Wyt ti’n wneuthurwr newid sy’n frwd dros siapio dyfodol iechyd meddwl pobl ifanc yng Ngwent? Mae Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) yn recriwtio pobl ifanc 16-24 oed sy’n byw ym Mlaenau Gwent, Caerffili neu Dorfaen i ymuno â ni fel Cynllunwyr Gwasanaeth Cyfoed.
Gwybodaeth gefndir
Yn ystod blwyddyn gyntaf ein prosiect, bu Meddwl Ymlaen Gwent yn ymchwilio i brofiadau pobl ifanc o wasanaethau iechyd meddwl yng Ngwent.
Cyflogwyd 10 o ymchwilwyr cyfoed i helpu i siarad â’u cyfoedion, dadansoddi data, canfod themâu allweddol, ac ysgrifennu adroddiad i rannu ein canfyddiadau. Cyhoeddwyd ein Hadroddiad Darganfod ym mis Hydref 2023, ac roedd yn cynnwys 7 prif fewnwelediad yr hoffem fwrw ymlaen â hwy yng ngham nesaf y prosiect.
Rydym yn chwilio am bobl ifanc i ymuno â’r grŵp i helpu i symud ymlaen â’r prosiect dros y flwyddyn nesaf. Fel Cynllunydd Gwasanaeth Cyfoed, byddi di ar flaen y gad o ran esblygiad prosiect MYG, gan drawsnewid mewnwelediadau o’n cyfnod ymchwil yn atebion diriaethol.
Oes gen ti’r canlynol…?
– Brwdfrydedd dros sbarduno newidiadau cadarnhaol yn y system iechyd meddwl
– Sgiliau cyfathrebu cadarn, gan gynnwys gwrando a chyflwyno
– Ymrwymiad a pharodrwydd i ddysgu sgiliau newydd
– Ymwneud â chymunedau neu grwpiau o bobl ifanc (e.e. clybiau chwaraeon, grwpiau LHDTC+, ac ati)
Gall y tasgau gynnwys:
– Ymchwilio i anghenion pobl ifanc yn dy gymunedau, yn seiliedig ar yr Adroddiad Darganfod
– Cymryd rhan weithredol mewn grwpiau ffocws, sesiynau mapio meddwl, a gweithdai gyda dy gyfoedion, cydweithwyr a rhanddeiliaid
– Rhwydweithio â phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda nhw yn dy gymunedau
– Datblygu prototeipiau gyda chymorth cyd-gynllunwyr a staff gwasanaethau cyfoed
– Mynd i ddigwyddiadau preswyl i bobl ifanc a chyfarfodydd wyneb yn wyneb
Beth yw’r manteision i ti?
– Rhoi hwb i hyder drwy rannu dy lais a’th syniadau mewn lle diogel
– Dylanwadu ar newid cadarnhaol mewn cymunedau ar draws Gwent
– Gwaith rhan-amser, gyda chyfarfodydd rhithiol ac wyneb yn wyneb (fel arfer rhwng dydd Llun a dydd Mercher rhwng 3pm a 6pm)
– Mynediad at gyfleoedd hyfforddi perthnasol i wella dy sgiliau a’th CV
– Staff cefnogol sydd eisiau gweld ti’n ffynnu
– Oddeutu 10 awr y mis ar gyfradd y Cyflog Byw Cenedlaethol (£12 yr awr)
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 18fed Mawrth 2024.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliadau a gynhelir dros Zoom ar 2il, 3ydd neu 11eg o Ebrill.
Os oes gen ti unrhyw gwestiynau neu os wyt ti angen cymorth i lenwi’r ffurflen gais, cysyllta ag aelod o dîm Prosiect Meddwl Ymlaen ar info@mindourfuturegwent.co.uk.
Ydych chi’n werthuswr profiadol sy’n frwd dros gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl pobl ifanc? Rydym yn chwilio am werthuswr medrus i weithio mewn partneriaeth â ni i werthuso ein prosiect pum mlynedd uchelgeisiol, sef Meddwl Ymlaen Gwent (MYG).
Mae MYG, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac yn cael ei arwain gan ProMo Cymru a Mind Casnewydd, yn dechrau ei ail flwyddyn yn 2024 gyda gweledigaeth i ddylunio atebion arloesol ar gyfer heriau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc yng Ngwent.
Gwybodaeth am Meddwl Ymlaen Gwent (MYG):
Mae MYG yn ymdrechu i atal a lliniaru heriau iechyd meddwl i bobl ifanc yng Ngwent.
Wedi’i gyd-ddylunio gyda phobl ifanc ac yn cael ei arwain gan Mind Casnewydd a ProMo Cymru, mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ganfod bylchau mewn gwasanaethau, adeiladu ar fentrau llwyddiannus, a datblygu dulliau newydd o gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc.
Amcanion Gwerthuso:
Rydym yn gwahodd gwerthuswyr profiadol i wneud y canlynol:
– Arwain ein tîm staff wrth ddewis y dulliau gwerthuso gorau.
– Helpu i ddatblygu dogfennau gwerthuso mewnol i sicrhau bod data cynhwysfawr yn cael ei gasglu.
– Diffinio canlyniadau mesuradwy i ddangos tystiolaeth o lwyddiant y prosiect.
– Cefnogi’r gwaith o grynhoi astudiaethau achos ac adroddiadau monitro.
– Gwerthuso’r prosiect yn gyfannol a llunio adroddiad terfynol erbyn Hydref 2027.
Cyflwyno Eich Cynnig:
Rydym wedi dyrannu cyllideb o £5,000 y flwyddyn ar gyfer blynyddoedd 2, 3, 4 a 5.
Mae ceisiadau ar gyfer y swydd hon yn cau ar 18fed Mawrth 2024.
Mewn tirwedd ddigidol sydd wastad yn newid, mae Meic yn ymdrechu i sicrhau bod gwybodaeth yn hawdd i’w ddarganfod er mwyn cefnogi lles plant a phobl ifanc Cymru.
Prosiect datblygu gwe Meic
Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth i rai dan 25 oed yng Nghymru. Mae’n cael ei reoli gan ProMo Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r gwasanaeth wedi gwella’r profiad i’w defnyddwyr wrth gyflwyno tudalennau ‘Cael Help‘ newydd ar wefan www.meic.cymru. Mae’r datblygiad yn rhan o’u hymrwymiad i sicrhau ei bod yn hawdd i bobl ifanc fedru darganfod gwybodaeth a chyngor hanfodol am y materion sydd yn bwysig iddyn nhw.
Datblygu rhyngwyneb cyfeillgar gyda chategorïau wedi’u teilwro
Cyn y datblygiad yma, roedd rhaid i ddefnyddwyr ddefnyddio’r bar chwilio i ddarganfod blogiau perthnasol. Nid oedd hyn yn broses hawdd os nad ydych chi’n gwybod yn union yr hyn rydych yn chwilio amdano. Mae’r tudalennau ‘Cael Help’ newydd wedi’u gosod yn amlwg ar y dudalen gartref er mwyn cael mynediad hawdd.
Ceir categorïau ac is-gategorïau penodol ar y tudalennau ‘Cael Help’. Mae pob pwnc yn ymateb i agweddau penodol bywydau pobl ifanc, fel iechyd meddwl, galar, e-smygu, bwlio, straen arholiadau, problemau ariannol, a gwneud ffrindiau.
