Author Archives: Megan Lewis

  1. Rôl Gyda Thâl: Ymuna â’n Tîm Prosiect Llythrennedd Cyfryngau

    by Megan Lewis | 24th Awst 2023

    Wyt ti rhwng 16 a 25 oed, byw yng Ngwent, ac yn barod i wneud gwir wahaniaeth yng Nghymru? Os felly, mae gennym gyfle arbennig gyda thâl i ti!

    Rydym yn chwilio am unigolion ifanc brwdfrydig i ymuno â thîm y prosiect a’n helpu i gynllunio gweithdai llythrennedd cyfryngau a chyfryngau cymdeithasol hwyl i bobl ifanc 11-14 ym Mlaenau Gwent.

    Pwy ydym ni?

    ProMo-Cymru ydym ni, elusen sydd yn cynnal sawl prosiect ieuenctid a chymunedol e.e. Meic, TheSprout, Institiwt Glyn Ebwy. Rydym yn gweithio gyda Ofcom (sydd yn goruchwylio diwydiant cyfathrebu dros y DU) a Chlybiau Bechgyn a Merched Cymru i wella llythrennedd cyfryngau pobl ifanc yng Nghymru. Ac rydym eisiau i ti fod yn rhan o hynny!

    Manylion y rôl

    Byddi di’n chwarae rhan hanfodol yn cynllunio a chyflwyno’r gweithdai yn helpu rhai 11-14 oed i ddeall y byd ar-lein yn well ac i gael profiadau ar-lein mwy positif. Gwneir hyn wrth ddysgu am lythrennedd cyfryngau ac algorithmau ar-lein/cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd ddymunol. Hoffem dy gymorth i siapio’r cynnwys a fformat y gweithdai. Byddi di’n cydweithio â thîm o unigolion o’r un meddylfryd. Ewch ati i feddwl am syniadau, cynllunio a phrofi gweithgareddau i helpu pobl ifanc i lywio’r dirwedd ddigidol yn hyderus.

    Nid oes rhaid i ti fod yn arbenigwr ar y pwnc na fod ag unrhyw brofiad i wneud cais. Rydym yma i ddysgu gyda’n gilydd.

    Byddem yn:
    – cyfarfod rhwng 1 i 3 gwaith yn rhithiol neu mewn person i gynllunio’r sesiynau (Medi/Hydref)
    – cyfarfod wyneb i wyneb i brofi’r gweithgareddau (Medi/Hydref)
    – cyflwyno’r sesiynau i’r bobl ifanc (rhwng Hydref a Chwefror)

    Beth yw’r manteision i ti?

    Edrych yn dda ar y CV: Profiad gwych a sgiliau i roi ar dy CV a cheisiadau swydd neu brifysgol.

    Dysgu gwybodaeth: Cyfle i ddysgu mwy am lythrennedd cyfryngau ac i ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol fydd yn dy osod di ar wahân i eraill.

    Chwaraewr Tîm: Gwella sgiliau cyfathrebu a chydweithio a gwneud cysylltiadau.

    Catalydd am Newid: Gwna wahaniaeth go iawn ym mywydau pobl ifanc Blaenau Gwent. Byddi di’n rhan bwysig o siapio’u dyfodol digidol.

    Derbyn Cyflog: Cyflog byw gwirioneddol am dy amser a dy ymdrech (£10.90 ar hyn o bryd).

    Ymuna â ni!

    Llenwa’r ffurflen gais sydyn yma wrth glicio isod, ac fe fyddwn mewn cysylltiad i drefnu sgwrs anffurfiol!

    E-bostia sarah@promo.cymru gydag unrhyw gwestiynau.

    Ofcom Media Literacy information image
  2. Dathlu Hanes Pobl Dduon a Chymru yn EVI

    by Megan Lewis | 18th Hyd 2022

    Ymunodd dros 70 o aelodau’r gymuned â ni yn ein Canolfan Cymunedol a Diwylliannol hanesyddol EVI i ddathlu rhan bwysig o hanes Cymru. wrth i ni gynnal Te Prynhawn a dangos ffilm i ddathlu’r ffaith ein bod yn cynnal arddangosfa ‘Gadewch i Paul Robeson Ganu’.

