andrew@promo.cymru

  10. O Gymru i Catalunya: Archwilio Mentrau Ieuenctid Dramor

    by ProMo Cymru | 11th Ion 2024

    Bu tri aelod o’n tîm ar daith astudio gyffrous i Gatalonia yn ddiweddar gyda chyd gynrychiolwyr o Fwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru (yn cynrychioli ProMo Cymru, CWVYS a Youth Cymru).

    Cawsom groeso cynnes gan yr Agència Catalana de la Joventut (Asiantaeth Ieuenctid Catalonia), a chawsom daith o amgylch y rhanbarth yn archwilio mentrau ieuenctid, rhannu arferion da a gwneud cysylltiadau.

    Diwrnod 1: Barcelona

    Cychwynnodd y daith gyda chroeso cynnes yn yr Agència Catalana de la Joventut ym Marcelona. Rhannodd Rut Ribas, Directora General de Joventut, a’i chyd weithwyr, fewnwelediadau gwerthfawr i bolisïau ieuenctid Catalonia, gan drafod pynciau fel iechyd meddwl, amrywiaeth, dwyieithrwydd, a sawl ffactor cyd-destunol sydd yn dylanwadu’r rhanbarth. Ymwelwyd â Phwynt Gwybodaeth Ieuenctid, dysgu am bwrpas dros 300 o bwyntiau gwybodaeth ieuenctid ledled y rhanbarth, a’r 500,000 o ddefnyddwyr sydd yn defnyddio’u cerdyn ieuenctid. Roedd y diwrnod hefyd yn cynnwys ymweliad i ysgol Ail Gyfle Fundacio Comtal, sydd yn canolbwyntio ar addysg a lleoliadau gwaith plant a phobl ifanc sydd mewn perygl cymdeithasol yn Ciutat Vella.

    Diwrnod 2: Girona

    Parhaodd ein hymweliad i ddinas odidog Girona. Ymwelwyd â chanolfan iechyd ieuenctid, ble rhannodd y tîm eu hymgyrchoedd a’r gwaith helaeth yn hyrwyddo iechyd rhyw i bobl ifanc y rhanbarth. Yna, ymwelwyd â Swyddfa Ieuenctid La Selba, gan ddysgu am yr ymgyrch iechyd meddwl ieuenctid anhygoel ‘Cap Caos al Cap’ (Dim Anrhefn yn y Clogyn). Cafwyd cloi’r dydd gydag ymweliad i glwb ieuenctid yn Breda, ble cawsom gyfarfod â gweithwyr ieuenctid a phobl ifanc, yn cael mewnwelediad i’w prosiectau a chael mwynhau gêm o Fifa!

    Gôl! Gêm Fifa llwyddiannus gyda phobl ifanc Breda.

    Diwrnod 3: Y diwrnod olaf

    Gorffennwyd yr ymweliad astudio yn Sant Boi de Llobregat, lle cawsom gyfarfod ag adran ieuenctid y fwrdeistref a chael taith gyfoethog a thrafodaeth am eu gwaith. Cawsom hefyd gyfle i gael blas ar ddiwylliant yr ardal hefyd wrth gwrs!

    Roedd y daith yn llawn dysgu, rhannu a chymharu ein dulliau gwaith ieuenctid ac ymgysylltu, arfer da, a chreu perthnasau parhaol. Teithiom adref gyda gwybodaeth werthfawr fydd yn ein helpu i ddatblygu ein gwaith wrth ddatblygu gwybodaeth ieuenctid digidol a chynllun hawliau ieuenctid yng Nghymru. Byddem yn rhannu ein mewnwelediadau a’n darganfyddiadau mewn adroddiad yn fuan.

    Diolch i Taith am gyllido’r daith gyfoethog hon ac i Agència Catalana de la Joventut am y croeso cynnes a chynllunio taith gynhwysfawr, addysgiadol a phleserus!


    Cyllidwyd y daith astudio hon gan Taith.