Mae’r blogiau wedi’u tagio ar draws sawl categori perthnasol, yn rhoi’r cyfle gorau i’r plant a’r bobl ifanc i ddarganfod y wybodaeth maent yn chwilio amdano.
Wrth gategoreiddio fel hyn, mae tîm Meic wedi gweld ble mae’r bylchau yn y cynnwys. Maent wedi datblygu cynllun cynnwys i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu darganfod y wybodaeth maent yn chwilio amdano.
Cymorth holistig
Mae Meic yn deall pwysigrwydd dull holistig tuag at les ac iechyd meddwl. Mae’r tudalennau ‘Cael Help’ yn cynnwys dolenni i wasanaethau allanol sydd yn arbenigo mewn heriau penodol. Mae’r we o adnoddau rhyng-gysylltiedig yma yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu cael mynediad i’r help sydd ei angen y tu hwnt i lwyfan Meic.
Wrth ddarparu gwybodaeth a chyngor ar y tudalennau ‘Cael Help’, y gobaith yw y bydd plant a phobl ifanc yn gallu cael mynediad i’r cymorth yma yn amser eu hunain pan fyddant ei angen. Mae hyn o fudd i’r bobl ifanc sydd eisiau cymorth anffurfiol ond ddim eisiau sgwrsio gyda rhywun. Mae’r rhai sydd angen cymorth pellach yn cael eu cyfeirio a’u hannog i siarad gyda’r cynghorwyr ar linell gymorth Meic.
Golwg a theimlad newydd
Yn 2023, lansiodd Meic ei gyfrif TikTok. Y bwriad oedd cyrraedd mwy o blant a phobl ifanc yng Nghymru a darparu cymorth yn y gofodau ble maent yn treulio’u hamser yn barod.
Gyda’r datblygiad yma, mae pobl ifanc wedi cyd-gynhyrchu golwg a theimlad newydd i’r llwyfan, sydd wedi cynnwys creu masgotiaid categori. Mae’r cymeriadau digidol yma, sydd wedi’u darlunio â llaw, yn cynrychioli’r categori ac yn helpu i egluro’r cynnwys. Mae esiamplau yn cynnwys mochyn ar gyfer y categori arian a deilen ar gyfer y categori amgylchedd. Mae’r adran ‘Cael Help’ yn defnyddio’r golwg newydd yma i ddangos y cynnwys ac i sicrhau cysondeb rhwng y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r wefan yn gwbl ddwyieithog gan gynnig hyblygrwydd i’r defnyddwyr wrth ddewis eu hiaith.
Canlyniadau
Mae cyflwyniad y tudalennau ‘Cael Help’ yn nodi cam sylweddol yng nghenhadaeth Meic i rymuso pobl ifanc Cymru.
Gyda chynllun sydd yn gyfeillgar i’r defnyddiwr, cynnwys blog cyfoethog, a dolenni i wasanaethau allanol, mae Meic yn sicrhau nad llinell gymorth yn unig yw’r gwasanaeth, ond canolbwynt o gymorth a gwybodaeth.
Wrth i blant a phobl ifanc lywio trwy gymhlethdodau bywyd, mae Meic yma i wrando, helpu, arwain a chefnogi ieuenctid Cymru.
Mae Meddwl Ymlaen Gwent (MYG) yn brosiect pum mlynedd sydd yn cael ei redeg gan ProMo Cymru a Mind Casnewydd ac yn cael ei ariannu drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae partneriaid y prosiect yn cynnwys sefydliadau Mind lleol a gwasanaethau ieuenctid yng Ngwent.
Mae’r prosiect MYG yn dilyn proses Cynllunio Gwasanaeth, methodoleg sydd yn creu gwasanaethau gwell. Mae pedwar cyfnod i’r broses yma – Darganfod, Diffinio, Datblygu a Chyflawni.
Yr ymchwil
Cychwynnom y prosiect gyda darn o ymchwil Darganfod. Roeddem eisiau deall anghenion pobl ifanc Gwent a’r dirwedd cymorth yn well.
Y nod yw cynllunio ffyrdd newydd i atal heriau iechyd meddwl rhag datblygu neu waethygu yng Ngwent, a sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn y cymorth cywir ar yr amser cywir, ble bynnag yr ânt am gymorth.
Cyflogwyd grŵp o ymchwilwyr cyfoed o Went i helpu gyda’r ymchwil. Mae’r ymchwilwyr cyfoed yn cynrychioli’r pum ardal awdurdod lleol yng Ngwent: Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, a Torfaen.
Bydd yr ymchwil Darganfod a’r darganfyddiadau yn ein helpu i adnabod prif feysydd ar gyfer gwelliant i’r prosiect ganolbwyntio arnynt wrth symud ymlaen. Ar ôl penderfynu ar y blaenoriaethau, byddem yn datblygu syniadau ac yn dechrau profi’r rhain. Byddem yn dysgu o’r profion, yn mwyhau’r syniadau, ac yn cyflawni’r datrysiadau.
Mae Adroddiad Darganfod Meddwl Ymlaen Gwent yn rhoi trosolwg o’r ffordd rydym ni’n casglu data a prif fewnwelediadau o’r ymchwil.
Y prif fewnwelediadau oedd:
1 – Mae angen i staff fod yn ddibynadwy, yn gyfeillgar a’u bod yn deall wrth gynnal proffesiynoldeb
2 – Mae angen i wasanaethau fod yn hyblyg ac yn hygyrch i bawb
3 – Mae yna ddiffyg gwybodaeth ymysg pobl ifanc am y gwasanaethau iechyd meddwl sydd yn agored iddynt yng Ngwent
4 – Mae angen cysondeb ar bobl ifanc, yn enwedig wrth drosglwyddo o fewn, a rhwng, gwasanaethau
5 – Mae profiadau negyddol o wasanaethau yn creu rhwystr i bobl ifanc wrth chwilio am, a chael mynediad i, gymorth
6 – Mae ofni stigma yn cael effaith ar barodrwydd person ifanc i ofyn am gymorth
7 – Mae pobl ifanc angen y cymorth cywir ar yr adeg gywir
Mae pob mewnwelediad yn cael ei archwilio mewn mwy o fanylder yn yr Adroddiad Darganfod, gyda dyfyniadau gan rai o’r 203 person ifanc 11-27 oed o ledled Gwent a gafwyd eu cyfweld gan eu cyfoedion.
Cefnogaeth gan Rhanddeiliaid
Wrth i ni symud yn ei blaen i gyfnodau Diffinio a Datblygu’r broses Cynllunio Gwasanaeth, edrychwn ymlaen at weithio gyda rhanddeiliad o Went fydd yn gallu helpu ni i gyrraedd ein nodau.
Os oes gennych chi neu eich sefydliad ddiddordeb yn y gwaith yma, e-bostiwch info@mindourfuturegwent.co.uk i gofrestru am ein rhestr bostio.
Rydym yn arbennig o awyddus i rwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio gyda phobl yng Ngwent, yn enwedig y rhai sydd yn ymwneud ag iechyd meddwl pobl ifanc.
Bydd ein rhanddeiliaid ymysg y cyntaf i ddysgu am ddiweddariadau’r prosiect ac yn derbyn gwahoddiad i ymuno â ni ar gyfnodau gwahanol y prosiect.
