Author Archives: Arielle Tye

  1. Creu Cynnwys Hygyrch

    by Arielle Tye | 10th Ion 2020

    Os ydym yn siarad am gynnwys, fideo yw’r ffurf fwyaf hygyrch. Mae’r ddelwedd symudol, ynghyd â’r clywedol ac is-deitlau, yn ogystal â nodweddion rhyngweithiol a hygyrchedd modern, yn gallu cysylltu gyda mwy o ddefnyddwyr nag unrhyw ffurf arall.

    O Snapchat bachog a chlipiau YouTube i ffilmiau mawr arwyr y sinema, fideo yw’r brenin.

    Os ydych chi’n ceisio cyfleu gwybodaeth drwy’r gair ysgrifenedig, yn enwedig mewn ffurf ddigidol, rydych chi’n dieithrio rhan fawr o’ch cynulleidfa yn barod. Efallai bod erthygl neu ddogfen hir yn anodd iawn i’w ddarllen i rai gyda namau gweledol neu lefel llythrennedd isel. Nid yw’n ffurf hygyrch iawn iddynt. Mae’n werth ymchwilio os gallech chi rannu eich neges yn well gyda fideo.

    Rydym wedi bod yn ymgynghori gyda UCAN yn ddiweddar, cwmni perfformio cydweithredol ar gyfer plant a phobl ifanc Caerdydd sydd â nam gweledol.

    Roedd siarad gyda phobl ifanc UCAN yn addysgiadol iawn i ddeall sut maent yn dehongli gwybodaeth o’r byd corfforol, yn ogystal â derbyn gwybodaeth yn y byd digidol.

    YouTube ar y sgrin ar gyfer erthygl Creu Cynnwys Hygyrch

    Ar y sgrîn

    Datblygwyd breil fel modd i bobl gyda nam gweledol i ddarllen gwybodaeth. Ond, gyda gwybodaeth yn gyflym troi’n ddigidol, mae llai o ddefnydd o freil. Nid ellir bod yn ddibynnol ar wybodaeth yn cael ei gynhyrchu mewn ffurf gorfforol.

    Ond, mewn rhai achosion gall hyn fod yn fuddiol i’r rhai â nam gweledol. Mae ffonau clyfar a chyfrifiaduron modern yn cynnwys amrywiaeth eang o nodweddion hygyrchedd. Mae tudalen ar Google yn trafod nodweddion hygyrchedd Android, a chywerth iOS Apple.

    Fideo sydd orau

    Roedd pobl ifanc UCAN o’r farn er gwaethaf (neu efallai oherwydd) yr holl nodweddion hygyrchedd sydd wedi’u cynnwys ar ffonau clyfar, maent yn teimlo mai fideos hygyrch ffonau clyfar yw’r ffurf orau i dderbyn gwybodaeth.

    Nid oes rhaid i chi ddarllen gyda fideo. Os ydych chi eu hangen, mae gennych chi is-deitlau neu gapsiynau. Os oes well gennych chi, mae yna elfen glywedol fel arfer (a phosibilrwydd efallai i chi glywed yr capsiynau yn cael eu darllen i chi).

    Mae fideo yn gyfrwng cyfoethog iawn; gellir ei ddehongli mewn sawl ffordd.

    Mae fideo da yn gallu cysylltu mewn ffordd wahanol iawn i ddarn ysgrifenedig. Os ydych chi’n llwyddo cadw diddordeb eich cynulleidfa yna byddant yn parhau i wylio nes cyrraedd y credydau.

    Chwyddwydr ar gyfer erthygl Creu Cynnwys Hygyrch

    Darllen ychwanegol:

    Capsiynau ac Is-deitlau – Dayana Del Puerto yn ysgrifennu ar flog ProMo-Cymru
    Pam bod hygyrchedd yn bwysig i bawbNathan ar flog ProMo-Cymru
    Apps for the visually impaired
    – The Macular Society
    How I Access Android,
    Rhan 1 a Rhan 2 – Bhavya Shah, blogiwr sydd â nam gweledol.
    How I Use Screen Reading and Magnification  – YouTuber The Blind Spot

    Mae’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol wedi caniatáu i ni ddatblygu ein sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu. Mae’r gronfa yn cefnogi busnesau lleol yng Nghymru i dyfu a chreu cyfleoedd swyddi. Wedi ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop. Yn cael ei weinyddu gan Fuddsoddiad Cymdeithasol Cymru, CGGC. 