    Mae ProMo-Cymru (gwarcheidwaid Institiwt Glyn Ebwy EVI) wedi bod yn falch iawn o gael cynnal yr arddangosfa ysbrydoledig ‘Gadewch i Paul Robeson Ganu’ gan Lyfrgell y Glowyr De Cymru ym Mhrifysgol Abertawe, yn dangos bywyd ysbrydoledig yr actor, canwr ac actifydd hawliau sifil, Paul Robeson. I ddathlu, roedd EVI wedi creu Te Prynhawn blasus yng Nghaffi’r EVI a dangoswyd y ffilm The Proud Valley (1940), am ddim i bawb diolch i arian Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU*.

    Hanes Cymru

    Mae’r arddangosfa wych yma yn edrych ar siwrne Robeson wrth iddo wynebu anfantais ac anoddefgarwch, ei gysylltiad gyda glowyr De Cymru, a’i waith yn hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb hiliol.

    Rydym wedi bod yn falch iawn i gael dychwelyd stori Robeson i Lyn Ebwy, 64 mlynedd yn ddiweddarach ers ei ymddangosiad enwog yn Eisteddfod Genedlaethol Glyn Ebwy 1958 lle dywedodd wrth y dorf, “Rydych chi wedi siapio fy mywyd – rwyf wedi dysgu gennych chi.”

    Mae’r EVI ei hun yn chwarae rhan bwysig iawn yn hanes, gorffennol, presennol a dyfodol Blaenau Gwent a’r ardal gyfagos. Mae’r adeilad 170 oed yn adlewyrchu treftadaeth gymdeithasol a diwydiannol tref Glyn Ebwy, oedd cynt yn darparu hyfforddiant haearn, dur a glo i’r ardal.

    Mae’r EVI wedi cadw addysg wrth ei galon dros y blynyddoedd. Mae’r gwaith yma yn parhau yma heddiw, wrth i ni weithio gyda chymunedau lleol a thu hwnt i greu canolfan rhagoriaeth i fod yn falch ohoni, lle gall pobl gymryd rhan, dysgu, creu a chael eu hadlonni, gan gadw i ethos gwreiddiol Institiwt Glyn Ebwy.

    Llwyddiant y Lansiad

    Roedd lansiad yr arddangosfa yn llwyddiant mawr, gydag adolygiadau gwych i’r Caffi yn EVI a phrynhawn da yn cymdeithasu, dysgu, ac yn hel atgofion.

    “Roedd yn brynhawn dymunol iawn. Mewnwelediad gwych i fywyd pyllau glo De Cymru a bywyd ysbrydoledig Paul Robeson.”

    “Prynhawn hyfryd yn cymdeithasu gyda chwmni gwych a chyfarfod pobl newydd. Te Prynhawn lyfli gan y caffi, ac roeddwn i wedi mwynhau gweld ‘The Proud Valley’ unwaith eto am y tro cyntaf ers 40 mlynedd.”

    Wrth i’r arddangosfa ddod i ben yr wythnos hon, hoffwn ddiolch i Lyfrgell y Glowyr De Cymru a holl aelodau’r gymuned sydd wedi ymweld i ddysgu am stori Robeson a’i ran bwysig yn hanes Du a Chymru yn EVI, yr institiwt hynaf yng Nghymru.

    Ewch i weld digwyddiadau sydd i ddod yn EVI yma.


    *Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU yn rhaglen Llywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Y bwriad ydy cefnogi pobl a chymunedau sydd â’r angen mwyaf ledled y DU i gynnal rhaglenni peilot a dulliau newydd i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymunedau a llefydd busnesau lleol, ac yn cefnogi pobl i mewn i swyddi. Am wybodaeth bellach, cliciwch yma.

  3. Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn Ymweld â Institiwt Glynebwy (EVI)

    by Megan Lewis | 16th Awst 2022

    Mae’r Gwir Anrh Robert Buckland QC AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi bod yn ymweld â EVI yng Nglynebwy i weld nifer o brosiectau sydd yn cael eu cefnogi gan y Gronfa Adnewyddu Cymunedol ym Mlaenau Gwent.

    Mae EVI yn darparu cyfleoedd i wella iechyd a lles ac yn datblygu hyfforddiant a chyfleoedd profiad gwaith. Roedd EVI a ProMo-Cymru (gwarcheidwaid EVI) yn hapus iawn i siarad gyda Syr Robert Buckland yn ystod ei ymweliad.