Mae’n teimlo fel bod pawb ym mhobman yn siarad am AI’r dyddiau hyn. Ond a ddylai trydydd sector Cymru fod yn troi tuag ato i helpu gyda’u gwaith? Arhoswch efo ni i ddysgu mwy.
Beth yw Deallusrwydd Artiffisial (AI)?
Meddyliwch am AI fel ymennydd cyfrifiadurol deallus sydd yn gallu dysgu i wneud pethau fel y gallwn ni. Mae’n gallu deall a dysgu o wybodaeth ac yn gallu gwneud penderfyniadau.
Edrychwch ar eich bywyd bob dydd ac mae’n debyg y bydd deallusrwydd artiffisial o’ch cwmpas heb i chi sylweddoli. Efallai’n awgrymu pa ffilm neu sioe deledu i wylio nesaf, yn helpu eich cyfrifiadur i’ch deall pan fyddech chi’n siarad ag ef, ac (yn y dyfodol agos iawn yn y DU) yn gyrru’r car i chi.
Mae AI yn gallu gwneud pethau’n fwy sydyn, yn fwy clyfar, ac yn fwy cyfleus i’r defnyddiwr. Mae’n dysgu o’r wybodaeth sydd yn cael ei roi, ac yn gwella yn cwblhau tasgau, yn union fel yr ydym ni’n dysgu o’n profiadau. Mae’n datblygu o hyd ac yn dod yn fwy cywir dros gyfnod.
Sut gall AI eich helpu chi gyda’ch gwaith?
Mae elfennau o AI yn y systemau a’r meddalwedd rydym yn ei ddefnyddio bob dydd. Esiampl o hyn yw Google Search sydd yn cael ei bweru gan AI, yn helpu peiriannau chwilio i ddarganfod gwybodaeth yn sydyn. Gall AI ddysgu llawer o ddata yn sydyn a chyflwyno allbwn mewn mater o eiliadau. Golygai hyn eich bod yn cael atebion i’ch problemau mewn ffordd effeithiol iawn.
Un o fuddiannau mwyaf cyffredin deallusrwydd artiffisial yw’r gallu i awtomeiddio gwaith diflas gyda llai o gamgymeriadau. Er enghraifft, defnyddio AI i yrru nodyn atgoffa cyfarfodydd neu i ddiweddaru gwybodaeth mewn cronfa ddata. Mae peiriant yn dysgu o batrymau, felly mae’n cadw’r gwaith digidol yma yn gywir ac yn ddibynadwy, gan nad oes camgymeriadau dynol. Os yw AI yn cymryd y tasgau ailadroddus, fel trefnu ffeiliau neu e-byst, mae’n arbed amser, a gallem ni ganolbwyntio ar dasgau sydd yn bwysicach neu’n fwy diddorol.
Mae chatbots sydd yn cael eu pweru gan AI wedi tyfu yn eu poblogrwydd. Mae sawl canolfan gwasanaethau cwsmer yn defnyddio chatbots i helpu pobl i ddatrys problemau. Er bod lle i wella, y syniad yw bod problemau llai yn gallu cael eu datrys gan chatbot. Yna, mae person go iawn yn gallu rhoi cymorth cynt i’r rhai sydd â phroblemau mwy cymhleth.
Mae AI wedi datblygu i fod yn fwy nag testun yn unig. Mae cyfrifiaduron yn gallu deall iaith ddynol gan ddefnyddio AI. Pan fyddech chi’n siarad â’ch cyfrifiadur, ffôn, neu ddyfais glyfar, mae’n deall yr hyn sydd yn cael ei ddweud. Os ydych chi wedi defnyddio Alexa gan Amazon, Siri gan Apple, neu Google Assistant, yna rydych chi wedi cyfathrebu ag AI. Agwedd mwy newydd o AI yw’r gallu i greu cynnwys sydd ddim yn destun, fel cerddoriaeth, gwaith celf a graffeg.
Beth yw’r peryglon a’r heriau o ddefnyddio AI?
Mae AI yn gwella drwy’r adeg, ond mae angen bod yn wyliadwrus ac ystyried y problemau posib wrth ei ddefnyddio.
Un o broblemau AI yw ei fod yn dysgu o ddata sydd yn cael ei ddarparu gan bobl. Os yw’r data yma yn anghywir, annibynadwy, neu’n annheg, mae’n gallu cael effaith ar benderfyniadau AI. Er yn anfwriadol o bosib, mae gan bob system AI fiasau yn ddibynnol ar y sawl sydd wedi’i greu ac wedi mewnbynnu’r data. Gallai hyn effeithio ar bethau fel pwy sydd yn cael benthyciad neu swydd. Yn y dwylo anghywir, gall hyn olygu bod peiriannau yn dysgu pethau peryglus. Mae hyn yn amlygu’r pwysigrwydd o foesau wrth ddatblygu offer digidol AI.
Mae nifer o bobl yn poeni y bydd AI yn dileu’r angen am bobl i wneud swyddi. Yn yr un modd, mae yna bryderon y bydd dibynnu gormod ar AI yn gallu gwneud pobl yn fwy dibynnol ar beiriannau, gan arwain at golli sgiliau neu wybodaeth bresennol. Er esiampl, mae defnyddio tiliau awtomataidd mewn siopau yn golygu nad oes angen aelod o staff wrth bob til. Mae yna ddadl i’r gwrthwyneb sydd yn awgrymu bod gostyngiad mewn rhai swyddi yn arwain at gynyddiad mewn eraill – fel mecaneg i drwsio’r peirannau a pheiriannydd i ddatblygu’r AI.
Mae yna bryderon preifatrwydd a diogelwch ynghlwm â AI hefyd. Peryglon fel hacio systemau AI a’i ddefnyddio mewn modd negyddol, fel rhannu gwybodaeth ffug. Gan fod AI yn cael mynediad i ddata preifat, fel ein gweithgareddau ar-lein a gwybodaeth gyswllt, gall peryglon fel hacio arwain at broblemau preifatrwydd os nad yw’r wybodaeth yma wedi ei gadw’n ddiogel.
Archwilio gallu AI
Y ffordd orau i ddeall gallu dealltwriaeth artiffisial yw wrth archwilio eich hun.
Pwynt cychwyn da yw defnyddio ffynhonnell OpenAI am ddim fel Google Bard neu ChatGPT (3.5) i ddod i ddeall gallu AI. Teipiwch eich awgrym yn y blwch chwilio ac edrychwch ar y canlyniadau.
Archwiliwch feddalwedd rydych chi’n defnyddio ar gyfer eich gwaith eisoes, fel Canva. Mae’n gallu bod yn ffordd dda i archwilio gallu AI sydd ddim yn destun. Gwybodaeth bellach am hyn yma.
Gwrandewch ar y podlediad ERYICA yma wedi ei gyflwyno gan Bennaeth Datblygiad ProMo-Cymru, Arielle Tye, yn archwilio’r effaith mae AI yn ei gael ar wybodaeth ieuenctid digidol. Ceir sgwrs â Alexandre Sayad, academydd ac ymchwilydd AI a moeseg a chyd-gadeirydd Cynghrair Gwybodaeth a Llythrennedd Cyfryngau UNESCO.