     

  2. Genedigaeth Radio Platfform

    by Arielle Tye | 8th Chw 2018

    Mae ProMo-Cymru wedi bod yn gweithio ar brosiect cyffrous gyda Chanolfan Mileniwm Cymru i ddatblygu gorsaf radio wedi’i arwain gan bobl ifanc. Am dros flwyddyn rydym wedi bod yn hyfforddi pobl ifanc mewn Darlledu Radio. Yn eu paratoi i gyflwyno sioeau eu hunain a’u hannog i gael llais ar y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.

    Mae beth gychwynnodd fel peilot yn ystod Gŵyl y Llais 2016 wedi datblygu i beth ydyw heddiw. Ers y cychwyn, rydym wedi hyfforddi dros 40 o bobl ifanc, 19 ohonynt wedi ennill cymhwyster Agored Cymru mewn Paratoi i Gyflwyno Darlledu ar y Radio.

    Criw Radio Plattform yn y stiwdio

    Dyma’r hanes gan Daniel Edwards, un o’r bobl ifanc cyntaf i dderbyn hyfforddiant yn ôl yn 2016. Dyma ei siwrne:

    10 Diwrnod Ym Mehefin 2016

    Y gwres annioddefol

    Y peth dwi’n ei gofio fwyaf am y dyddiau yma ydy’r gwres. Gwres yr ystafell hyfforddi, gwres y lleoliadau, gwres tu allan, gwres wrth fynd i gysgu yn y nos, ond fwyaf oll, y gwres yn y bwth – roedd hwn ar lefel hollol wahanol. Roedd yn fath o wres nad oedd yn gwella rhyw lawer wrth agor y drws rhwng darnau.

    Mae’r un gwres yn dal i fedru effeithio arnaf weithiau yn y bwth yna. Rydych chi’n gwneud eich peth, yn cyflwyno’r sioe, yn ceisio canolbwyntio ar sawl peth. Y lefelau sain, y dewis nesaf ar y rhestr chwarae, y person hen sy’n pasio ambell waith (ychydig iawn ohonynt sy’n ifanc) yn busnesu ar beth rydych chi’n ei wneud cyn symud ymlaen.

    Ond rydym wedi dod i’r arfer â hynny, yn enwedig gan nad oes cymaint ohonom yn y bwth ar yr un adeg bellach wrth greu sioe. Yn ystod y 10 diwrnod yna yn fis Mehefin 2016 pan gychwynnodd Radio Platfform ddarlledu, yr unig gynulleidfa bendant oedd y rhai oedd yn pasio drwy Ganolfan Mileniwm Cymru (CMC), neu’r staff o ProMo-Cymru yn eistedd yn eu swyddfa yn gwrando dros chwaraewr y we.

    Recordio yn stiwdio Radio Platfform

    Hyfforddiant Radio

    Roedd yn newydd, yn gyffrous, ond yn fwy na hynny, roedd yn antur. Roeddwn i wedi gwneud chwe wythnos o brofiad gwaith yn theSprout, cangen o ProMo-Cymru. Gofynnodd un o’r staff, Arielle Tye, os hoffwn gymryd rhan mewn cwrs radio ieuenctid. Bydda hyn yn golygu darlledu yn ystod Gŵyl y Llais gyda’r CMC. Ar ddiwedd hynny byddem yn derbyn achrediad.

    Roeddwn yn amheus o’r peth ar y cychwyn. Hyd yn oed nawr, dyw radio ddim yn ryw angerdd mawr. I ddweud y gwir nid wyf yn dewis gwrando ar y radio. Yr unig sioe radio i mi ddangos diddordeb ynddo oedd Lou Reed’s Underground Music Show. Roedd hwn yn cael ei ddarlledu ar Radio 6 ar ddydd Sul am hanner nos. Mae hyn yn dangos pa mor od o ddewis ydyw, ac yn dangos pa fath o gerddoriaeth dwi’n hoffi.