    Mae Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU wedi cefnogi EVI i ailagor ei ddrysau i’r cyhoedd ar ôl cau yn rhannol yn ystod y pandemig. Mae’r tîm wedi bod yn brysur yn datblygu gwasanaethau, hyfforddiant, a gweithgareddau i gefnogi Glynebwy a chymunedau ehangach Blaenau Gwent. Daeth dros 350 o aelodau’r gymuned i helpu dathlu ailagor EVI gydag wythnos yn llawn gweithgareddau a gweithdai am ddim i bob oedran. Ymwelwch â’n gwefan i ddarganfod mwy www.evi.cymru

    Marco Gil-Cervantes, Prif Weithredwr ProMo-Cymru (chwith), Syr Robert Buckland, Ysgrifennydd Gwladol Cymru (canol) a Sian Tucker, Rheolwr Canolfan EVI (dde)

    Mae’r ailddatblygiad wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU, yn gwobrwyo £260,782 o gyllid i EVI. Mae hyn wedi caniatáu i EVI gyflwyno amrywiaeth o ddosbarthiadau, gweithdai a digwyddiadau llesiant a diwylliannol, hyfforddiant achrededig, datblygu mentrau cymdeithasol, gweithgareddau teuluol, cefnogaeth sgiliau busnes a digidol, lleihau ôl troed carbon ac agor caffi cymunedol!

    Cafodd yr Ysgrifennydd Gwladol ei dywys o amgylch yr adeilad, yn siarad gyda staff, gwirfoddolwyr, ac aelodau’r gymuned am ganlyniadau positif yr arian yma. Rhannwyd pa mor brysur yr oeddent yn datblygu gwasanaethau, cyfleoedd hyfforddiant, a llawer o weithgareddau eraill i gefnogi Glynebwy a chymunedau ehangach Blaenau Gwent. Rhannodd y tîm eu cynlluniau i sefydlu banc bwyd, brwydro yn erbyn gwastraff bwyd, clybiau cinio i deuluoedd, dosbarthiadau iechyd a lles, cyfleoedd hyfforddiant… a sefydlu côr!

    Dywedodd Marco Gil-Cervantes, Prif Weithredwr ProMo-Cymru, “Rydym yn ddiolchgar iawn am yr arian o Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU, sydd, ynghyd â chefnogaeth Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Blaenau Gwent a’r Loteri Fawr, wedi helpu’r canolfan elusennol, cymunedol a diwylliannol yma i symud ymlaen. Rydym yn falch iawn o gael croesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru yma heddiw i gael dangos ein gwaith cymunedol.”

    Dywedodd cynrychiolydd o’r Cyngor Sir, “Roedd yn wych i gael gweld y prosiectau sydd yn derbyn arian gan y Gronfa Adnewyddu Cymunedol heddiw ac i gael gweld y gwaith ffyniant pwysig sydd yn digwydd mewn cymunedau fel Glynebwy. Mae’r gwaith ac ymroddiad y tîm yn EVI, a phawb arall sydd yn cynnig cefnogaeth iddynt, wedi creu argraff fawr. Mae’r gwaith yma mor bwysig. Rwy’n eu llongyfarch am fod yn benderfynol i ddarparu gwasanaethau, hyfforddiant a gweithgareddau i helpu pobl i gael gwaith ac i wella iechyd a llesiant ym Mlaenau Gwent.”

    Chwith i dde: Marco Gil-Cervantes (Prif Weithredwr ProMo-Cymru), Sue Harris (Rheolwr Menter Gymdeithasol ProMo-Cymru), Tara Lane (Cyngor Blaenau Gwent), AS Alun Davies (AS Blaenau Gwent), Syr Robert Buckland (Ysgrifennydd Gwladol Cymru) a Sian Tucker (Rheolwr Canolfan EVI)

    Cyfryngau Cymdeithasol EVI:

    Facebook

    Instagram

    Twitter

    Gwefan

    Manylion UKCRF

    Mae Cronfa Adfywio Cymunedol y DU (UKCRF) yn rhaglen Llywodraeth y DU ar gyfer 2021/22. Nod hwn yw cefnogi pobl a chymunedau sydd fwyaf mewn angen ledled y DU i dreialu rhaglenni a dulliau newydd i baratoi ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredinol y DU. Mae’n buddsoddi mewn sgiliau, cymuned a lleoedd, busnes lleol, a chefnogi pobl i mewn i gyflogaeth. Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.gov.uk/government/publications/uk-community-renewalfund-prospectus

    Manylion EVI

    EVI – Institiwt Glynebwy – adeilad llawn hanes a diwylliant. Wedi ei sefydlu yn 1849 i hyrwyddo cyfnewidfa ddiwylliannol yn y gymuned, gorweddai’n wag am sawl blwyddyn cyn mynd drwy broses o adnewyddiad mawr gan ProMo-Cymru wedi ei gefnogi gan Gyngor Blaenau Gwent a Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Loteri Fawr. Yn 2019 derbyniodd EVI £249,867 gan Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru i gyflawni nifer o welliannau i’r adeilad.