Os hoffech ddysgu mwy am y ffordd mae AI yn gweithio, yna mae gwefannau fel Coursera a edX yn cynnig cyrsiau am ddim a rhai gellir talu amdanynt ar AI a dysgu peiriant.
Os hoffech archwilio sut gall AI helpu eich sefydliad Trydydd Sector ymhellach, neu os oes gennych chi unrhyw broblemau pellach hoffech gyngor arno, yna beth am sesiwn am ddim DigiCymru gydag un o’n harbenigwyr digidol? Manylion pellach yma.
Ariannir yr adnodd hwn drwy Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector, prosiect Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi Trydydd Sector Cymru gyda digidol. I ddarganfod mwy am sut gall y prosiect yma gefnogi eich sefydliad chi, cliciwch y ddolen neu cysylltwch â andrew@promo.cymru
Os ydych chi’n chwilio am ffyrdd rhad a chyflym i greu cynnwys gweledol sydd yn edrych yn broffesiynol yna efallai bydd nodweddion deallusrwydd artiffisial (AI) Canva yn gallu helpu. Lle da i gychwyn os ydych chi angen cymorth i wella’ch dyluniadau.
Beth yw Canva, a beth yw’r buddiannau i sefydliadau dielw?
Mae Canva yn declyn dylunio graffeg wych i rai sydd megis cychwyn, am ddim i sefydliadau dielw trwy ‘Canva for Nonprofits‘.
Gallech ddefnyddio Canva yn eich porwr gwe neu ei lawr lwytho fel app. Mae’n rhwydd i dimau cydweithio ar brosiectau pan fyddant yn gweithio o bell. Mae’n caniatáu i chi gydweithio mewn amser go iawn i rannu a golygu dyluniadau, darparu adborth, a sicrhau cysondeb negeseuon a brandio.
Mae’r templedi sydd ar gael a’r rhyngwyneb hawdd ei ddefnyddio yn golygu y gellir addasu popeth i weddu anghenion eich sefydliad. Pan mae cyllidebau’n dynn, a dyw meddalwedd dylunio drud neu ddylunydd proffesiynol ddim yn opsiwn, gall Canva helpu.
Mae’r nodwedd hwb brandio yn caniatáu i sefydliadau gynnal hunaniaeth weledol gyson wrth greu cynnwys. Llwythwch eich logo, ffontiau, a lliwiau penodol, ac yna gallwch ychwanegu’r rhain i’ch dyluniadau’n hawdd.
Gallwch greu amrywiaeth o gynnwys digidol, o fideos, cyflwyniadau, cyfryngau cymdeithasol a gwefannau! Mae hyblygrwydd Canva yn wych i sefydliadau dielw.
Dylech chi fod yn ymwybodol o’r gwrthdaro moesol bosib o ddefnyddio cynnwys wedi ei greu gan AI. Mae sawl yn cyhuddo AI o dorri hawlfraint wrth ddwyn gwaith gwreiddiol i greu cynnwys wedi ei gynhyrchu gan AI. Mae AI yn gweithio trwy dderbyn llawer iawn o wybodaeth (hyfforddiant), dadansoddi’r data yma a defnyddio algorithmau i greu cynnwys ‘newydd’ yn defnyddio’r data a ddysgwyd. Os ydych chi’n poeni am hyn, defnyddiwch gynnwys gwreiddiol eich hun, neu lawr lwythwch gynnwys heb hawlfraint y gellir ei ddefnyddio a’i olygu fel y dymunwch.
Sut gall AI fy helpu yn Canva?
Er bod rhai sefydliadau wedi bod yn defnyddio Canva ers tro, mae yna sawl sydd ddim yn ymwybodol, neu ddim yn hyderus, yn defnyddio’r offer newydd yma sydd yn defnyddio AI. Mae’r nodweddion AI yma, sydd yn agored i ddefnyddwyr premiwm yn unig (gan gynnwys cyfrifon sefydliadau dielw), yn gallu helpu chi i wella eich cynnwys gweledol yn sylweddol gyda chlic y botwm!
Gall deall y nodweddion newydd yma, a sut i ddefnyddio’r rhain yn eich dyluniadau, gynyddu eich hyder wrth ddefnyddio nodweddion AI newydd a dysgu am bopeth sydd yn bosib.
Dyma sut gall Canva eich helpu i greu dyluniadau deniadol ac effeithiol gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial.
1. Awgrymiadau dylunio
Mae’r nodweddion AI yn gallu dadansoddi eich cynnwys a darparu argymhellion dylunio wrth i chi greu, gan gynnwys templedi, cynllun lliwiau, ffontiau a gosodiadau addas. Gall y meddalwedd adnabod pethau o fewn eich delweddau ac awgrymu elfennau neu eiconau dylunio perthnasol i’w cynnwys. Mae’r nodwedd yma yn helpu i greu dyluniadau deniadol hyd yn oed os nad oes gennych chi brofiad dylunio.
Gyda ‘Magic Design’ rydych yn uwch lwytho delwedd fel sylfaen eich dyluniad. Yna mae’n cynhyrchu templedi yn awtomatig yn seiliedig ar y ddelwedd a thempledi Canva presennol. Bydd yn awgrymu casgliad o opsiynau ar gyfer eich cynnwys yn y gwahanol ddyluniadau yma.
Gallwch hefyd ddefnyddio ‘Magic Design’ i greu cyflwyniad gan ddefnyddio ychydig eiriau i’ch rhoi ar ben ffordd. I ddefnyddio’r nodwedd yma, agorwch gyflwyniad newydd ac yn y bar offer ar ochr chwith y sgrin, pwyswch ‘design’ ac yna ‘Magic Design’. Bydd yn gofyn i chi ysgrifennu pum gair neu fwy i ddisgrifio’r cyflwyniad yr hoffech. Bydd y canlyniadau’n darparu amlinelliad gwych i chi weithio ar bwnc eich cyflwyniad. Mae posib newid brandio’r cyflwyniad yma i weddu lliwiau a ffontiau eich brand.
2. Gwella delwedd a golygu
Mae’r nodwedd AI yma yn gallu gwella edrychiad eich delweddau wrth addasu gosodiadau’r ddelwedd yn awtomatig. Gall yr addasiadau gynnwys disgleirdeb, cyferbyniad, dirlawnder a miniogrwydd i helpu’ch delwedd i edrych yn fwy bywiog, sgeiniog a drud! Mae posib ychwanegu sawl hidlydd ac effaith i’ch dyluniadau i newid naws, steil a esthetig eich graffeg.
Mae ‘Magic Edit’, nodwedd AI arall gan Canva, yn caniatáu i chi ddewis darnau o ddelwedd a gosod rhywbeth arall yn eu lle. Cliciwch ar y ddelwedd sydd yn cael ei olygu yn Canva, dewiswch ‘edit photo’ ac yna ‘Magic Edit’. Brwsiwch dros yr ardal sydd angen ei ddileu, cliciwch nesaf, ac yna teipiwch rywbeth hoffech roi yn ei le.