    Ond, dwi’n hawdd i’m mherswadio ac nid wyf wedi edrych yn ôl ers hynny. Nid oedd yr hyfforddiant bryd hynny’r un mor fanwl â’r hyfforddiant heddiw. Yn hytrach nag chymryd 6 wythnos i wneud y gwaith, roedd rhaid gwasgu’r holl gwrs i mewn i ddau ddiwrnod llawn chwys ar gychwyn mis Mehefin.

    Recordio yn stiwdio Radio Platfform gyda Ariell Tye

    Gŵyl y Llais

    Er pa mor gyffrous oedd hyn, roedd natur frysiog yr hyfforddiant wedi achosi i mi deimlo’n bryderus. Nid oedd gen i ffydd yn fy ngallu i lywio’r ddesg cymysgu a’r bwrdd sain fydda’n cael ei ddefnyddio. Cychwynnodd Gŵyl y Llais ar 10fed Mehefin 2016 a gorffennodd 10 diwrnod wedyn ar 19eg Mehefin, Roedd yn ddeg diwrnod prysur iawn, nid yn unig i ni ym mhrosiect Radio Platfform, ond i Gaerdydd ar y cyfan.

    Wrth edrych ar fy nyddiadur yn y cyfnod byr yma, rwyf yn cofio’r sawl digwyddiad rhyfeddol. Roedd rhai yn ddoniol, rhai yn llesteirio, ond pob un yn werth ei gofio, Daeth y cwrs i ben gyda Gŵyl y Llais.

    I nodi’r digwyddiad cawsom ddiod oer braf mewn tafarn gerllaw. Roedd y sgwrs dilynodd yn un o’r rhai mwyaf goleuedig ac od i mi ei gael erioed. Roeddwn yn berson mwy doeth, mwy gwybodus, ar ddiwedd y profiad. Ac wedi gwneud ffrindiau newydd yn y broses.

    Cyfarfod tîm Radio Platfform

    Dyfodol i Radio Platfform

    Ar ôl y profiad o Ŵyl y Llais ni ddychmygais y byddwn yn clywed mwy gan Radio Platfform. Y 10 diwrnod byr yna fydda ddiwedd y stori. Ond chwe mis wedyn, ar fore oer ym mis Rhagfyr 2016, daeth galwad gan Jason Camilleri. Roedd gan Radio Platfform ddyfodol ac yn y CMC oedd y dyfodol hwnnw.

    Bellach mae’n fis Chwefror 2018 ac ar ôl sawl mis o gyfarfodydd, e-byst, grwpiau Facebook a mwy o gyfarfodydd, mae Radio Platfform wedi bod yn darlledu ers mis Mai 2017. Cychwynnodd gyda dim ond chwe pherson mewn dau grŵp, yn hyfforddi ac yn recordio sioeau â’i gilydd.

    Heddiw rydym wedi hyfforddi 25 o bobl anhygoel sydd wedi aros i recordio sioeau gyda ni. Ymysg ein niferoedd mae gennym ni: artistiaid geiriau llafar; beirdd; rapwyr; darpar newyddiadurwyr; ysgrifenwyr; artistiaid a llawer mwy o bobl ifanc hynod dalentog. Rydym yn siarad am y pethau sydd yn bwysig i ni, yn chwarae’r gerddoriaeth rydym ni’n ei garu ac yn tyfu’n gryfach pob dydd.

    Darganfod mwy

    Gwrandewch ar Radio Platfform ar Mixcloud

    Dilynwch @radioplatfform ar Twitter am y newyddion diweddaraf

    Hoffwch Radio Platfform ar Facebook

    Os hoffech ddarganfod mwy am Radio Platfform, cysylltwch â Arielle@promo.cymru.

    Os fwynhaoch chi’r erthygl hon a gyda diddordeb yn y gwaith rydym ni’n ei wneud yma yn ProMo-Cymru yna edrychwch ar ein herthyglau eraill yn yr adran Newyddion.


    Mae popeth yn cychwyn gyda sgwrs

    Mae ProMo-Cymru yn gweithio tuag at greu newid positif a pherthnasau parhaol rhwng unigolion, teuluoedd a chymunedau. Rydym yn darparu datrysiadau arloesol a chreadigol gyda sgyrsiau ystyrlon a thechnoleg ddigidol. Os hoffech drafod sut gall ein Model TYC helpu eich sefydliad yna cysylltwch.