    Mae’r adeilad bellach yn darparu rhaglen o weithgareddau creadigol, dysgu a datblygiadau menter gymdeithasol, yn helpu i adfywio economi Blaenau Gwent.

    Mae’r cyfleusterau yn cynnwys gofodau hyfforddiant a chyfarfod, stiwdio recordio broffesiynol, caffi, bar a gofod perfformiadau byw.

    Mae EVI yn gartref i sawl sefydliad, gan gynnwys Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent, Leeders Vale, N-Gage Gwent, Cymorth i Ferched Cyfannol a Hyfforddiant ACT.

  4. Croeso Sue

    by Megan Lewis | 6th Gor 2022

    Mae Sue yn ymuno fel Rheolwr Mentrau Cymdeithasol.

    Mae’n Rheolwr Gweithredoedd profiadol gyda hanes llwyddiannus yn y trydydd sector a manwerthu gyda chymwysterau Arweinyddiaeth a Rheoli. Mae ganddi brofiad mewn gwerthu, gwasanaeth cwsmer, trosglwyddo elw, datblygiad, rheoli pobl a manwerthu amlsianel.

    Yn flaenorol, mae Sue wedi bod yn gweithio i gefnogi pobl yng nghartrefi eu hunain sydd mewn perygl o ddigartrefedd oherwydd tenantiaeth yn chwalu, gan annog dysgu a datblygiad yn y gymuned.

    Fel Rheolwr Menter Gymdeithasol, mae swydd Sue yn ProMo yn ymwneud â chefnogi gweithredu masnachol fel ein bod yn sefydliad cynaliadwy sydd yn parhau i gynyddu ein gwaith gyda phobl ifanc a chymunedau.

    “Rwy’n edrych ymlaen cael cefnogi ProMo i sicrhau bod EVI yn parhau i gael ei weld fel ased cymunedol gwerthfawr, ac i’w helpu i barhau i gefnogi pobl ifanc i ddysgu a chael profiadau newydd sydd yn cael effaith positif ar eu dyfodol.”

    Croeso i’r tîm Sue!

  5. Croeso Sian

    by Megan Lewis | 6th Gor 2022

    Mae Sian yn ymuno gyda ni fel Rheolwr Canolfan yn ein canolfan Cymunedol a Diwylliannol, Institiwt Glynebwy (EVI).

    Mae gan Sian brofiad maith mewn datblygiad cymunedol ac wedi ei chymwysterau mewn Polisi Cymdeithasol a Dysgu Gydol Oes. Wrth weithio gyda chymunedau ledled Cymru ar amrywiaeth o brosiectau, mae wedi bod yn rhan o:

    – Gweithio mewn pum ardal Cymunedau’n Gyntaf i helpu grwpiau sydd heb sgiliau digidol i greu archif digidol

    – Rheoli Canolfan y Mynydd Du ym Mrynaman Uchaf, canolfan gymunedol gyda chanolfan cynadleddau, caffi, meddygfa, llyfrgell ac ystafell TG

    – Gweithio ar y prosiect Lleisiau Cymunedol DWR yn helpu tri phentref bach i lobïo am gyflymdra 20mya yn agos at yr ysgolion cynradd lleol – yn tynnu’r pentrefi at ei gilydd a thanio ysbryd cymunedol unwaith eto

    – Gweithio gyda’r gymuned sglerosis ymledol (MS) yng Nghymru yn trefnu gweithgareddau, lobïo am fynediad gwell i driniaeth ac yn cefnogi unigolion sydd wedi derbyn diagnosis o MS

    “Mae’n bleser i gael fy newis am y swydd o Reolwr Canolfan yn EVI ac rwy’n gyffrous iawn i ymuno gyda thîm mor ymroddgar. Edrychaf ymlaen at ail-agor y caffi a datblygu gwasanaethau a gweithgareddau newydd ar gyfer cymuned Glynebwy a Blaenau Gwent. Fy nod yw creu Canolfan Cymunedol a Diwylliannol gall y gymuned cyfan fod yn falch ohoni.”

    Croeso i’r tîm Sian!