3. Testun-i-ddelwedd
Methu darganfod delwedd benodol? Gyda’r generadur testun-i-ddelwedd AI gallech chi deipio geiriau neu ymadroddion, a bydd y rhain yn eu trawsnewid yn ddelweddau sy’n cwrdd â’r gofynion. Mae posib chwarae gyda’r steil, fel bod yr un geiriau yn creu gwahanol ganlyniadau yn ddibynnol os ydych chi wedi dewis arddull ‘dyfrliw’ neu ‘gomig’ (er enghraifft). Gall rhai o’r dyluniadau yma fod ychydig yn ‘wahanol’, ond mae’n wych i arbrofi a chael ysbrydoliaeth.
4. Rhwbiwr Hud
Mae’r nodwedd AI ‘Magic Erase’ yn caniatáu i chi ddileu agweddau o’ch llun. Dewiswch eich delwedd, pwyswch ‘edit photo’, a dewiswch ‘Magic Eraser’. Brwsiwch dros ran o’r ddelwedd sydd angen ei ddileu, ac ar glic botwm mae wedi diflannu. Teclyn gwych i’w ddefnyddio os ydych chi wedi tynnu llun a bod rhywbeth yn tynnu sylw yn y cefndir.
5. Generadur cerddoriaeth ar gyfer fideos
Mae posib creu fideos proffesiynol yr olwg yn syth o’r rhaglen. Mae un o’r newidiadau diweddaraf yn caniatáu i chi weithio ar linell amser fideo, yn debyg i feddalwedd golygu fideo, fel y gallech lusgo, gollwng, torri a golygu fideos. Ceir lyfrgell amrywiol o drawsnewidiadau, elfennau wedi’u hanimeiddio, ac effeithiau i greu golwg unigryw a phroffesiynol i’ch fideos heb orfod talu am gontract allanol ar gyfer prosiectau llai.
I orffen fideo yn broffesiynol, bydd angen cerddoriaeth! Yn union fel y generadur delwedd, mae’r generadur cerddoriaeth AI yn caniatáu i chi greu cerddoriaeth unigryw i gyd-fynd yn berffaith â’ch prosiect fideo Canva nesaf. Dewiswch y naws, genre, thema, a hyd i greu rhestr o opsiynau ar gyfer eich dyluniad diweddaraf.
Mae ‘Beat Sync’ yn symleiddio’r broses yma ac yn gallu creu trac sain yn awtomatig sydd yn cyd-fynd yn berffaith â amseru eich fideo.
6. Cyfieithu
Mae’r nodwedd cyfieithu yn gadael i chi gyfieithu unrhyw destun i dros 100 iaith wahanol o fewn Canva, gan gynnwys Cymraeg. Mae’r nodwedd cyfieithu wedi’i osod ar y bar offer ar ochr chwith y sgrin o dan yr adran apps. Dewiswch yr iaith wreiddiol a’r iaith hoffech gyfieithu iddi. Mae’r hud yn digwydd wrth greu tudalen ddyblyg gyda’r testun wedi’i gyfieithu ar gyfer pob tudalen dewiswyd.
Er bod offer cyfieithu yn y rhaglen yn ddefnyddiol, nid yw’n gywir bob tro, gwell ei ddefnyddio ar gyfer darnau byr o destun yn unig. Dylid gwirio’r cywirdeb gyda rhywun sydd yn rhugl yn yr iaith bob tro. Dylid cyfieithu darnau hirach yn broffesiynol i osgoi’r perygl o dynnu’n groes i’ch polisïau iaith neu os ydych chi’n ceisio cadw at Safonau’r Gymraeg yng Nghymru.
7. Darlunio
Mae’r nodwedd ‘Draw’ yn caniatáu i chi ddwdlan yn syth ar ddarluniadau a gall hyn eich helpu i ddangos cysyniadau pwysig. Er nad yw hyn yn nodwedd newydd, mae Canva wedi defnyddio AI i ddatblygu’r modd ‘scetch assist’. Os ydych chi’n gwneud llun o siâp ac yn dal eich llygoden drosto cyn gollwng, bydd yn twtio’r sgets yn awtomatig ac yn gwneud iddo edrych yn daclus.
8. Ailosod Hud
Os ydych chi wedi adnewyddu pecyn brand eich sefydliad ac angen diweddaru eich holl ddyluniadau, gall meddwl am wneud hynny fod yn hunllef. Ond gyda’r nodwedd ‘Magic Replace’ mae posib mynd i’r hwb brand a dewis y tri dot ar eich hen logo, yna dewis ‘replace across designs’. Bydd yn chwilio am eich holl ddogfennau gyda’r logo yma a’i ailosod gyda’r logo newydd yn awtomatig. Mae’n rhaid i’r logo newydd fod yr un maint â’r hen un i ffitio’r dyluniad yn berffaith. Mae’r nodwedd yma yn gweithio gyda’r delweddau defnyddiwyd hefyd.
9. Creu Animeiddiad
Defnyddiwch ‘Create Animation’ i greu arddull animeiddio unigryw a dod â stori yn fyw. Llusgwch eich elfennau ar draws y sgrin, bydd AI yn cofnodi’r llwybr. Yna arbrofwch gyda’r cyflymder a chyfeiriad eich elfennau animeiddiedig. I gychwyn, cliciwch ar yr elfen yr hoffech chi, dewiswch ‘animate’ ac yna ‘create an animation’.
10. Ysgrifennu Hud
Os ydych chi’n cael trafferth i feddwl am y geiriau cywir ar gyfer eich cynnwys, gall ‘Magic Write’ sy’n cael ei bweru gan AI, helpu. Mae posib creu testun ysgrifenedig ar draws pob math o gynnwys, o ddogfennau a chyflwyniadau i bostiadau cyfryngau cymdeithasol a fideos. Defnyddiwch ‘Magic Write’ trwy ‘Canva Assistant’. Dewiswch ‘Magic Write’ a theipiwch bum gair neu fwy i ddisgrifio’r hyn rydych chi am ysgrifennu amdano. Ar ôl cael y testun, gallech chi olygu’r allbwn yn sydyn gan ddewis botymau ‘summarise’, ‘expand’, ‘rewrite’, neu ‘edit’.
11. Tynnu Cefndir
Os oes angen i chi dynnu’r cefndir mewn delwedd neu fideo, gellir ei wneud yn hawdd gyda’r teclyn tynnu cefndir. Bydd yn canfod ac yn tynnu’r cefndir o ddelweddau a fideos yn awtomatig. Er enghraifft, rydych chi eisiau creu tudalen ‘Cwrdd â’r Tîm’ ar eich gwefan a hoffech gefndir cyson, ond mae’r holl staff yn gweithio o bell. Gallwch dynnu’r cefndir o bob llun pen a rhoi rhywbeth cyson a phroffesiynol yr olwg yn ei le. Nid yw pawb yn gyfarwydd â golygu sgrin werdd a meddalwedd mwy arbenigol, felly mae tynnu’r cefndir a rhoi rhywbeth arall yn ei le gydag ychydig bach o glicio yn nodwedd wych.
12. Newid maint yn awtomatig
Er nad ellir cyfri’r nodwedd yma fel AI yn dechnegol, mae’n offer gwych i fod yn ymwybodol ohono er mwyn helpu eich sefydliad trydydd sector i greu cynnwys cyflym ar gyfer gwahanol lwyfannau. Dychmygwch eich bod wedi creu post Instagram sgwâr, ond yn meddwl byddai’r un cynnwys yn dda fel stori fertigol Facebook. Yn lle creu’r dyluniad arall mewn maint gwahanol, gallech arbed amser gyda’r botwm newid maint awtomatig. Mae’n newid maint eich graffeg yn awtomatig i gyd-fynd â llwyfannau neu sianeli cyfryngau cymdeithasol eraill. Gydag ychydig o addasu, byddech wedi creu cyfres gyfan o asedau cyfryngau cymdeithasol ar gyfer sawl llwyfan.