    029 2046 2222
    info@promo.cymru
    @ProMoCymru

  3. Pam fu Public Service Broadcasting yn recordio yn yr EVI?

    by Arielle Tye | 6th Gor 2017

    Mae cyffro mawr ynghylch â thrydydd albwm Public Service Broadcasting, Every Valley, sy’n cael ei ryddhau heddiw. Pam bod hyn yn arwyddocaol i ProMo-Cymru?

    Dewisodd Public Service Broadcasting recordio eu halbwm newydd yn Institiwt Glyn Ebwy (EVI). Mae’r EVI yn brosiect adfywio mae ProMo-Cymru wedi bod yn gweithio arno gyda’r gymuned am y 10 mlynedd diwethaf.

    Yn ogystal â recordio eu halbwm newydd yno, perfformiwyd dwy sioe anhygoel yno fis Mehefin, ble lansiwyd yr albwm i dorf llawn.

    EVI ydy’r institiwt hynaf yng Nghymru yn dyddio’n ôl i 1849.

    Pam gymerodd ProMo-Cymru yr awenau yn yr EVI, roedd yr adeilad yn wag ac mewn cyflwr drwg iawn. Fel llawer o adeiladau cymunedol o’r fath yng Nghymru, credwyd nad oedd posib cynnal yr EVI. Teimlai sawl un bod drysau’r adeilad wedi cau am y tro olaf.

    Ond ar yr 8fed o fis Mehefin 2017, roeddwn yn sefyll ymysg cannoedd o bobl yn gwylio Public Service Broadcasting yn lansio eu halbwm Every Valley yn yr union adeilad. Roedd yn llawn pobl leol, pobl o Lundain a ffans ar grwydr. Roeddwn yn sefyll wrth ochr y côr meibion lleol, lleisiau gwadd ar yr albwm.

    “Yn byw yn Ne Cymru nid oes posib dianc o’r hanes, ond mae yna rywbeth arbennig iawn yn y ffordd roedd PSB yn dweud y stori mewn awyrgylch mor unigryw.”

    Ar Every Valley mae John Willgoose a’i fand yn ein tywys ar siwrne i lawr y siafft gloddfa yng nghymoedd De Cymru. Maent yn defnyddio cerddoriaeth i archwilio hanes, dyna reswm yr enw, yn defnyddio darnau archif recordiau sain a gweledol. Roedd yr egni a’r emosiwn yn llethol. Roeddem yn gwylio lluniau a delweddau symudol o feysydd glo De Cymru a bechgyn ifanc lleol yn gweithio dan y ddaear gydag wynebau’n ddu gyda llwch glo. Yn byw yn Ne Cymru nid oes posib dianc o’r hanes, ond roedd rhywbeth arbennig iawn yn y ffordd roedd PSB yn adrodd y stori mewn amgylchedd mor unigryw.

    Treuliodd Public Service Broadcasting fis Ionawr yn yr EVI.

    Llogodd PSB y neuadd, ei osod allan yn ôl eu hangen, a defnyddio’r gofod i recordio Every Valley. Gwahoddwyd lleisiau gwadd o Gymru hefyd gan gynnwys James Dean Bradfield o’r Manic Street Preachers a’r gantores Cymraeg Lisa Jen Brown.

    Cyfweliad: J Willgoose Esq. o Public Service Broadcasting

    Roeddwn yn ffodus iawn i gael sgwrs gyda John Willgoose yn dilyn y gig. Gofynnais iddo am ei brofiad o ddefnyddio’r cyfleusterau a pam dewis y lleoliad yma.

    Dywedodd John fod y band roc Americanaidd My Morning Jacket wedi bod yn ysbrydoliaeth iddo, ac roedden nhw wedi llogi neuadd enfawr, ei lenwi â’u stwff a chreu record yno.

    “Roedd yn teimlo fel ffordd DIY o wneud pethau a pan welais lun o neuadd yr EVI roedd yn teimlo’n iawn.” Roedd gwraig John wedi darganfod yr EVI wrth chwilio am leoliadau. Mae gan yr adeilad stiwdio ei hun hefyd, Leeders Vale, felly roedd yn lleoliad perffaith.