Camau nesaf
Os nad oes gennych chi fersiwn premiwm o Canva eisoes a’ch bod yn sefydliad dielw, dechreuwch trwy gofrestru ar gyfer eich cyfrif dielw rhad ac am ddim.
Dewch i adnabod Canva a chwarae o gwmpas gyda phopeth. Fel y mwyafrif o bethau, rhoi tro arni ac arbrofi yw’r ffordd orau i ddysgu. Ceisiwch greu eich cyflwyniad, poster, neu raffeg cyfryngau cymdeithasol nesaf yn defnyddio Canva, a gofynnwch i’ch cydweithwyr am adborth.
Os ydych chi’n dal i gael trafferth i ddefnyddio Canva yn effeithiol ar gyfer eich gwaith, cysylltwch â ni i weld sut gallem helpu. Rydym yn cynnig hyfforddiant Canva i sefydliadau ac yn gallu helpu gyda brandio.
Ariannir yr adnodd hwn drwy Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector, prosiect Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi Trydydd Sector Cymru gyda digidol. I ddarganfod mwy am sut gall y prosiect yma gefnogi eich sefydliad chi, cliciwch y ddolen neu cysylltwch â andrew@promo.cymru
Fel sefydliad dielw, mae eich amser, arian a’ch adnoddau yn bwysig iawn. Mae dewis y llwyfan cynhyrchiant cywir i chi yn hanfodol er mwyn gallu cyflymu gwaith, gwella cydweithio ymysg staff a thimau, ac optimeiddio rheoli adnoddau.
Mae llwyfan cynhyrchiant yn rhaglen sydd yn caniatáu i chi gynhyrchu a chreu dogfennau, graffiau, cyflwyniadau, cronfa ddata, ayb. Y ddau brif lwyfan sydd ar gael yw Google Workspace (G Suite gynt) a Microsoft 365. Mae’r ddau yn cynnig amrywiaeth o offer a nodweddion wedi’i deilwro i sefydliadau dielw.
Os yw dewis pa lwyfan sydd orau i chi yn anodd, defnyddiwch y canllaw yma. Mae’n edrych ar gynigion y ddau fel y gallech chi wneud penderfyniad gwybodus.
Prisiau a gostyngiadau dielw
Mae Google Workspace a Microsoft 365 yn cynnig cynlluniau am ddim neu ratach i sefydliadau dielw cymwys. Ond, mae yna rai nodweddion sydd ddim ar gael os nad ydych yn talu.
Mae Microsoft 365 yn cynnig amrywiaeth o gynlluniau am ddim a rhatach, yn ddibynnol ar y nodweddion sydd eu hangen a sawl person fydd yn ei ddefnyddio.
Mae Google Workspace yn cynnig y rhaglen Google Workspace for Non-profits, sydd yn cynnig nodweddion syml Google Workspace am ddim.
Cynigir amrywiaeth o gynlluniau gan y ddau yn ogystal ag opsiynau i addasu gyda thyfiant eich sefydliad, felly gellir newid y cynllun wedyn os oes angen.
Wrth gymharu’r prisiau, dylid ystyried anghenion penodol, cyllid, a nifer y defnyddwyr yn eich sefydliad i benderfynu pa opsiwn a pha gynllun fydd orau i chi.
Rhaglenni craidd
Mae Microsoft 365 a Google Workspace yn cynnwys cyfres o raglenni cynhyrchiant craidd fel meddalwedd e-bost, dogfennau, taenlenni, a chyflwyniadau.
Microsoft 365:
– Outlook – Word – Excel – PowerPoint
Google Workspace:
– Gmail – Google Docs – Sheets – Slides
Tra bod llawer o raglenni Google a Microsoft yn syml iawn, mae yna wahaniaethau bach rhwng y ddau pan ddaw at ba mor hawdd ydynt i’w defnyddio, cydweithio mewn amser go iawn a’r gallu i wneud pethau all-lein. Pa mor gyfarwydd ydych chi ag ef, a pha un fydda’ch tîm chi fwyaf cyfforddus yn ei ddefnyddio? Gall yr holl bethau yma ddylanwadu ar eich penderfyniad.
Gall newid i gyfres o raglenni newydd gymryd llawer o amser. Efallai bydd angen hyfforddiant a chefnogaeth ar eich tîm i ddefnyddio’r llwyfan newydd yma.
Offer cydweithio
Mae gweithio ar yr un ffeil ar yr un amser â’ch cydweithwyr, ble bynnag y maent yn y byd, yn fantais fawr pan ddaw at gynhyrchiant.
Mae yna nodweddion cydweithio ar Microsoft 365, ond mae llawer o’r gred bod Google Workspace yn llawer gwell pan ddaw at weithio mewn amser go iawn gan ei fod yn brofiad mwy llyfn.
Gall defnyddwyr weithio all-lein ar eu cyfrifiadur gyda Microsoft 365. Mae hyn yn fuddiol iawn pan fydd problemau gyda chysylltu i’r we. Mae Google Workspace hefyd yn cynnig y gallu i weithio all-lein ond nid yw hwn cystal.
Offer cyfathrebu
Weithiau mae gweithio mewn lleoliad gwahanol i’ch cydweithwyr yn gallu bod yn heriol, ond gall offer cyfathrebu wneud y broses yma’n llawer haws.
Mae Google Workspace yn cynnig Google Meet a Google Chat, tra bod Microsoft 365 yn cynnig Microsoft Teams. Mae’r ddau lwyfan yn cynnig cynadledda fideo, sgwrsio a rhannu ffeiliau.
Fodd bynnag, mae Microsoft Teams yn cynnig nodweddion uwch fel bwrdd gwyn, ystafelloedd torri allan, ac integreiddio gwell gyda rhaglenni Microsoft 365. Mae’r cynigion yma yn fuddiol iawn i weithio fel grŵp a chreu cyfarfodydd rhithiol sydd yn fwy rhyngweithiol.
Integreiddio a chysondeb
Bydd meddwl pa mor dda mae pob un yn integreiddio gyda’ch offer a’ch systemau presennol yn eich helpu chi i wneud penderfyniad ar y llwyfan sydd fwyaf addas i chi.
Mae’r ddau lwyfan yn cefnogi Windows, macOS, iOS, ac Android, ond gall y cysondeb a’r nodweddion amrywio. Gwiriwch os yw’r llwyfan yn cyd-fynd â’r dyfeisiau a’r systemau gweithredu defnyddir gan eich sefydliad.
Diogelwch
Mae Google Workspace a Microsoft 365 yn cynnig nodweddion diogelwch fel dilysu dau-ffactor, amgryptio data, ac amddiffyniad uwch rhag bygythiad.
Cred llawer yw bod nodweddion diogelwch chydymffurfiad Microsoft 365 yn fwy cynhwysfawr, gan gynnwys atal colli data, eDdarganfod uwch, ac offer cydymffurfio gellir eu haddasu.
Gwerthuswch ofynion diogelwch a chydymffurfiad penodol eich sefydliad i asesu pa lwyfan sydd orau.
I gloi
Mae sawl ffactor dylid ystyried wrth ddewis y gyfres cynhyrchiant gorau i’ch sefydliad dielw, gan gynnwys y pris, rhaglenni craidd, offer cydweithio, integreiddio a diogelwch. Treuliwch amser yn archwilio’r opsiynau cynigir i chi ac ystyried pa un sydd yn gweddu anghenion eich sefydliad orau.
Ariannir yr adnodd hwn drwy Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector, prosiect Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gefnogi Trydydd Sector Cymru gyda digidol. I ddarganfod mwy am sut gall y prosiect yma gefnogi eich sefydliad chi, cliciwch y ddolen neu cysylltwch â andrew@promo.cymru
Sut olwg sydd ar ddyfodol gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc?
Ar ddydd Iau, 8fed Mehefin, cyflwynodd ProMo-Cymru ac Adferiad Recovery gynhadledd ar-lein wedi’i gyd-gynhyrchu am ddyfodol cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc Cymru.
Roedd y gynhadledd yn rhan o brosiect ‘Ein Meddyliau ein Dyfodol’ (EMED) Cymru. Mae’r prosiect yma yn rhoi grym i bobl ifanc i greu newidiadau ystyrlon i wasanaethau iechyd meddwl wrth godi ymwybyddiaeth o’u profiadau a siarad gyda dylanwadwyr a’r rhai sydd yn gwneud penderfyniadau.
Roedd y digwyddiad ar-lein pedwar awr yma yn canolbwyntio ar dri phrif beth oedd yn bwysig i’r saith person ifanc oedd yn rhan o’r prosiect.
Gweithdy 1
Roedd y gweithdy yma yn archwilio gofal iechyd meddwl i gleifion mewnol ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru. Roedd dau o eiriolwyr ifanc EMED, Martha a Rain, yn rhannu eu profiad o ofal fel claf mewnol. Arweiniodd hyn at drafodaethau am bethau llwyddiannus a’r hyn gellir ei wella. Hwyluswyd y gweithdy gan Dr Euan Hails, a gafodd MBE yn 2022 am ei wasanaethau i iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Gweithdy 2
Roedd y gweithdy yma yn amlygu sut gellir defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo iechyd meddwl da. Eglurodd Andrew Collins a Lucy Palmer, arbenigwyr digidol o ProMo-Cymru, yr angen i wasanaethau fod ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol i gynnig cefnogaeth i bobl ifanc yn y llefydd y maent yn treulio’u hamser. Canolbwyntiwyd ar sut y gall sefydliadau dorri drwy sŵn cynnwys niweidiol ar-lein a tharfu ar y llif yma er mwyn cefnogi pobl ifanc.
Gweithdy 3
Roedd y gweithdy yma yn amlygu’r fframwaith NYTH a’r gwahaniaeth mawr mae’n ei gael ar ofal atal ac ymyriad cynnar yng Nghymru. Millie Boswell, Arweinydd Gweithredu Fframwaith NYTH/NEST ar gyfer Llywodraeth Cymru, oedd yn cynnal y sesiwn. Eglurai sut mae’n gweithredu’r fframwaith NYTH i greu dull system gyfan i wella gwasanaethau iechyd meddwl a lles i fabanod, plant a phobl ifanc. Rhannodd Josh a pherson ifanc arall, dau o eiriolwyr ifanc EMED, eu stori am sut mae cefnogaeth ymyrraeth gynnar dda yn edrych, a’r ffordd mae hyn wedi bod o gymorth iddynt yn eu hadferiad.
Adborth
Roedd y gynulleidfa, y mwyafrif ohonynt yn weithwyr proffesiynol o’r sectorau cyhoeddus a phreifat, wedi cymryd rhan frwdfrydig ac wedi gadael adborth positif, gan gynnwys:
“Dyma’r gynhadledd ar-lein gorau i mi fynychu”.
“Roeddwn wrth fy modd yn clywed gan y bobl ifanc eu hunain. Roedd hyn mor rymus ac yn ddiddorol, cefais fy synnu gyda’r hyder a’r huodledd o ystyried pwnc mor bersonol a heriol. Da iawn wir ar eich gwaith yn cysylltu gyda nhw; mae’n amlwg eu bod yn gallu ymddiried ynoch ac yn teimlo wedi’u grymuso!”
“Fel rhywun sydd yn gweithio i CAMHS yn Llywodraeth Cymru, nid wyf yn cysylltu â phobl ifanc, felly, pan fyddaf mewn cyfarfodydd ac yn gwneud fy ngwaith o hyn ymlaen, byddaf yn cofio’r hyn y dysgais.”
Wrth i gyllid y prosiect agosáu at ei flwyddyn olaf fis Rhagfyr, mae eiriolwyr ifanc Ein Meddyliau Ein Dyfodol yn gobeithio rhannu’r adborth o’r gynhadledd ryngweithiol yma gyda dylanwadwyr a’r rhai sydd yn gwneud penderfyniadau, er mwyn siapio dyfodol gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc ledled Cymru.
Roedd TheSprout, safle blogio a gwybodaeth ar-lein i bobl ifanc 11-25 yng Nghaerdydd, wedi manteisio ar y cyfle i siarad gyda phobl ifanc yn Pride Cymru am yr hyn yr oedd Balchder LHDTC+ yn ei feddwl iddyn nhw.
Aeth Lucy a Megan, dau aelod staff ifanc ProMo-Cymru, y sefydliad dielw sydd yn cynnal TheSprout, draw i ŵyl Pride Cymru 2022 i siarad gyda’r bobl ifanc yno.
Roeddem yn awyddus i ddathlu pobl ifanc LHDTC+ y tu allan i fis Pride ac amlygu bod codi ymwybyddiaeth, ymgyrchu a llawenydd cwiar yn rhywbeth oedd angen ei ddathlu y tu hwnt i fis Mehefin. Pride #MwyNaMis!
Pride Caerdydd: Mwy Na Mis
Holwyd 21 o bobl ifanc, ac aeth 3 o aelodau ifanc tîm creadigol TheSprout ati i greu’r ymgyrch gan ddefnyddio’r atebion, gyda’r bwriad o amlygu teimladau, pryderon a phrofiadau’r bobl ifanc a fynychodd Pride Cymru.
Rhannodd Lucy, 21, “roedd yn bleser cael siarad gyda’r bobl ifanc a chlywed eu teimladau. Roeddent yn mynegi eu hunain yn eglur, a dysgais lawer iawn ganddynt.”
Roedd Halyna, Ysgrifennwr a Chynhyrchydd Cynnwys TheSprout, yn cytuno ac ychwanegodd ei bod yn “hyfryd bod pobl ifanc eisiau rhannu eu profiadau a’u teimladau am faterion LHDTC+. Gellir cyflawni newid ar y fath yma o lwyfan.”
Yn ystod wythnos yr ymgyrch, cyhoeddwyd 14 o flogiau a 101 cynnwys cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys 27 o fideos TikTok.
Roedd y bobl ifanc a gymerodd ran yn y cyfweliadau wedi gwerthfawrogi a mwynhau’r profiad o gael siarad yn agored. Roedd un person ifanc cyfwelwyd wedi gadael sylwad ar un fideo yn dweud, “Dyna fi! Roedd yn gymaint o hwyl cymryd rhan, uchafbwynt y dydd”.