    Gofynnais pam Cymru, pam y cymoedd? Dywedodd John eu bod eisiau gwneud albwm am y diwydiant mwyngloddio. Mae’r record yn drosiad o faterion byd-eang llawer mwy. Dewiswyd y diwydiant mwyngloddio Cymraeg fel ffordd i, “roi goleuni ar y difreintiedig”.

    “… pan welais lun o neuadd yr EVI roedd yn teimlo’n iawn.”

    Dywedodd John fod cryfder y gymuned yng Nghymru wedi creu argraff arno. Daeth yn amlwg bod yr albwm yma yn ymwneud yn fawr iawn â’r gymuned.”

    “Roedd Cymru yn apelio i mi, natur y cymoedd, y cymunedau yma oedd yn ddibynnol ar fwyngloddio ac wedi’u siapio a’u sbarduno ganddo.

    I unrhyw un sydd yn byw yn yr ardal, nid oedd y geiriau yma yn syndod i ni. Mae gan y cymoedd ddyfnder anhygoel sydd yn llawn diwylliant. Ond mae’r cymoedd yn aml yn brwydro i gael llais yn y byd. Ond, os ydych chi’n ddigon ffodus i ymweld, mae’n amhosib peidio’i glywed.

    Dywedodd John wrthyf, “nid fampiyrs drwg o Lundain ydym ni, yn sugno’r hanes allan o Gymru i wneud albwm.” Roeddent yno i ddysgu, gwrando, hyrwyddo’r hanes a bod yn rhan ohono.

    Beth ydy’r EVI?

    Y profiadau yma sydd yn gwobrwyo’r holl waith caled. Mae yna 6 o staff yn gweithio yn yr EVI. Mae’n cael ei gynnal o’r refeniw llogi ystafelloedd, y caffi cymunedol 1849 (gyda’i bitsas, paninis a the a choffi anhygoel), y stiwdio, bar a lleoliad i ddigwyddiadau. Mae yna ddosbarthiadau, ystafelloedd ymarfer cerddoriaeth ac un o’r gosodiadau stiwdio gorau yng Nghymru.

    Mae’n syndod dod o hyd i le fel hyn yn y cymoedd. Roeddent yn wylaidd iawn pan ddywedais pa mor eiconig oedd hyn yn hanes yr EVI. Roedd yna werthfawrogiad o’r ddau ochr. Roeddent yn ddiolchgar o’n darganfod, ac roeddem yn llawn edmygedd am ba mor anhygoel oedd hyn i’r gymuned.

    Unrhyw gyngor i ddarpar gerddorion?

    Mae ProMo-Cymru yn fenter gymdeithasol yn gweithio i ddatblygu pobl ifanc, felly cipiais y cyfle i holi am gyngor i unrhyw ddarpar gerddorion.

    “Gweithio’n galed iawn, ymarfer yn galed iawn, chwarae cymaint â phosib (gallech chi fforddio), cael allan yno. Bydd neb yn dod i chwilio amdanoch chi. Nid ydych yn gwybod beth sydd allan yna ac ni lwyddais i gyrraedd unlle nes oeddwn i dros 30 oed. Ond ar ôl dechrau meddwl nad oeddwn am lwyddo, newidiodd popeth, felly cadwch ati.”

    Diolch John a’r band, roeddem wrth ein boddau yn cael eich cwmni.

    “Mae’n wych, roeddwn wrth fy modd yn bod yno. Mae’n le arbennig, yng nghalon cymaint o bethau da a phositif” – John Willgoose, Public Service Broadcasting, Mehefin 2017


    Os oes gennych chi ddiddordeb mewn defnyddio rhai o’r gofodau anhygoel yn yr EVI yna cysylltwch:

    EVI
    Church Street
    Glyn Ebwy
    NP23 6BE

    Gwefan: www.ebbwvaleinstitute.org
    Ffôn: 01495 70 8022
    E-bost: info@ebbwvaleinstitute.org

    Ac os hoffech weithio gyda ni ar brosiect cymunedol a diwylliannol, yna cysylltwch ar 029 2046 2222 neu info@promo.cymru

    Datblygiad Cymundol a Diwylliannol