Ymgysylltiad
Wrth i’r fideos gael eu cyhoeddi, roedd un yn cael llawer o sylw yn sydyn iawn ac yn cynyddu yn ei boblogrwydd. Wrth i’r gwylio cynyddu, felly hefyd roedd yr hoffi a’r sylwadau. Mae’r fideo wedi ei wylio dros 3 miliwn o weithia hyd yn hyn, dros filiwn o fewn y 24 awr gyntaf.
Gwyddem y gall y pwnc sgwrs fod yn un ‘dadleuol’ – ceir trafodaethau dwys am rywioldeb, rhyw a hunaniaeth rhyw, ond nid oedd dim wedi ein paratoi am y cysylltiad enfawr cafwyd ar TikTok.
Roedd llawer o sylwadau calonogol a phositif, yn cynnig geiriau o gefnogaeth i’r bobl ifanc yn y fideos.
‘Wyddwn i ddim bod anrhywiol yn beth… dwi’n gwybod beth ydw i nawr’
‘”Cariad pur i’r enaid” dwi’n caru hynna, dwi am ddefnyddio hwnna pan fydd cydweithwyr hŷn yn gofyn beth yw pan’
‘Ooooh mae hwn yn ffordd wych i addysgu pobl’
‘Mor ysbrydoledig a lliwgar’
Roedd yr adran sylwadau hefyd yn le i ddefnyddwyr TikTok drafod a gofyn cwestiynau. Roedd hyn yn cynnwys un defnyddiwr yn gofyn ‘gyda phob parch, dwi wedi drysu braidd gan ein bod ni’n brwydro yn erbyn cael ein “labelu” pan oeddwn i’n ifanc. Barn am y newid yma? Diolch’
Ymateb un person oedd bod ‘hunaniaeth rhyw yn rhoi cysur ac yn cyfrannu at y person ydw i!! Ond ie, nid oes rhaid i ti gael dy labelu, ac mae hynny’n iawn. Gobeithio bod hynny’n helpu!’.
Ond roedd llawer o sylwadau cas hefyd. Treuliwyd llawer o oriau yn monitro’r adran sylwadau, yn blocio pobl rhag rhannu sarhad ac yn dileu sylwadau fel ein bod yn lleihau’r negeseuon niweidiol cymaint â phosib. Tra bod y cysylltiad anhygoel yn teimlo’n gyffrous ac yn wobrwyol, roedd yn dorcalonnus hefyd gan ei fod yn ategu faint o gasineb sydd yn digwydd ar-lein.
Roedd yr ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy na Mis yn gyfle gwych i bobl ifanc rannu eu hunaniaeth a’u teimladau am fod yn LHDTC+ yng Nghymru. Roedd yr ymgyrch yn cynnig llwyfan i leisiau pobl ifanc LHDTC+ ac yn sicrhau eu bod yn cael eu clywed, nid yn unig yng Nghymru, ond yn fyd-eang! Roedd y casineb derbyniwyd yn y sylwadau yn dangos pa mor bell rydym ni fel cymdeithas angen symud ymlaen i sicrhau bod pobl ifanc LHDTC+ yn teimlo’n ddiogel, wedi’u cefnogi, eu derbyn a’u cynnwys.
Darllenwch fwy am yr ymgyrch Pride Caerdydd: Mwy na Mis ar wefan TheSprout, neu ymwelwch â’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i fod yn rhan o’r sgwrs.
Mae ProMo-Cymru yn recriwtio staff ar gyfer y prosiect Meddwl Ymlaen Gwent.
Gweledigaeth ProMo-Cymru
Mae ProMo-Cymru yn gweithio i sicrhau bod pobl ifanc a chymunedau yn wybodus, yn cyfrannu, yn gysylltiedig ac yn cael eu clywed.
Ein Dull o Weithio
Rydym yn cydweithio i greu cysylltiadau rhwng pobl a gwasanaethau gan ddefnyddio creadigrwydd a thechnoleg ddigidol. Yn cefnogi’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus i ddychmygu, profi a chreu gwasanaethau gwell.
Mae ProMo-Cymru yn gweithio gyda chymunedau trwy gyfathrebiadau, eiriolaeth, ymgysylltiad diwylliannol, digidol a chynnyrch cyfryngol. Mae dros 20 mlynedd o drosglwyddo prosiectau gwybodaeth ieuenctid digidol yn dylanwadu ein gwaith. Rydym yn rhannu’r wybodaeth yma drwy hyfforddiant ac ymgynghoriad, yn creu partneriaethau hir dymor fydd yn buddio pobl a sefydliadau.
Mae ProMo-Cymru yn elusen gofrestredig ac yn fenter gymdeithasol; mae’r elw yn cael ei fuddsoddi’n ôl i’n prosiectau cymunedol.
Gwybodaeth am Meddwl Ymlaen
Wrth weithio law yn llaw dros gyfnod 5 mlynedd gyda’n prif bartner trosglwyddo Mind Casnewydd, ein partneriaid prosiect a phobl ifanc, byddem yn cynllunio dulliau newydd ymyrraeth gynnar ac atal problemau iechyd meddwl ymysg pobl ifanc sydd yn byw yng Ngwent.
Fel aelod gwerthfawr o’r tîm ProMo-Cymru byddech yn trosglwyddo’r prosiect cyffroes ac arloesol Meddwl Ymlaen Gwent. Byddech yn gosod pobl ifanc wrth galon y dylanwadu a throsglwyddo newid ystyrlon i wasanaethau iechyd meddwl yng Ngwent sydd yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc, byddech yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o hapddalwyr gan gynnwys pobl ifanc, Mind Casnewydd, Mind Lleol yng Ngwent a Gwasanaethau Ieuenctid Gwent trwy gyfnod y prosiect.Ariannir y prosiect Meddwl Ymlaen gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Swyddi Agored
Mae ProMo-Cymru yn recriwtio ar gyfer 3 swydd newydd i helpu gyda’r prosiect Meddwl Ymlaen Gwent:
Rheolwr Prosiect Meddwl Ymlaen Gwent
Mae ProMo-Cymru yn chwilio am Reolwr Prosiect trefnus a phrofiadol i arwain ar a chydlynu trosglwyddiad y prosiect cyllidwyd gan y Loteri Genedlaethol, Meddwl Ymlaen Gwent.
Mae ProMo-Cymru yn chwilio am Swyddog Prosiect brwdfrydig ac yn gallu ysgogi ei hun i gefnogi gyda throsglwyddo’r prosiect Meddwl Ymlaen cyllidwyd gan y Loteri Genedlaethol.
Mae ProMo-Cymru yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu creadigol i gefnogi gyda throsglwyddo’r prosiect Meddwl Ymlaen Gwent cyllidwyd gan y Loteri Genedlaethol.
ProMo-Cymru
17 Stryd Gorllewin Bute
Caerdydd CF10 5EP
Cofrestrwch am y ProMail
ProMail ydy cylchlythyr misol ProMo-Cymru yn rhoi manylion am ein prosiectau, datblygiadau, gwasanaethau a hyfforddiant.
About Us
In the last 30 years, ProMo-Cymru has developed services that range from information websites and community regeneration projects, to an advocacy helpline.